Fferyllfeydd cymunedol yn dweud bod mwy yn manteisio ar y brechlyn ffliw wrth i Gymru gynnal ar ei rhaglen frechu fwyaf
Community pharmacies report increased flu vaccine uptake as Wales embarks on biggest vaccination programme
Ers y cyhoeddiad ym mis Gorffennaf gan Vaughan Gething, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, y byddai Cymru’n cynnal ei rhaglen frechu fwyaf rhag y ffliw erioed, mae'r nifer sy'n manteisio ar y brechlyn eisoes yn uchel.
Mae'r ffigurau diweddaraf yn dangos bod brechiadau rhag y ffliw mewn fferyllfeydd cymunedol ddeg gwaith yn fwy fis Medi eleni o'i gymharu â mis Medi 2019, gyda 16,323 o frechiadau wedi'u darparu eleni o'i gymharu â 1,652 yn yr un mis y llynedd.
Eleni, gyda'r potensial i’r coronafeirws a'r ffliw gylchredeg ar yr un pryd, mae pobl yn cael eu hannog i fanteisio ar eu brechlyn ffliw os ydynt yn gymwys, i'w diogelu eu hunain, eu teuluoedd, eu cymunedau a'r GIG.
Ochr yn ochr â chefnogi grwpiau cymwys presennol, gan gynnwys y rhai dros 65 oed, menywod beichiog a phobl â chyflyrau iechyd isorweddol, bydd y rhaglen yn gostwng yr oedran cymhwysedd o bobl 65 i dros 50 oed – a fydd yn cael eu brechu mewn o dipyn i beth gan ddechrau'n ddiweddarach eleni.
Heddiw (Dydd Mercher 7 Hydref”)cafodd y Gweinidog Iechyd, sydd yn y grŵp cymwys presennol, ei frechlyn rhag y ffliw ac mae'n annog eraill i dderbyn y cynnig os ydynt yn gymwys.
Dywedodd y Gweinidog, a gafodd ei frechiad yn y Well Pharmacy ym Mae Caerdydd: “Bob blwyddyn rwy'n cael fy ngwahodd i gael brechlyn rhag y ffliw oherwydd fy nghyflwr iechyd isorweddol fy hun, felly rwy’n gwybod pa mor bwysig yw ei gael.
“Eleni, wrth gwrs, mae pobl yn fwy ymwybodol byth am beryglon haint feirysol anadlol a'm neges i yw y dylech gael eich brechu os ydych yn gymwys.
"Rydym am ddiogelu cynifer o bobl â phosibl, yn enwedig y rhai sydd fwyaf agored i niwed yn ein cymuned, a pharhau i ddiogelu ein GIG. Dylai pawb sy'n gymwys i gael brechlyn ffliw'r GIG fod yn hyderus ynghylch ei gael a'r manteision a ddaw yn ei sgil. Mae'n eithriadol o bwysig bod y rhai sy'n gweithio yn y GIG sydd â chyswllt uniongyrchol â chleifion, mewn cartrefi gofal a'r rhai sy'n darparu gofal cartref yn eu diogelu eu hunain drwy gael eu brechu am ddim. Rwyf hefyd am annog pobl i atgoffa perthnasau a ffrindiau cymwys i gael eu brechlyn ffliw, er mwyn inni allu curo'r ffliw gyda'n gilydd.
“Mae'n galonogol gweld y ffigurau ar gyfer brechiadau rhag y ffliw mewn fferyllfeydd cymunedol fis Medi eleni. Mae'n dangos bod pobl yn gwneud y dewisiadau gorau i'w diogelu eu hunain a'u teuluoedd.
"Mae meddygfeydd a fferyllfeydd wedi archebu digon o gyflenwadau o’r brechlyn i'r rhai sy'n cael eu brechu flwyddyn ar ôl blwyddyn. Mae cyflenwadau ychwanegol wedi’u trefnu hefyd i gefnogi'r nifer cynyddol sy'n manteisio ar y brechlyn mewn grwpiau blaenoriaeth ac ar gyfer ein grwpiau
cymhwysedd estynedig. Mae'n bwysig cofio mai o dipyn i beth y bydd hyn yn cael ei wneud.
"Efallai y bydd rhaid i rai o'r rhai sy'n gymwys i gael brechlyn ffliw aros yn hirach nag arfer i gael apwyntiad, ond hoffwn sicrhau pawb bod digon o stociau ar gael i'r rhai yr argymhellir eu bod yn cael y brechlyn."
Dywedodd Russell Goodway, Prif Weithredwr Fferylliaeth Gymunedol Cymru: "Mae Fferylliaeth Gymunedol Cymru wrth ei bodd bod y Gweinidog Iechyd yn arwain drwy esiampl drwy gael ei frechiad blynyddol rhag y ffliw. Rydyn ni’n arbennig o falch ei fod wedi dewis, fel arfer, i gael ei frechu mewn fferyllfa gymunedol
"Mae'r rhwydwaith fferylliaeth gymunedol ledled Cymru yn paratoi ar gyfer ail don bosibl o Covid-19 dros yr hydref, gan wybod y gallai'r heriau yn ystod yr hydref a'r gaeaf fod yn fwy difrifol byth. Er mwyn helpu i ddiogelu'r GIG ar yr adeg dyngedfennol hon, mae'n bwysicach nag erioed i'r rhai sy'n gymwys i gael brechiad rhag y ffliw o dan i GIG drefnu i gael eu brechu ac mae'n ymddangos bod y neges bwysig hon yn llwyddo yn ei nod.
"Mae 86% o fferyllfeydd cymunedol yn cynnig y gwasanaeth brechu rhag y ffliw eleni (ac mae'r nifer hwn yn dal i dyfu), sef cynnydd o 5% ers y llynedd, a chynnydd o 10% ers 2018/19. O ran fferyllwyr cymunedol unigol sydd wedi'u hachredu i frechu, bu cynnydd o 32% yn y nifer sydd wedi’u hachredu ers mis Hydref 2019."