English icon English
8-54

Ehangu cynllun cymorth iechyd meddwl ar gyfer meddygon i gynnwys pob gweithiwr gofal iechyd ar y rheng flaen yng Nghymru

Mental health support scheme for doctors extended to every frontline healthcare worker in Wales

  • Cynllun cymorth a chyngor am ddim yn cael ei ehangu i gynnwys 60,000 o weithwyr yng Ngwasanaeth Iechyd Gwladol (GIG) Cymru sy’n ymdrin â phandemig y coronafeirws.
  • Mwy na 2,000 o gyn-weithwyr iechyd a gofal cymdeithasol proffesiynol yn dychwelyd i’r rheng flaen i helpu i fynd i’r afael â COVID-19.

Heddiw, cyhoeddodd Vaughan Gething, y Gweinidog Iechyd, y bydd gwasanaeth cymorth iechyd meddwl sydd ar gael am ddim i feddygon yn cael ei ehangu. Bydd bellach yn darparu cymorth a chyngor i holl staff GIG Cymru sydd ar y rheng flaen yn ystod y pandemig COVID-19.

Mae Llywodraeth Cymru yn darparu £1m arall o gyllid i helpu’r gwasanaeth Iechyd i Weithwyr Iechyd Proffesiynol i gyflogi rhagor o seiciatryddion a chynghorwyr meddygol, cynnal rhagor o sesiynau cwnsela a rhagor o ymyriadau ar gyfer unigolion sy’n dioddef o Anhwylder Straen Wedi Trawma.

Bydd y gwasanaeth, sy’n cael ei gynnal gan Brifysgol Caerdydd, yn cynnig cymorth a chyngor ar lefel na welwyd mo’i thebyg o’r blaen i bob gweithiwr gofal iechyd proffesiynol. Mae hyn yn cynnwys meddygon, nyrsys, myfyrwyr gofal iechyd proffesiynol, parafeddygon, therapyddion, deintyddion a gwirfoddolwyr meddygol sy’n gweithio yng Nghymru yn ystod y pandemig COVID-19 ac a fydd yn parhau i weithio yma wedi hynny.

Bydd modd i staff GIG Cymru ffonio llinell gymorth gyfrinachol a fydd yn cael ei hateb gan weithwyr iechyd proffesiynol, cael sesiynau cwnsela wyneb yn wyneb ac offer hunangymorth ac adnoddau ar-lein.

Bydd y gwasanaeth ehangach hwn yn cael ei ddarparu gan feddygon sydd wedi ymddeol a staff gofal iechyd eraill sy’n dymuno cefnogi’r GIG yn ystod y pandemig, ond sy’n methu â dychwelyd i’r rheng flaen neu nad ydynt eisiau gwneud hynny. Bydd hefyd yn cynnwys uwch-academyddion sy’n gweithio’n llawnamser mewn rôl academaidd ar hyn o bryd ond sy’n dymuno darparu rhagor o gymorth.

Bydd y gwasanaeth hefyd yn cefnogi staff sydd wedi ymddeol ac sydd wedi dychwelyd i weithio a myfyrwyr gofal iechyd proffesiynol sy’n gwirfoddoli i helpu gyda’r ymateb i COVID-19 drwy Hyb COVID Cymru.

Hyd yma, mae dros 2,000 o gyn-weithwyr iechyd a gofal cymdeithasol proffesiynol wedi ailymuno â’r rheng flaen i helpu staff GIG Cymru i drin y nifer mawr o bobl a fydd angen gofal dros yr wythnosau a’r misoedd nesaf.

Mae’r rhain yn cynnwys:

  • 1,376 o feddygon
  • 417 o nyrsys
  • Mae 257 o weithwyr proffesiynol perthynol i iechyd a gwyddonwyr wedi mynegi eu diddordeb drwy gwblhau’r arolwg y GIG;
  • Mae 358 o fferyllwyr a thechnegwyr fferyllol wedi cael eu cynnwys ar gofrestr dros dro, gyda’r opsiwn o optio allan.

Dywedodd Vaughan Gething, y Gweinidog Iechyd a Gofal Cymdeithasol:

“Ni welwyd unrhyw beth tebyg i COVID-19 erioed. Mae staff ein Gwasanaeth Iechyd Gwladol yn gweithio ar y rheng flaen, yn gofalu am gleifion yn lleoliadau’r Gwasanaeth Iechyd ledled Cymru ac yn achub eu bywydau.

“Iechyd a lles ein holl staff ymroddedig yn y Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru sydd bwysicaf drwy'r amser, ond yn arbennig yn ystod y cyfnod heriol iawn hwn. Mae’n hanfodol, felly, ein bod yn gwneud popeth y gallwn ni i ofalu amdanyn nhw. Bydd y £1m o gyllid rwy’n ei gyhoeddi heddiw yn helpu i ehangu’r gwasanaeth Iechyd i Weithwyr Iechyd Proffesiynol yng Nghymru fel ei fod yn gallu ymdopi â’r galw ychwanegol gan staff y Gwasanaeth Iechyd.

“Mae’n bleser gennyf hefyd gadarnhau bod dros 2,000 o weithwyr iechyd a gofal cymdeithasol proffesiynol wedi penderfynu ailymuno â’u cydweithwyr ar y rheng flaen i helpu’r Gwasanaeth Iechyd i drin y nifer mawr o bobl a fydd angen gofal dros yr wythnosau a’r misoedd nesaf. Mae hyn yn wirioneddol wych ac rydyn ni’n ddiolchgar iawn.”

Dywedodd yr Athro Debbie Cohen, Cyfarwyddwr Iechyd i Weithwyr Iechyd Proffesiynol:

“Mae hwn yn gyfnod anodd iawn i weithwyr gofal iechyd sy’n gweithio ar y rheng flaen yn y frwydr yn erbyn COVID-19. Felly, rydyn ni’n ehangu ein cynllun cymorth i feddygon fel bod pawb yn gallu cael yr un cymorth seicolegol, waeth pa rôl maen nhw’n ei chwarae yng Ngwasanaeth Iechyd Cymru nac ym mha ran o Gymru maen nhw wedi’u lleoli.

“Efallai eu bod nhw’n teimlo’n euog nad ydyn nhw’n gallu mynd i’r gwaith pan fo eraill yn gallu mynd. Mae’n bosib eu bod yn teimlo trawma ar ôl gweld yr hyn maen nhw’n ei weld bob dydd ar y rheng flaen. Mae’n hollol hanfodol fod gan y gweithwyr hyn le cyfrinachol i fynd iddo lle maent yn teimlo eu bod yn gallu siarad gyda’u cydweithwyr a chael cymorth a chefnogaeth mewn ffordd sy’n gyfleus iddyn nhw. 

“Nid yw’r feirws hwn yn parchu ffiniau. Rhaid inni  felly  beidio â chael ein caethiwo gan  ffiniau wrth inni ymateb i’r feirws. Dyma sydd wrth wraidd yr hyn rydyn ni’n ceisio ei wneud.”

Mae’r gwasanaeth hwn ar gael drwy ffonio 0800 058 2738, ymweld â https://www.hhpwales.co.uk/ neu drwy e-bostio HHPCOVID19@cf.ac.uk

Gall staff hefyd ddefnyddio adnoddau rheoli straen yn rhad ac am ddim ar-lein ar www.stresscontrol.org