Enwau lleoedd cudd Cymru yn dod i'r amlwg
Wales's hidden place names brought to light
Mae enwau lleoedd hanesyddol sydd heb eu cofnodi hyd yma yn cael eu casglu mewn sesiynau cymunedol, gan ychwanegu at restr genedlaethol o fwy na 715,000 o gofnodion.
Mae sesiynau wedi cael eu cynnal ar draws Eryri, mewn partneriaeth ag Awdurdod y Parc Cenedlaethol, ac Ynys Môn, gan ychwanegu dros 7,000 o enwau at y rhestr. Mae'r gwaith bellach wedi ymestyn i Bannau Brycheiniog a Pharc Cenedlaethol Arfordir Penfro gyda sesiynau pellach wedi'u cynllunio ledled Cymru dros y flwyddyn i ddod.
Dywedodd Alice Thorne, Swyddog Treftadaeth Bannau Brycheiniog: "Mae enwau lleoedd yn cynnwys cenedlaethau o wybodaeth am ddealltwriaeth pobl o'r tir o’u hamgylch, ac maen nhw'n rhan bwysig o'n treftadaeth. Rydyn ni'n falch o weithio gyda'r Comisiwn Brenhinol a chymunedau ledled Bannau Brycheiniog i gofnodi'r wybodaeth leol hon a chryfhau cofnodion enwau lleoedd y Parc Cenedlaethol ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol."
Mae Rhestr o Enwau Lleoedd Hanesyddol Cymru yn cynnwys cannoedd o filoedd o enwau lleoedd, sy'n rhoi cipolwg ar hanes Cymru a'i hiaith. Mae ei guradur, Dr James January-McCann, wedi bod yn cynnal sesiynau cymunedol i gofnodi enwau lleoedd sy'n bodoli yn y cof lleol ond nad ydynt erioed wedi'u cofnodi'n ffurfiol.
Dywedodd Dr James January-McCann: "Mae cysylltiad cynhenid rhwng enwau lleoedd ac ymdeimlad cymuned o le a'i hunaniaeth. Trwy eu casglu cyn iddynt gael eu colli, rydym yn sicrhau bod y trysorau ieithyddol a diwylliannol hyn, a'r wybodaeth y maent yn ei grynhoi, yn goroesi."
Mae Dr January-McCann hefyd yn paratoi pecyn cymorth i ganiatáu i grwpiau cymunedol gynnal eu sesiynau annibynnol eu hunain a chyflwyno enwau a gasglwyd yn uniongyrchol i'r rhestr. Gall unrhyw un chwilio am enwau lleoedd ar fap ar-lein y rhestr, a gallant gyflwyno eu henwau lleoedd eu hunain drwy ddefnyddio offeryn cofnodi enwau lleol ar-lein Llywodraeth Cymru a lansiwyd yn ddiweddar.
Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros y Gymraeg, Mark Drakeford: "Mae enwau lleoedd hanesyddol yn ffenestr i'r grymoedd ieithyddol, cymdeithasol a hanesyddol sydd wedi siapio Cymru dros ganrifoedd. Ar ôl eu colli, mae'n amhosibl eu hadfer. Mae'r sesiynau hyn yn hanfodol i gofnodi enwau sy'n dal i gael eu cofio fel y bod modd iddyn nhw barhau i gael eu gweld, eu clywed a'u defnyddio."