English icon English
Fashion-Enter Ltd-2

Fashion-Enter Ltd yn cyflogi 77 o gyn-weithwyr Laura Ashley yn y Canolbarth gyda chymorth Llywodraeth Cymru

Fashion-Enter Ltd hire 77 former Laura Ashley workers in Mid Wales with Welsh Government support

Mae dros 70 o gyn-weithwyr Laura Ashley i ddychwelyd i’r diwydiant dillad yn dilyn penderfyniad Fashion-Enter Ltd i agor canolfan gynhyrchu newydd ym Mhowys gyda cymorth Llywodraeth Cymru, meddai Ken Skates, Gweinidog yr Economi. 

Mae Fashion-Enter Ltd (FEL), menter gymdeithasol sy’n arbenigo mewn hyfforddi a gweithgynhyrchu wedi derbyn buddsoddiad gan Lywodraeth Cymru, ac wedi sicrhau contract mawr gyda’r manwerthwr ffasiwn ar-lein ASOS.

Bu Llywodraeth Cymru yn gyflym iawn yn darparu cyllid o’r Gronfa Dyfodol yr Economi, gyda FEL yn defnyddio’r arian i sefydlu ei ffatri newydd yn Y Drenewydd. 

Yn dilyn cefnogaeth hollbwysig gan raglen cymhorthdal cyflog ReAct, bydd y 77 o gyn-weithwyr Laura Ashley, yn helpu ar y cychwyn i gynhyrchu 10,000 dilledyn yr wythnos ar gyfer y contract ASOS o ganolfan newydd FEL.  Bydd hyn yn cynyddu i 20,000 yr wythnos o fewn mis. 

Meddai Prif Swyddog Gweithredol FEL, Jenny Holloway: “Roedd nifer o’r pwythwyr yr ydym wedi eu cyflogi wedi bod yn gweithio i Laura Ashley am dros 35 mlynedd.  Roedd yn rhaid imi, o wybod eu bod am golli eu swyddi.  Hefyd, mae’n anodd dod o hyd i gynifer o bwythwyr profiaddol yn unlle bellach, maent fel aur.”

Bydd FEL yn defnyddio Warws y Royal Welsh, a elwir yn lleol yn Adeilad Pryce Jones. Mae’r adeilad nodweddiadol hwn yn berchen i’r Potter Group o’r Trallwng, sydd hefyd wedi buddsoddi yn yr adeilad er mwyn ei wneud yn haws i FEL ei ddefnyddio, ac roedd y tîm prosiect o gontractwyr, cyfreithwyr a syrfewyr yn gallu sicrhau bod y llety ar gael i’w ddefnyddio mewn cyfnod byr iawn.   

Bydd FEL hefyd yn darparu Cyfarpar Diogelu Personol ar gyfer y brand dillad moethus Private White VC.

Ychwanegodd Jenny Holloway: “Rydym yn hapus iawn o gael y cymorth a’r arweiniad gan Lywodraeth Cymru sydd wedi golygu bod Fashion-Enter yn gallu cyflogi staff, ac rydyn ni’n dal i chwilio am 30 o bwythwyr eraill.  Mae ein llyfr archebion yn llawn ar hyn o bryd, ac nid oes diwedd ar yr archebion.” 

Mae Fashion-Enter Ltd eisoes yn gweithredu yn unol â nifer o agweddau ar Gontract Economaidd Llywodraeth Cymru sydd wedi’i gynllunio i hyrwyddo gwaith teg a helpu cwmnïau i fod yn barod at y dyfodol.  Mae’r cwmni yn cyflogi seicolegwyr wedi’u hyfforddi i gefnogi eu staff ac wedi cynyddu enillion staff yn sylweddol trwy gyflwyno system dâl yn gysylltiedig â pherfformiad.   

Mae hefyd yn bwriadu sicrhau mwy o waith lleol a buddsoddi yn y lefelau sgiliau lleol drwy sefydlu academi decstiliau yn Y Drenewydd dros y misoedd nesaf, ac mae wedi ymrwymo i hyrwyddo arferion cynaliadwyedd da, a lleihau ei effaith ei hun ar yr  amgylchedd yn ogystal ag effaith ei bartneriaid a’i gleientiaid.  Mae hefyd wedi llofnodi i’r Cod Ymarfer ar gyflogi moesegol mewn cadwyni cyflenwi. 

Meddai Ken Skates, Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru: “Mae gan Bowys, ac ardal Y Drenewydd  yn arbennig, hanes gweithgynhyrchu cyfoethog, gydag unigolion dawnus a phrofiadol.  Dwi wrth fy modd bod Fashion-Enter Ltd wedi manteisio ar y cyfle hwn i ddefnyddio eu harbenigedd gwerthfawr ar y buddsoddiad pwysig hwn yn y Canolbarth, fydd yn golygu y bydd y traddodiad hwnnw yn parhau am flynyddoedd i ddod. 

“Dwi hefyd yn falch y bydd ein cymorth nid yn unig yn golygu bod cyn-staff Laura Ashley yn cael eu hail-gyflogi ar gyfnod o ansicrwydd economaidd o’r fath, ond bydd hefyd yn galluogi nifer o brentisiaid i feithrin sgiliau newydd, ac wrth wneud hynny yn cryfhau gwerth gweithgynhyrchu y rhanbarth ymhellach hyd yn oed.  Mae buddsoddiad Fashion-Enter Ltd mewn hyfforddiant ac uwchsgilio, a lles eu gweithlu, yn union y math o ymddygiad yr ydyn ni’n geisio ei annog gyda’n Contract Economaidd.”