Dylunydd Cymreig sydd wedi syfrdanu cynulleidfaoedd byd-eang i oleuo Uwchgynhadledd Buddsoddi Cymru
Welsh designer who has dazzled global audiences to light up Wales Investment Summit
Mae dylunydd goleuo o Gaerffili, y mae ei sioeau wedi creu cryn argraff ar gynulleidfaoedd o Las Vegas i Dubai, yn dod â'i ddoniau adref i Gymru.
Bydd Paul James, sydd wedi goleuo llwyfannau ledled y byd ar gyfer artistiaid gan gynnwys y seren fyd-eang Rihanna a'r band o Gymru, Super Furry Animals yn perfformio i'r Prif Weinidog ac arweinwyr busnes o bob cwr o'r byd, gyda’r actor Cymreig Michael Sheen yn cyflwyno.
Mae Paul wedi treulio 25 mlynedd yn creu arddangosfeydd goleuadau arloesol a bydd yn arddangos ei waith i fwy na 300 o gynrychiolwyr o dros 27 o wledydd yn Uwchgynhadledd Buddsoddi Cymru ar 1 Rhagfyr.
Bydd y digwyddiad yn dod ag arweinwyr busnesau a chwmnïau o Gymru ynghyd i arddangos Cymru fel cyrchfan fuddsoddi. Ymhlith y Cymry a fydd yn estyn croeso cynnes bydd enillydd y Tour de France, Geraint Thomas a chyflwynydd The One Show y BBC, Alex Jones.
Dywedodd Paul:
"Rydw i wedi bod yn ffodus i weithio ar brosiectau anhygoel ledled y byd, ond mae rhywbeth arbennig am ddod â fy ngwaith adref i Gymru. Mae'n gyfle i ddangos i arweinwyr busnes rhyngwladol y creadigrwydd, yr arloesedd a'r arbenigedd technegol sydd gennym yma yng Nghymru. Rwy'n falch o fod yn rhan o ddigwyddiad sy'n rhoi Cymru ar y llwyfan byd-eang."
Dywedodd y Prif Weinidog, Eluned Morgan:
"Mae Uwchgynhadledd Buddsoddi Cymru yn gyfle gwych i ddangos i'r byd pam mai Cymru yw un o'r lleoedd gorau i fuddsoddi a gwneud busnes ynddi. Rydym yn dod ag arweinwyr o bob cwr o'r byd at ei gilydd i ddangos ein cryfderau mewn arloesi, ein gweithlu medrus, a'n hymrwymiad i dwf cynaliadwy.
"Mae gwaith anhygoel Paul, sy'n mynd â thalent o Gaerffili i lwyfannau mwyaf y byd, yn dangos yn berffaith yr uchelgais a'r rhagoriaeth y bydd buddsoddwyr rhyngwladol yn dod o hyd iddynt pan fyddant yn dod i Gymru."