English icon English
Health Minister flu vaccine short-2

Brechiad ffliw am ddim ar gael i bobl dros 50 oed ar draws Cymru

Free flu vaccine now available for over 50s across Wales

O’r wythnos nesaf ymlaen [Dydd Mawrth 1 Rhagfyr] bydd brechiad rhag y ffliw gan GIG Cymru ar gael am ddim i unrhyw un 50 oed a throsodd.

Yn gynharach eleni, ymrwymodd Llywodraeth Cymru i gyflwyno’r rhaglen brechu rhag y ffliw fwyaf erioed yng Nghymru, er mwyn amddiffyn pobl rhag y risgiau sy’n gysylltiedig â’r ffliw.

Sicrhaodd Llywodraeth Cymru bron i 460,000 o frechlynnau ychwanegol ar gyfer 2020/21, ac maent ar gael ar hyn o bryd i bob practis meddygon teulu a fferyllfa gymunedol yng Nghymru.

Dylai pobl dros 50 oed ddisgwyl cael galwad gan eu practis meddyg teulu, neu gallant gysylltu â’u fferyllfa leol i drefnu cael brechiad.

Erbyn canol mis Tachwedd, roedd mwy na 750,000 o bobl agored i niwed, staff y GIG a phlant ysgol yng Nghymru wedi cael brechiad ffliw am ddim. O’r rheini dros 65 oed, mae 70% hefyd wedi cael eu brechu – lefelau sylweddol uwch nag yn ystod yr un cyfnod y llynedd.

Dywedodd y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Vaughan Gething:

“Y gaeaf hwn, mae mwy a mwy o bobl yng Nghymru yn manteisio ar y cynnig i gael brechiad am ddim rhag y ffliw. Rydyn ni wedi gwneud cynnydd gwych i amddiffyn y bobl fwyaf agored i niwed yn ein cymuned, a bydd 460,000 yn rhagor o bobl yng Nghymru yn cael eu diogelu o ganlyniad i’r brechlyn a’n gwasanaethau iechyd.”

“Mae ymestyn y rhaglen frechu i bawb sy’n 50 oed a throsodd yn helpu i atal mwy o bobl rhag bod yn sâl a lleihau pwysau ar y GIG y gaeaf hwn. Byddwn yn annog unrhyw un sy’n gymwys i ddilyn esiampl y niferoedd enfawr o bobl sydd eisoes wedi cael eu brechu.”

Dywedodd Prif Swyddog Meddygol Cymru, Frank Atherton:

“Gall pawb sy’n gymwys i gael y brechiad rhag y ffliw gan y GIG fod yn hyderus eu bod yn diogelu eu hunain a’r rheini o’u cwmpas y gaeaf hwn. Bydd cyflwyno’r rhaglen frechu i bawb dros 50 oed yn eu hamddiffyn nhw ac eraill yn ein cymunedau ym mhob rhan o Gymru ac yn helpu i ddiogelu’r GIG y gaeaf hwn.”