Dyfarnu dros £7 miliwn ar gyfer ffordd fynediad Maes Awyr Llanbedr
Over £7m awarded for Llanbedr Airfield access road
Cyhoeddodd Gweinidog yr Economi a Gogledd Cymru Ken Skates heddiw fod Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo dros £7 miliwn o gyllid ychwanegol tuag at adeiladu ffordd fynediad newydd Llanbedr yng Ngwynedd. Golyga hyn fod Llywodraeth Cymru wedi buddsoddi bron i £10 miliwn yn y cynllun.
Bydd y cyllid yn gwella mynediad at ganolfan Awyrofod Eryri ym maes awyr Llanbedr. Nododd Ardal Fenter Eryri fod gwella mynediad o’r A496 yn Llanbedr yn brosiect seilwaith allweddol er mwyn gwireddu potensial economaidd yr ardal.
Ar hyn o bryd mae mynediad at y maes awyr drwy’r pentref ei hun ar hyd ffordd gul sy’n gallu bod yn llawn tagfeydd traffig. Yn ogystal â gwella mynediad at y maes awyr bydd hefyd o fudd i bentrefwyr drwy gael gwared ar y traffig sy’n teithio tua’r maes awyr. Bydd lleihau’r traffig trwodd hefyd yn gwella’r amwynder ar gyfer cerddwyr a beicwyr.
Caiff y cynllun ei gyflenwi gan Gyngor Gwynedd. Bydd gwerth £7.5 miliwn o gyllid ERDF hefyd ar gael i’r Cyngor ar gyfer adeiladu ffordd gangen i’r maes awyr a darparu unedau busnes ar safle’r maes awyr.
Bydd y ffordd fynediad hefyd yn gwneud y safle’n fwy deniadol i fusnesau eraill i leoli eu hunain yn y maes awyr, a bydd y gwaith adeiladu’n sbarduno manteision economaidd i’r ardal leol.
Dywedodd Ken Skates: “Rwy’n falch i gyhoeddi y gallwn ymrwymo £7.38 miliwn i ffordd fynediad Llanbedr, a fydd bellach yn caniatáu i’r cynllun fynd rhagddo. Nododd Ardal Fenter Eryri ei fod yn ddatblygiad allweddol er mwyn manteisio i’r eithaf ar botensial economaidd y maes awyr a Chanolfan Awyrofod Eryri.
“Bydd cyfleoedd am swyddi a hwb i’r economi leol yn ystod y gwaith adeiladu. Bydd y ffordd fynediad ei hun hefyd yn gwneud y safle’n fwy atyniadol er mwyn denu mwy o fusnesau i’r ardal ac yn lleihau tagfeydd ym mhentref Llanbedr. Bydd yn rhan o’n cynlluniau ar gyfer yr adferiad yn dilyn pandemig COVID-19.”
Dywedodd Arweinydd Cyngor Gwynedd, y Cynghorydd Dyfrig Siencyn: “Rydym yn ddiolchgar i Lywodraeth Cymru am gadarnhau’r cyllid hwn, a fydd yn caniatáu inni symud ymlaen i wireddu’r cynllun hanfodol hwn. Mae datblygu safleoedd allweddol er mwyn creu swyddi o safon uchel yn bwysicach nag erioed gan fod ein cymunedau’n wynebu anawsterau economaidd yn sgil argyfwng COVID-19. Bydd cwblhau’r gwaith hwn yn cael effaith gadarnhaol sylweddol ar ddenu busnesau o safon i Ganolfan Awyrofod Eryri. Mae’r gallu i leihau’r tagfeydd traffig sydd wedi bod yn faen tramgwydd i’r gymuned hon ers degawdau yr un mor bwysig inni, ac edrychwn ymlaen at fwrw ati gyda’r gwaith hanfodol hwn.”