FIDEO: Prif Weinidog, Mark Drakeford, yn gosod cyn cyhoeddiad adolygiad y rheoliadau yfory.
VIDEO: First Minister, Mark Drakeford, sets out position in Wales ahead of lockdown review tomorrow
Fideo yma: https://we.tl/t-D0xXxoy23x
Dyma drawsgrifiad o’r fideo:
Noswaith dda.
Llywodraeth Cymru fydd yn penderfynu beth fydd yn digwydd yng Nghymru.
Rydym wedi cynnal ein trydydd adolygiad o’r rheoliadau, fel rydym yn gwneud pob dau-ddeg-un diwrnod.
Yfory, byddaf yn dweud pa newidiadau rydym am ei wneud I’r rheolau.
Wrth adolygu’r rheoliadau, rydym wedi ystyried y dystiolaeth ddiweddaraf gan SAGE ac wedi cymryd cyngor Prif Swyddog Meddygol Cymru.
Rydym wedi edrych ar sut mae’r feirws yn ymddwyn yng Nghymru ac ar y rhif ‘R’.
Rydym wedi edrych ar gapasiti’r Gwasanaeth Iechyd a Gofal Cymdeithasol, ac ar effaith y mân newidiadau hyd yn hyn.
Rydym hefyd wedi edrych ar effaith y rheolau aros gartref ar y feirws, ers inni eu cyflwyno ym mis Mawrth.
Rydym yn gwybod bod ymdrechion pawb yng Nghymru wedi helpu i arafu lledaeniad y coronafeirws ac wedi achub bywydau.
Diolch yn fawr i chi am ddal ati i helpu. Diolch am eich aberth.
Rwy’n gwybod bod cael eich gwahanu oddi wrth deulu a ffrindiau yn anodd.
Yn ystod yr adolygiad yma, rydym wedi bod yn ystyried sut gallwn fynd ati yn ofalus heb gynyddu’r risg o’r feirws ledaenu.
Heddiw, mae Prif Weinidog y Deyrnas Unedig wedi cyhoeddi’r newidiadau diweddaraf I’r rheoliadau yn Lloegr.
Ac mae Prif Weinidog yr Alban, Nicola Sturgeon, wedi gwneud yr un peth.
Rwy’n edrych ymlaen at siarad gyda chi yfory a rhannu canlyniadau’r adolygiad.