English icon English
J13-Abergwyngregyn (Eastbound)-1 (003)

Dyfarnu contract ar gyfer cynllun £29 miliwn Tai’r Meibion ar yr A55 – wrth i welliannau i drafnidiaeth Gogledd Cymru barhau

Contract awarded for £29m A55 Tai’r Meibion scheme – as North Wales transport improvements continue

Mae’r gwaith ar wella yr A55 Aber i Tai’r Meibion i ddechrau ar ddiwedd mis Mawrth, yn ȏl cyhoeddiad gan Ken Skates, Gweinidog Gogledd Cymru heddiw [dydd Iau, 27 Chwefror]. 

Embargo tan 00.01 Dydd Iau, Chwefror 27

Mae’r gwaith ar wella yr A55 Aber i Tai’r Meibion i ddechrau ar ddiwedd mis Mawrth, yn ȏl cyhoeddiad gan Ken Skates, Gweinidog Gogledd Cymru heddiw [dydd Iau, 27 Chwefror]. 

            Mae’r cynllun £29m yn rhan o becyn gwerth £1 biliwn o welliannau yn y seilwaith trafnidiaeth a ffyrdd ledled Gogledd Cymru dros y 10 mlynedd nesaf.    

Bydd y cynllun yn gwella diogelwch ar hyd y 2.2km o ffordd trwy ddileu mynediad uniongyrchol oddi ar yr A55 yn ogystal â dileu wyth bwlch yn y llain ganol sydd ar hyn o bryd yn caniatáu i gerbydau amaethyddol sy’n symud yn araf groesi’r A55. 

Yn lle hyn, bydd ffordd mynediad cyfun a llwybr teithio llesol rhwng Cyffyrdd 12 ac 13.  Bydd y cynllun hefyd yn lleihau risg llifogydd yn yr ardal trwy ddarparu system ddraenio well.  Cafodd gwaith draenio uwch brys ei wneud yno yn 2017 sydd eisoes wedi golygu gwelliant. 

I leihau unrhyw darfu, bydd cymaint â phosibl o waith yn cael ei gwblhau oddi ar yr A55, gan gynnwys adeiladu’r ffordd 1.3km o fynediad cyfun a llwybr teithio llesol.  Yna caiff dulliau rheoli traffig dros dro eu gosod yn yr hydref yn dilyn yr embargo ar waith ar yr A55 yn ystod yr haf.  Bydd pedair lȏn o draffig fodd bynnag yn cael eu cadw yn ystod y dydd a bwriedir cwblhau’r adeiladu erbyn hydref 2021.

Meddai Ken Skates: “Heddiw dwi’n cyhoeddi fy mwriad i ddyfarnu’r contract ar gyfer cynllunio ac adeiladu cynllun yr A55 Aber Tai’r Meibion fydd yn galluogi’r gwaith i ddechrau ddiwedd Mawrth.

“Bydd yn cynllun yn golygu gwelliannau gwirioneddol i ddiogelwch ar y rhan hwn o’r A55, ac amddiffynfa well i’r ardal yn erbyn llifogydd, gan olygu bod y ffordd yn gallu ymdopi’n well i’r bygythiad o newid hinsawdd. 

“Mae’r gwelliannau hyn yn rhan o raglen ehangach o fuddsoddiadau mewn trafnidiaeth ledled Gogledd Cymru fydd yn digwydd dros y blynyddoedd nesaf, er mwyn sicrhau bod ffyrdd yn ymdopi’n well, a darparu seilwaith trafnidiaeth integredig.    

“Byddaf hefyd yn ymweld â safle ffordd osgoi Caernarfon a Bontnewydd heddiw, sy’n un o’r prosiectau seilwaith mwyaf sy’n digwydd ar hyn o bryd yng Ngogledd Cymru, fydd yn dod â manteision mawr i’r economi leol yng Ngogledd-orllewin Cymru, tra’n rhyddhau tagfeydd a gwella safon bywyd o fewn cymunedau lleol. 

 “Yn hwyrach heddiw byddaf hefyd yn ymweld â chynllun teithio llesol Rhos Point yn Llandrillo-yn-Rhos.  Rydym wedi dyfarnu £766k i Gyngor Bwrdeistref  Conwy ar gyfer gwaith strwythurol ar y traeth, er mwyn ehangu’r llwybr presennol.  Bydd y cynllun hwn yn llenwi’r bwlch yn Llwybr Beicio Cenedlaethol rhif 5 mewn lleoliad poblogaidd i feicwyr ac sy’n brysur gyda cerddwyr a thraffig. 

“Yn ogystal â dechrau gwaith ar gynllun yr A55 Tai’r Meibion rwyf hefyd yn bwriadu cyhoeddi gorchmynion drafft ar gyfer prosiect A494 Pont Afon Dyfrdwy, ymgynghori ar opsiynau ar gyfer gwelliannau i’r A483 Cyffyrdd 3 i 6 a chynnal arddangosfeydd gwybodaeth i’r cyhoedd ar gyfer gwelliannau i Goridor Sir y Fflint yn ystod y gwanwyn eleni.

“Er mwyn darparu seilwaith drafnidiaeth aml-ddull ar gyfer Gogledd Cymru, rydym yn buddsoddi ar draws y meysydd sydd gennym gyfrifoldeb drostynt, gan gynnwys gwasanaethau a llwybrau newydd ar gyfer ein trenau, treialon bws ymatebol a chynlluniau ar y ffyrdd i ryddhau tagfeydd a gwella mynediad at drafnidiaeth gyhoeddus. 

“Dwi’n galw ar Lywodraeth y DU i chwarae eu rhan hefyd ac i roi arian cyfatebol i fuddsoddiad Llywodraeth Cymru mewn trafnidiaeth yn y rhanbarth, na welwyd ei debyg o’r blaen.  Mae’n bryd i arfordir Gogledd Cymru, er enghraifft, dderbyn y sylw a’r buddsoddiad y mae’n ei haeddu, ac i gael ei drydaneiddio.” 

Note

Following the awarding of the contract there is a 10-day standstill period.