WNS 110826 Ministerial Visit Sir Gar 089-2 cropped

Dyma Ddechrau eich Dyfodol: 35 o Gyfleoedd Prentisiaeth ledled Cymru

Your Future Starts Here: 35 Apprenticeship Opportunities Across Wales

Llywodraeth Cymru yn agor y drws i yrfaoedd newydd gyda 35 o gyfleoedd prentisiaeth

Mae Llywodraeth Cymru yn cynnig amrywiaeth o gyfleoedd prentisiaeth i helpu pobl i feithrin sgiliau wrth gyflawni dros bobl Cymru.

Mae’r prentisiaethau yn cwmpasu Cymru gyfan a bydd y cyfleoedd yn cynnig profiad ar draws y llywodraeth, o Drafnidiaeth a Thwristiaeth i Ynni ac Addysg.

Mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn cynnig cynllun prentisiaethau yn llwyddiannus ers nifer o flynyddoedd, gan ddarparu cyfleoedd datblygu gwerthfawr ar draws y sefydliad. Yn yr ymgyrch recriwtio ddiweddaraf, penodwyd tua 70 o unigolion drwy’r cynllun.

Gellir cyflwyno cais am y rolau prentisiaeth newydd o heddiw [17 Awst] hyd ddiwedd mis Medi.

Dywedodd Sam Faulkner, cyn-brentis sydd nawr yn Rheolwr Prentisiaethau a Thalent Gynnar yn Llywodraeth Cymru:

“Agorodd prentisiaeth y drws imi. Nawr rwy’n cael ei ddal ar agor i eraill.  Dechreuais fy ngyrfa fel prentis, yn chwilio am gyfle – beth wnes i ei ddarganfod oedd hyder a’r cyfle i wneud gwahaniaeth.

Roedd rhywun yn credu yn fy mhotensial i, a nawr rwy’n cael y fraint o wneud yr un peth i eraill. O brentis i Reolwr Prentisiaethau. Prawf y gall un cyfle newid popeth.”

Dywedodd Tia Mais, cyn-brentis sydd nawr yn Ymchwilydd Defnyddwyr yn Llywodraeth Cymru:

“Pan wnes i adael yr ysgol, doedd gen i ddim syniad beth fyddai fy nyfodol na pha lwybr gyrfa roeddwn i eisiau ei gymryd. Dewis prentisiaeth Digidol, Data a Thechnoleg gyda Llywodraeth Cymru oedd un o’r penderfyniadau gorau wnes i erioed. Wrth gwrs, roeddwn i’n nerfus. Doeddwn i erioed wedi gweithio o’r blaen, heb sôn am weithio yn y maes digidol. Ond dyna beth sy’n wych am brentisiaethau. Mae’n rhoi cyfle ichi ddechrau eich gyrfa, gosod nodau newydd a dysgu wrth ichi fynd. Nid yn unig ydw i wedi dod o hyd i yrfa werth chweil, rydw i hefyd wedi darganfod fy mhotensial trwy wthio fy hun a chwrdd â phobl anhygoel ar hyd y ffordd.”

Dywedodd y Dirprwy Weinidog dros Sgiliau ac Addysg Drydyddol, Cefin Campbell:

“Mae Llywodraeth Cymru yn gyflogwr cenedlaethol, ac rwy’n falch y gallwn ddangos ein hymrwymiad i brentisiaethau drwy gynnig y cyfleoedd hyn ledled Cymru. 

Mae buddsoddi mewn prentisiaethau yn rhan ganolog o system sgiliau Cymru ar gyfer y dyfodol, ac rwy’n gwybod pa mor werthfawr y gall y cyfleoedd hyn fod. Drwy’r cyfleoedd prentisiaeth hyn rydym yn rhoi ein harian ar ein gair ac yn darparu cyfleoedd i bobl ennill sgiliau a phrofiad o ansawdd uchel.

P’un a ydych chi newydd gael canlyniadau arholiadau, yn gadael yr ysgol neu’r brifysgol, neu’n bwriadu newid gyrfa, bydd cyfle ichi. Byddwn yn annog unrhyw un sy’n dymuno datblygu sgiliau newydd i wneud cais a’n helpu i ddarparu gwasanaethau cyhoeddus a chefnogi cymunedau ledled Cymru.”

Drwy gydol mis Medi cynhelir sioe deithiol prentisiaethau Llywodraeth Cymru, lle gall pawb sydd â diddordeb gofrestru i ddod i sesiwn yn un o’r swyddfeydd lleol, cwrdd â phrentisiaid presennol, a darganfod mwy am y cyfleoedd sydd ar gael. Gan gynnwys:

  • 7 Medi 2026 – Penlle’r-gaer
    Llys-y-Ddraig, Parc Busnes Penlle’r-gaer, Penlle’r-gaer, Abertawe, SA4 9NX
  • 8 Medi 2026 – Caerfyrddin
    Heol Picton, Caerfyrddin, Sir Gaerfyrddin, SA31 3BT
  • 9 Medi 2026 – Merthyr Tudful
    Parc Busnes Rhydycar, Merthyr Tudful, CF48 1UZ
  • 10 Medi 2026 – Parc Cathays
    Adeiladau’r Goron, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ
  • 14 Medi 2026 – Wrecsam
    Parc Busnes Yale, Ellice Way, Wrecsam, LL13 7YL
  • 15 Medi 2026 – Caernarfon
    Doc Fictoria, Caernarfon, Gwynedd, LL55 1TH
  • 16 Medi 2026 – Cyffordd Llandudno
    Sarn Mynach, Cyffordd Llandudno, Conwy, LL31 9RZ
  • 22 Medi 2026 – Aberystwyth
    Rhodfa Padarn, Llanbadarn Fawr, Aberystwyth, SY23 3UR
  • 23 Medi 2026 – Y Drenewydd
    Tŷ Ladywell, Park Street, Y Drenewydd, SY16 1JB
  • 24 Medi 2026 – Llandrindod
    Neuadd y Sir, Spa Road East, Llandrindod, Powys, LD1 5LG

DIWEDD

Nodiadau i olygyddion

Mae amserau penodol i bob digwyddiad ac mae angen cofrestru ymlaen llaw. Gellir dod o hyd i ragor o wybodaeth drwy glicio ar ddolen y digwyddiad neu yma.