Gadewch i ni adeiladu ar waith Tîm Cymru a sicrhau adferiad gwyrdd fydd yn para – Lesley Griffiths wrth i’r rhith-Sioe Fawr ddechrau
Let’s build on a Team Wales approach and ensure a lasting green recovery - Lesley Griffiths as virtual Royal Welsh gets underway
Gwnaethon ni weithio fel Tîm Cymru wrth fynd i’r afael â Covid-19. Rhaid inni adeiladu ar hyn nawr i sicrhau adferiad gwyrdd fydd yn para – dyna oedd neges Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig, Lesley Griffiths, wrth i rith-Sioe Frenhinol Cymru ddechrau.
Manteisiodd y Gweinidog ar y cyfle i ddiolch hefyd i ffermwyr am fwydo’r wlad yn ystod y pandemig ac am ddiogelu’n hamgylchedd naturiol. Mae’r pandemig wedi gorfodi llawer o fusnesau bwyd a diod i addasu i amgylchiadau masnachu anodd a datblygu a mabwysiadu ffyrdd newydd o weithio.
Mae pandemig y Covid-19 wedi sbarduno pobl ledled Cymru i ymddwyn yn wahanol a dilyn arferion newydd, a dysgu gwerthfawrogi natur yn fwy. Y nod nawr yw cadw’r ymddygiad newydd er mwyn cadw’r manteision a welodd ein hamgylchedd.
Mae’r gwaith ar sicrhau adferiad gwyrdd eisoes ar droed. Fel Tîm Cymru, er mwyn sicrhau adferiad gwyrdd, rydym wedi cydweithio â Cyfoeth Naturiol Cymru i greu panel i gynghori ar drywydd yr adferiad, a chyda Chyngor Partneriaeth Cymru, rydym gyda’n gilydd wedi gosod targed uchelgeisiol i sicrhau bod sector cyhoeddus Cymru’n ddigarbon erbyn 2030.
Meddai’r Gweinidog: “Yr adeg hon o’r flwyddyn fel arfer, byddai miloedd o bobl o bob cwr o’r wlad – a finnau yn eu plith – yn heidio i Lanelwedd i ddathlu amaethyddiaeth Cymru. Er bod y pandemig yn golygu na allwn fawrygu’r cyfraniad hwnnw eleni yn gorfforol, mae wedi profi inni mor hanfodol yw ffermio a chyfraniad aelodau cymunedau cefn gwlad i’n cymdeithas.
“A’r rhith-sioe ar fin dechrau, dw i am ddiolch i’n ffermwyr am sicrhau bod gennym fwyd i’w fwyta ac am eu hymdrechion arwrol a diwyro o dan amgylchiadau digynsail. Mae fy neges iddyn nhw’n glir – chi yw calon ein cadwyn fwyd a nerth ein hamgylchedd – ac mae hynny hyd yn oed yn fwy gwir yng nghanol pandemig.
Er i 2020 brofi’n flwyddyn anodd a bydd ei heriau’n parhau, yn enwedig wrth inni adael yr UE a wynebu newidiadau’r hinsawdd, rhaid chwilio am bob llygedyn o oleuni. Rydym wedi gweld pobl o bob cwr o Gymru’n mabwysiadu ffyrdd newydd o wneud pethau ac o werthfawrogi natur. Mae’r amgylchedd wedi gweld manteision amlwg, megis aer glanach yn sgil llai o draffig ar ein ffyrdd. Rydym wedi dangos ein bod yn gallu cyd-dynnu i ddiogelu cymdeithas. Yr her nesaf i ni yw ymroi gyda’n gilydd i gadw’r newidiadau i’n ffyrdd o fyw er mwyn cadw’r manteision i’n hamgylchedd.
“Rhaid inni symud yn ein blaenau gyda’n gilydd i sicrhau ein bod fel gwlad yn ymadfer o argyfwng Covid-19. Y nod fydd gwneud yn siŵr bod ein hadferiad yn ogystal ag amddiffyn ein hiechyd, yn diogelu’r amgylchedd ac yn helpu’n heconomi wledig i dyfu eto a ffynnu.
Mae gennym sector bwyd a diod ardderchog sy’n adnabyddus trwy’r byd a sector ffermio gwych, ac rydym am eu cadw. Rydym wedi gweld y wlad yn dod ynghyd i greu Tîm Cymru i ddelio â Covid-19 – gadewch inni adeiladu ar hyn a sicrhau adferiad gwyrdd fydd yn para.”