Enwi Cadeirydd Panel Arbenigol yn y camau cyntaf tuag at asiantaeth datblygu economaidd newydd i Gymru

Expert Panel Chair named in first steps towards new economic development agency for Wales

  • Jonathan Lewis yn cael ei enwi'n gadeirydd panel arbenigol sy'n cynllunio asiantaeth datblygu economaidd newydd
  • Bydd yr asiantaeth yn helpu i gyflawni'r nod economaidd mwyaf uchelgeisiol yng Nghymru ers dau ddegawd, sef haneru'r bwlch cynhyrchiant gyda'r DU o fewn 10 mlynedd.
  • Bydd yr asiantaeth yn seiliedig ar arloesi, yn targedu mewnfuddsoddiad ac yn helpu busnesau Cymru i dyfu ac ehangu.

Mae cadeirydd wedi cael ei ddewis i arwain panel arbenigol sy'n llywio'r asiantaeth ddatblygu newydd i hybu economi Cymru a chreu swyddi gwell.

Dywedodd y Gweinidog Cabinet dros Fenter, Cysylltedd ac Ynni, Adam Price, wrth y Senedd am y penodiad heddiw (7 Gorffennaf) wrth iddo amlinellu'r camau cyntaf tuag at greu'r asiantaeth a fydd yn sbardun allweddol wrth leihau bwlch cynhyrchiant Cymru gyda'r DU o fewn 10 mlynedd.

Jonathan Lewis fydd yn llywio'r panel cynghori annibynnol a sefydlwyd i lunio cynllun a chylch gwaith yr asiantaeth datblygu economaidd newydd i Gymru.

Mae gan Mr Lewis brofiad busnes ac arweinyddiaeth helaeth ar draws prif sectorau gwasanaethau a seilwaith ledled y byd, yn enwedig ym maes ynni, peirianneg ac adeiladu a thechnoleg.  Ar hyn o bryd mae'n cadeirio gweithredwr porthladdoedd mwyaf y DU, Associated British Ports (ABP), ac mae'n gyfarwyddwr anweithredol yn Adura Energy.  Cyn hynny, roedd yn Brif Swyddog Gweithredol yn Capita plc ac AmecFosterWheeler plc. 

Treuliodd Mr Lewis lawer o'i yrfa yn y sector ynni yn yr Unol Daleithiau ac mewn marchnadoedd rhyngwladol eraill lle bu'n ymwneud â gwahanol asiantaethau datblygu cenedlaethol ledled y byd.

Bydd yr asiantaeth newydd yn canolbwyntio ar ddenu mewnfuddsoddiad, yn cefnogi busnesau Cymru i ehangu, ac yn rhoi arloesedd wrth wraidd datblygiad economaidd Cymru.

Bydd hefyd yn defnyddio arferion gorau yn rhyngwladol ac yn cysylltu â busnesau, cyrff a sefydliadau ledled Cymru.

Dywedodd y Gweinidog Cabinet dros Fenter, Cysylltedd ac Ynni, Adam Price:

“Rydym eisoes wedi cyhoeddi'r nod economaidd mwyaf uchelgeisiol yng Nghymru ers dau ddegawd, sef haneru'r bwlch rhwng cynhyrchiant Cymru a'r DU o fewn 10 mlynedd. Er mwyn cyflawni'r nod hwnnw, mae angen newid sylfaenol arnom o ran y ffordd yr ydyn ni'n datblygu'r economi yng Nghymru. 

“Bydd yr asiantaeth newydd yn ystwyth, yn ddeinamig ac wedi'i hadeiladu ar gyfer Cymru heddiw. Bydd arloesi wrth ei gwraidd — nid o ran datblygu cynnyrch newydd yn unig, ond o ran lledaenu a mabwysiadu syniadau newydd sy'n gwneud busnesau'n fwy cystadleuol ac yn gwella safon byw pobl.

“Dw i'n falch iawn bod Jonathan Lewis wedi cael ei benodi'n gadeirydd y panel cynghori arbenigol gan y Prif Weinidog. Bydd mewnwelediad a chyngor y panel ar fodel gweithredu'r asiantaeth newydd yn hanfodol.

“Nid yw'r asiantaeth hon yn ymwneud ag ail-greu'r gorffennol. Mae'n ymwneud ag adeiladu rhywbeth sy'n gallu sefyll allan yn fyd-eang, gan gysylltu'n effeithiol â chymunedau a busnesau ledled Cymru.

“Mae heddiw'n garreg filltir allweddol yn y daith i wneud Cymru y lle gorau yn y Deyrnas Unedig i ddechrau, tyfu a buddsoddi mewn busnes.”

Dywedodd Jonathan Lewis:

“Mae gwella cynhyrchiant Cymru yn greiddiol i wireddu ein ffyniant fel cenedl yn y dyfodol.  Dw i wrth fy modd bod y Prif Weinidog wedi gofyn i mi gadeirio panel o uwch-gynghorwyr sy'n gyfrifol am gynghori ar sut y gall asiantaeth arloesi a datblygu newydd fod yn sail i'r amcan hwn.”