Galw ar Lywodraeth y DU i chwarae ei rhan wrth i Ganolfan Ragoriaeth Fyd-eang ar gyfer Rheilffyrdd symud ymlaen gydag achos busnes a chydsyniad cynllunio cychwynnol
Call for UK Government to play its part as Global Centre of Rail Excellence moves closer with business case and initial planning consent
Mae cynlluniau ar gyfer canolfan o’r radd flaenaf ar gyfer profi rheilffyrdd yn Ne Cymru wedi symud ymlaen drwy gyflwyno Achos Busnes Amlinellol yn ogystal â chymeradwyaeth leol ar gyfer y tir.
Mae Llywodraeth Cymru bellach wedi galw ar Lywodraeth y DU i weithredu’n gyflym i chwarae ei rhan er mwyn cyflawni’r prosiect.
Ar 27 a 28 Gorffennaf, roedd Cyngor Sir Powys a Chyngor Castell-nedd Port Talbot wedi cydsynio i gloddwaith ar gyfer y Ganolfan Ragoriaeth Fyd-eang ar gyfer Rheilffyrdd, i’w hadeiladu ar yr hen safle glo brig yn Nant Helen a’r safle golchfa glo gerllaw yn Onllwyn.
Mae’n gam ymlaen arall i’r prosiect ar ôl i Lywodraeth Cymru, yn gynharach y mis hwn, gyflwyno Achos Busnes Amlinellol ar gyfer y Ganolfan i Lywodraeth y DU. Roedd y ddogfen yn nodi’r rhaglen gyflenwi a’r camau nesaf.
Dywedodd Ken Skates, Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru:
“Mae’r prosiect hwn yn mynd law yn llaw gyda gwella effeithlonrwydd, perfformiad a chapasiti ein rheilffyrdd. Fe’i datblygwyd yn dilyn angen clir a ddaeth i’r amlwg o fewn y diwydiant.
“Bydd hefyd manteision pwysig i’r cymunedau sy’n byw o amgylch y cyfleuster arfaethedig. Bydd gwaith yn dod i’r ardal a gall y prosiect fod yn rhan bwysig o’r adferiad economaidd hirdymor yn sgil Covid-19.
“Mae wedi bod yn fis cadarnhaol i’r prosiect ac mae’r cymeradwyaeth lleol cychwynnol yn gam cadarnhaol. Yn dilyn hyn, rwy’n gobeithio y bydd Llywodraeth y DU yn gweithredu’n gyflym i chwarae ei rhan i gyflawni rhywbeth a fydd o les i Gymru a’r Deyrnas Unedig.”