English icon English
Modularhousing-2

Dylai tai modiwlar wedi eu ‘cynhyrchu mewn ffatri’ gael eu defnyddio i gynyddu’r cyflenwad tai yng Nghymru ar fyrder – Julie James

‘Factory-made’ modular housing should be used to quickly increase supply in Wales – Julie James

Bydd y Gweinidog Tai, Julie James, yn datgan heddiw y dylai tai modiwlar wedi eu ‘cynhyrchu mewn ffatri’ gael eu defnyddio i gynyddu’n gyflym y nifer o dai cymdeithasol fforddiadwy, o ansawdd uchel, sy’n cael eu hadeiladu ar draws Cymru – fel rhan o strategaeth newydd gan Lywodraeth Cymru i roi hwb cychwynnol i ddulliau modern yn y diwydiant adeiladu.

Mae Llywodraeth Cymru am i gynghorau adeiladu llawer mwy o dai cyngor yn gyflym ac ar raddfa eang; fodd bynnag, maent yn wynebu’r un cyfyngiadau tra hysbys ar eu gallu i wneud hynny â’r rheini a wynebir gan adeiladwyr tai traddodiadol.

Er mwyn cyflenwi tai yn gyflym, bydd cynghorau’n cael eu hannog i ddefnyddio dulliau adeiladu modern, a fydd yn golygu bod modd iddynt adeiladu cartrefi o ansawdd gwell yn gynt nag sy’n bosibl drwy ddefnyddio dulliau traddodiadol. Bydd hyn yn eu galluogi i ddiwallu’r angen cynyddol am dai fforddiadwy ar draws y wlad.

Mae ystod y dulliau adeiladu modern yn amrywio o ddefnyddiau a thechnoleg newydd i weithgynhyrchu oddi ar y safle sydd naill ai yn disodli dulliau adeiladu  traddodiadol neu yn cael eu defnyddio ochr yn ochr â nhw.

Bydd y cyfleoedd sy’n dod yn sgil dulliau adeiladu modern hefyd yn dod â manteision newydd sylweddol i economi Cymru.

Er mwyn cefnogi busnesau Cymreig, mae Gweinidogion yn bwriadu gwneud yn siŵr y bydd y genhedlaeth newydd hon o gartrefi yn cael ei hadeiladu o ddefnyddiau sy’n asedau cenedlaethol, megis dur a phren o Gymru. Bydd hefyd ffocws ar ddefnyddio’r diwydiant dulliau adeiladu modern sy’n datblygu yng Nghymru er mwyn gweithio tuag at gyflawni uchelgeisiau cymdeithasol a moesegol, gan gynnwys datblygu sgiliau ac arbenigedd technegol arloesol yn y cymunedau hynny sydd wedi dioddef fwyaf yn sgil dirywiad y diwydiannau traddodiadol. Bydd buddsoddi hefyd yn gymorth i gwmnïoedd gyflogi gweithlu lleol.

Ymhlith y manteision eraill mae:

  • Creu swyddi newydd a datblygu’r sgiliau newydd sydd eu hangen i allu defnyddio dulliau adeiladu modern yn fwy, proses a fydd yn golygu newid sylfaenol yn y diwydiant adeiladu;
  • Diweddaru sgiliau’r gweithlu adeiladu presennol;
  • Denu newydd-ddyfodiaid amrywiol o grwpiau ar y cyrion megis troseddwyr a phobl na fyddai o reidrwydd yn ystyried gyrfa mewn adeiladu traddodiadol megis menywod.

Fel rhan o strategaeth newydd Dulliau Adeiladu Modern Llywodraeth Cymru ‘Ailddychmygu’r ffordd y caiff tai cymdeithasol eu hadeiladu yng Nghymru’, a gyhoeddir heddiw, mae Gweinidogion yn gwneud buddsoddiad mawr o £45m yn y diwydiant tai modiwlar yng Nghymru er mwyn sicrhau ei fod yn gallu cyflenwi’r genhedlaeth nesaf o dai cymdeithasol y mae eu hangen ar bobl.

Mae £20m ar gael i fusnesau dulliau adeiladu modern sydd eisiau adeiladu’r genhedlaeth nesaf o dai cymdeithasol, mewn partneriaeth â landlordiaid cymdeithasol yng Nghymru.  Bwriad y buddsoddiad hwn yw hybu’r farchnad, yn enwedig BBaCH, a’u helpu i ddatblygu seilwaith gweithgynhyrchu oddi ar y safle megis cadwynau cyflenwi, ffatrïoedd, a chanolfannau datblygu sgiliau a fydd yn diwallu anghenion y genhedlaeth nesaf o dai cymdeithasol yng Nghymru.

Mae £25m ychwanegol ar gael ar gyfer rownd 4 Rhaglen Tai Arloesol Llywodraeth Cymru, a fydd yn canolbwyntio ar dai arloesol wedi eu hadeiladu drwy ddefnyddio dulliau adeiladu modern.

Mae’r strategaeth yn cefnogi uchelgais Llywodraeth Cymru i leihau allyriadau carbon o’r sector adeiladu tai. Mae hi hefyd o gymorth i’r broses o symud tuag at economi gylchol, gan y gallai defnyddio dulliau adeiladu modern leihau gwastraff adeiladu hyd at 70-90%.

Gwelodd y Gweinidog Tai ddulliau adeiladu modern drosti ei hunan heddiw wrth iddi ymweld â’r cwmni SO Modular yng Nghastell-nedd, cwmni sydd eisoes yn cyflenwi’r farchnad tai cymdeithasol yng Nghymru.

Dywedodd y Gweinidog Tai, Julie James:

“Mae adeiladu mwy o gartrefi cymdeithasol a fforddiadwy yn flaenoriaeth allweddol i Lywodraeth Cymru. Dros y pedair blynedd diwethaf, mae’r Llywodraeth hon wedi buddsoddi £2 biliwn mewn tai newydd ar draws Cymru, fel rhan o’n huchelgais i ddarparu 20,000 o gartrefi fforddiadwy erbyn 2021.

“Ond rydym yn awyddus i wneud mwy fyth. Ac rydym am adeiladu tai gwell.  Bydd y buddsoddiad sylweddol yr ydym yn ei wneud yn y diwydiant adeiladu modiwlar yn ein galluogi i wneud hynny.

“Mae’r adeg pan oedd dulliau adeiladu modern yn cael eu cysylltu â thai parod, dros dro, o ansawdd gwael, wedi hen fynd heibio; erbyn hyn mae’r diwydiant dulliau adeiladu modern yn cynhyrchu cartrefi fforddiadwy dymunol, o ansawdd da, sy’n arbed ynni y gall tenantiaid frolio amdanynt. Yn sicr rydym wedi symud o ‘Pre-ffab’ i ‘Ab-ffab’!

“Mae datblygu’r diwydiant dulliau adeiladu modern yng Nghymru yn cynnig cyfle gwych inni nid yn unig i adeiladu tai cymdeithasol newydd hyfryd ond hefyd i roi hwb cychwynnol i ddiwydiant newydd a fydd yn dod yn fwyfwy pwysig yn ein heconomi." 

Cyhoeddir y strategaeth fel ymateb i argymhelliad gan Arolwg Llywodraeth Cymru o’r Cyflenwad Tai Fforddiadwy, a oedd yn nodi bod Dulliau Adeiladu Modern yn ffordd o gynyddu’r cyflenwad o dai yn gynt.