English icon English

Ffordd ym Mro Morgannwg yn Derbyn Gwobr Adeiladu

Vale of Glamorgan road recognised with construction award

Mae ffordd ym Mro Morgannwg wedi cael ei chydnabod yng Ngwobrau ‘Adeiladu Arbenigrwydd yng Nghymru’ 2020, ar ôl i Ffordd Fynediad y Gogledd Sain Tathan ennill y wobr am brosiect peirianneg sifil y flwyddyn.

Cafodd y ffordd newydd, sy’n werth £15 miliwn, ei hagor gan Weinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru, Ken Skates, ar 30 Medi 2019. Cafodd ei hariannu gan Lywodraeth Cymru a’i hadeiladu gan Alun Griffiths (Contractwyr) Ltd o’r Fenni.

Mae’r ffordd yn rhoi mynediad i Barc Busnes Sain Tathan – sy’n gartref i gwmnïau mawr fel Aston Martin Lagonda, eCube Solutions a Bristow Helicopters. Felly, mae’n gyswllt economaidd pwysig a fydd yn galluogi mewnfuddsoddiadau ac yn annog datblygiadau yn y dyfodol.   

Wrth adeiladu’r ffordd cafodd cryn ddarpariaeth ei chreu ar gyfer teithio llesol, yn ogystal â manteision ar gyfer bioamrywiaeth. Mae cynllun goleuo pwrpasol, a gafodd ei ddylunio ar y cyd â Chyfoeth Naturiol Cymru, wedi cael ei roi ar waith, i liniaru’r effeithiau ar bathewod ac ystlumod, ac arweiniodd ymgynghori ag arbenigwr ar bysgod at ddylunio cwlfer unigryw i helpu pysgod i deithio drwy eu cynefinoedd. 

Dywedodd Ken Skates, Gweinidog yr Economi Trafnidiaeth a Gogledd Cymru:

“Mae Bro Tathan yn rhan sylweddol o seilwaith economaidd Cymru, ac mae’r ffordd hon yn rhoi’r mynediad sydd ei angen yn fawr iawn at yr holl gyfleoedd sy’n bodoli yn y Parc Busnes.

“Mae pob prosiect adeiladu yn wynebu heriau, ac yn achos y prosiect hwn aethpwyd i’r afael â phob un o’r heriau hyn mewn modd arloesol a chreadigol dros ben. Hoffwn i ddiolch i bawb oedd yn rhan o’r prosiect am eu gwaith caled – mae’n dda gen i eu bod wedi derbyn y gydnabyddiaeth maen nhw’n ei haeddu drwy’r wobr hon.”

Dywedodd Ian Thomas, Rheolwr Prosiect Alun Griffiths:

“Rydyn ni wrth ein boddau yn cael ein cydnabod am ein rhan ni wrth gwblhau Ffordd Fynediad y Gogledd. Roedd wir yn bleser bod yn rhan o ethos y tîm hwn, lle roedd cydweithio ac arloesi’n werthoedd craidd, a phob aelod o’r tîm yn gweithio i drechu’r heriau.”

Dywedodd Rhys Mander, Cyfarwyddwr Rhanbarthol AECOM:

“Mae AECOM yn falch o fod wedi cefnogi Llywodraeth Cymru i ddarparu atebion costeffeithiol i her seilwaith gymhleth ym Mro Tathan. Mae’r prosiect hwn, a fydd yn gadael gwaddol i’r gymuned am flynyddoedd lawer, yn dangos sut y gallwn ni fod yn wirioneddol arloesol drwy gydweithio a meddwl am y dyfodol mewn modd dychmygus.”   

Dywedodd Piers Burroughs, Rheolwr Gyfarwyddwr Burroughs:

“Roedd yn fraint bod yn rhan o’r gwaith llwyddiannus hwn o gyflawni cynllun peirianneg mor heriol. Ces i fy ysbrydoli gan ymrwymiad yr holl dîm a’u hymagwedd gydweithiol ac arloesol.”

Ychwanegodd lleferydd TACP:

“O ganlyniad i gydweithio’r holl dîm, a’u dull integredig o weithredu, gwnaethon ni lwyddo i roi mesurau lliniaru amgylcheddol sensitif a rhagorol ar waith. Roedd bod yn rhan o’r prosiect yn bleser gwirioneddol.”