Future Valleys wedi eu cadarnhau fel y cynigydd a ffefrir ar gyfer gwelliannau ar yr A465 Adrannau 5 a 6
Future Valleys confirmed as preferred bidder for A465 Sections 5 and 6 improvements
Mae Llywodraeth Cymru wedi cadarnhau heddiw bod Future Valleys (FCC, Roadbridge, Meridiam, Alun Griffiths (Contractors) ac Atkins) wedi eu penodi fel y cynigydd a ffefrir ar gyfer y gwaith gwella ar yr A465 Adrannau 5 a 6 (Dowlais Top i Hirwaun).
Mae penodi y cynigydd a ffefrir yn garreg filltir bwysig yn y prosiect cyn dyfarnu y contract terfynol, sydd i ddod ym mis Hydref. Cafodd y penodiad ei wneud yn dilyn gwerthusiad technegol, cyfreithiol a masnachol cynhwysfawr.
Mae Future Valleys yn cynnwys cwmnïau adeiladu rhyngwladol mawr ochr yn ochr â buddsoddwyr ariannol sefydledig, mewn partneriaeth â chontractwyr a dylunwyr sydd â gwybodaeth am ardal y gadwyn gyflenwi.
Mae’r A465 yn cysylltu trefi yng Nghymoedd uchaf De Cymru, gan helpu i gysylltu y cymunedau hynny gyda Casnewydd, Caerdydd ac Abertawe. Bydd gwelliannau i Adrannau 5 a 6 yn gweld y ffordd yn cael ei newid yn ddwy lôn yn y ddau gyfeiriad.
Yn ogystal â datblygu seilwiath trafnidiaeth Cymru, bydd y cynllun yn cefnogi twf economaidd yn yr ardal. Mae Tasglu’r Cymoedd Llywodraeth Cymru wedi nodi bod buddsoddiad yn yr A465 yn ffordd bwysig o sicrhau newid i Gymoedd De Cymru.
Meddai Ken Skates, Gweinidog yr Economi, Trafnididaeth a Gogledd Cymru:
“Bydd y gwelliannau hyn i’r ffyrdd yn bwysig iawn i’r ardal leol, gan wella llif y traffig, gwella gwelededd, a chreu mwy o gyfleoedd i oddiweddu yn ddiogel.
“Bydd y prosiect yn cefnogi amcanion Tasglu’r Cymoedd, gan sicrhau manteision economaidd a chymunedol o fewn cyfnod o adfer wedi’r coronafeirws. Dwi’n disgwyl i’r prosiect sicrhau oddeutu £400 miliwn o wariant uniongyrchol yng Nghymru.
“Mae penodi cynigydd a ffefrir yn arwydd clir ein bod wedi ymrwymo I’r gwelliannau hyn ac rwy’n edrych ymlaen at eu gweld yn datblygu.”
Meddai Rebecca Evans, y Gweinidog Cyllid a’r Trefnydd:
“Rydym wedi gwerthuso hyn yn fanwl cyn penodi, er mwyn cyflawni’r prosiect hwn mewn ffordd sy’n cynnig y canlyniadau gorau posibl ar gyfer yr ardal leol ac i Gymru.”
“Bydd y prosiect yn cynhyrchu dros £675 miliwn o Werth Ychwanegol Gros ar gyfer yr economi yn ehangach, gyda £170 miliwn o wariant i’w ddisgwyl o fewn y cadwyn cyflenwi lleol. Mae’r contract hefyd yn cynnwys mesurau i liniaru y tarfu ar yr ardal leol tra bod y gwaith yn mynd yn ei flaen.”