Fferyllfeydd yng Nghymru i ddarparu dau wasanaeth cenedlaethol newydd i drin dolur gwddf a haint y llwybr wrinol
Pharmacies in Wales to provide two new national services to treat sore throats and UTIs
Bydd dau wasanaeth ychwanegol ar gael yn y rhan fwyaf o fferyllfeydd cymunedol ar draws Cymru i drin cyflyrau cyffredin heb bresgripsiwn.
Mae Llywodraeth Cymru yn buddsoddi £6 miliwn ychwanegol mewn fferyllfeydd cymunedol i sicrhau bod y gwasanaeth profi a thrin dolur gwddf a gwasanaeth haint y llwybr wrinol (UTI) ar gael mewn 99% o fferyllfeydd cyn y gaeaf.
Bydd cyflwyno'r gwasanaethau yn helpu i roi mynediad i bobl at ofal am ddim gan y GIG heb apwyntiad meddyg teulu a bydd yn sicrhau bod y GIG yn gwneud y mwyaf o sgiliau ac arbenigedd fferyllwyr, a thechnegwyr fferyllfeydd.
Bydd y gwasanaeth profi a thrin dolur gwddf, sydd wedi ennill sawl gwobr, a'r gwasanaeth UTI newydd a gafodd ei gyflwyno yn ystod yr haf y llynedd, ar gael yn genedlaethol o 4 Mehefin a 1 Hydref ymlaen, yn y drefn honno.
Dywedodd yr Ysgrifennydd Iechyd, Jeremy Miles: “Mae fferyllfeydd cymunedol yn chwarae rhan hanfodol wrth ddarparu gofal iechyd ar draws Cymru. Mae'r buddsoddiad ychwanegol hwn yn sicrhau y gallant barhau i wasanaethu cymunedau'n effeithiol.
“Bydd y cytundeb hwn yn sicrhau bod y gwasanaeth profi a thrin dolur gwddf profedig yn cael ei gyflwyno'n genedlaethol ochr yn ochr â'r gwasanaeth UTI newydd.
“Mae'r rhaglenni hyn yn rhan o'n hymrwymiad i wneud yn siŵr y gall pobl gael gofal yn agosach at eu cartref, a bydd ehangu mynediad at y gwasanaethau hyn yn golygu y gall mwy fyth o bobl yng Nghymru gael mynediad at y gofal iawn, yn y lle iawn, ar yr adeg iawn.”
Daw'r buddsoddiad ychwanegol mewn fferylliaeth gymunedol yn dilyn trafodaethau rhwng Llywodraeth Cymru, Fferylliaeth Gymunedol Cymru a GIG Cymru.
DIWEDD