English icon English

Galw ar bob rhiant yng Nghymru i wirio statws brechu MMR eu plant ar frys yn sgil pryderon cynyddol am y frech goch

Call for all parents in Wales to urgently check their children’s MMR vaccination status amid rising concerns over measles

Mae Prif Swyddog Meddygol Cymru - Syr Frank Atherton - yn galw ar rieni i sicrhau bod eu plant wedi'u brechu'n llawn yn erbyn y frech goch a'u bod wedi cael yr holl imiwneiddiadau plentyndod eraill y dylent fod wedi'u cael.

Mae’n debygol y gwelwn achosion o'r frech goch yn amlach yng Nghymru oni bai bod camau brys yn cael eu cymryd i gynyddu'r niferoedd sy'n cael brechiad y frech goch, clwy'r pennau a rwbela (MMR) ar hyd a lled y wlad. 

Mae Syr Frank yn rhybuddio ei bod yn hanfodol bod y nifer sy'n manteisio ar gwrs llawn (2 ddos) o'r brechlyn MMR yn cynyddu i 95%, y targed a osodwyd gan Sefydliad Iechyd y Byd, i amddiffyn cymunedau Cymru rhag brigiad o achosion a all gael effaith aruthrol.  

Mae'r frech goch yn lledaenu'n hawdd iawn ymhlith y rhai sydd heb eu brechu, yn enwedig mewn meithrinfeydd ac ysgolion. Gall plant sy'n dal y clefyd fynd yn sâl iawn ac, mewn rhai achosion, gall y frech goch arwain at orfod mynd i'r ysbyty ac, yn anffodus, mewn achosion prin, gall arwain at farwolaeth. 

Mae pobl mewn rhai grwpiau sydd mewn perygl, gan gynnwys babanod a phlant ifanc, menywod beichiog, a phobl ag imiwnedd gwan, yn wynebu mwy o berygl o gymhlethdodau o ganlyniad i'r frech goch.

Mae’r MMR yn rhan o'r Rhaglen Imiwneiddio Rheolaidd i Blant - gydag un dos yn cael ei gynnig pan fydd plentyn yn flwydd oed ac ail ddos pan fydd yn 3 oed a 4 mis.

Anogir rhieni nad yw eu babanod wedi cael y brechlyn, neu unrhyw un o unrhyw oedran nad yw wedi cael y brechlyn eto, i ddod ymlaen. Mae'r brechlyn MMR am ddim yn ffordd ddiogel ac effeithiol o amddiffyn rhag y frech goch, yn ogystal â chlwy'r pennau a rwbela.

Gydag achosion o'r Pas hefyd ar gynnydd yng Nghymru, mae Syr Frank yn annog pob menyw feichiog a rhieni babanod a phlant ifanc i sicrhau eu bod wedi cael eu brechiadau Pertussis (y Pas).  

Er bod y Pas yn glefyd y gellir ei atal drwy frechu, mae'n heintus iawn, gyda babanod o dan 6 mis oed yn wynebu'r risg fwyaf. 

Dywedodd Syr Frank:

"Mae angen i ni sicrhau bod y rhai mwyaf agored i niwed yn ein cymunedau yn cael eu hamddiffyn rhag heintiau feirysol a allai fygwth bywyd, fel y frech goch a'r Pas.   

Gall y frech goch wneud plant yn sâl iawn a bydd rhai plant sy'n ei ddal yn dioddef cymhlethdodau sy'n newid bywyd. Gall rhieni ddiogelu eu plant trwy wneud yn siŵr eu bod wedi'u brechu'n llawn. Os nad ydynt, dylid trefnu iddynt gael eu brechu cyn gynted â phosibl.

Ni all babanod o dan un oed gael y brechlyn. Felly, mae'n hanfodol bod pawb sy'n gymwys yn cael eu brechu'n llawn. Bydd hyn yn helpu i atal lledaeniad y frech goch a bydd yn helpu i ddiogelu ein plant ieuengaf".

Mae'r Dirprwy Brif Swyddog Meddygol, Dr Chris Jones wedi ysgrifennu at bob bwrdd iechyd yn gofyn iddynt gymryd camau ar frys i sicrhau bod o leiaf 90% o fyfyrwyr ym mhob ysgol yng Nghymru wedi'u brechu'n llawn erbyn 31 Gorffennaf 2024. Bydd yr ymyrraeth hon wedi'i thargedu yn ategu'r gwaith sydd eisoes yn cael ei wneud gan fyrddau iechyd i ddal i fyny ag apwyntiadau i roi'r MMR.

Dywedodd Dr Jones:

"Pan fydd brigiad o achosion, gellid gofyn i fyfyrwyr a staff sydd heb eu brechu, neu sydd heb gael dos llawn o'r brechlyn, i ynysu am hyd at 21 diwrnod i atal y clefyd ffyrnig iawn hwn rhag lledaenu. 

Rydyn ni'n gwybod y gall hyn darfu ar addysg a llesiant ein pobl ifanc ac mae'n rhaid i ni wneud popeth posibl i'w osgoi". 

Bydd Iechyd Cyhoeddus Cymru, y GIG a Llywodraeth Cymru yn gweithio'n agos ar gynlluniau pellach i roi hwb i'r niferoedd sy'n cael yr MMR yn ystod y misoedd nesaf."

Nodiadau i olygyddion

Information on how to check your child’s vaccination status or arrange to be vaccinated is available on your local health board website