£1.1m i hyrwyddo Cymru Oed-gyfeillgar ar Ddiwrnod Rhyngwladol Pobl Hŷn
£1.1m to champion Age-Friendly Wales on International Day of Older People
Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi £1.1m i gefnogi Swyddogion Oed-gyfeillgar ledled Cymru.
Mae'r cyhoeddiad yn atgyfnerthu ymrwymiad y Llywodraeth i ddathlu a chefnogi'r cyfraniadau hanfodol y mae pobl hŷn yn eu gwneud i’n cymunedau.
Daw wrth i Ddiwrnod Rhyngwladol Pobl Hŷn gael ei nodi heddiw, a thema eleni yw 'Meithrin Ymdeimlad o Berthyn: Dathlu pŵer ein cysylltiadau cymdeithasol'.
Bydd y cyllid yn cael ei rannu'n gyfartal rhwng awdurdodau lleol yn 2026-27, gan barhau â'r gefnogaeth sydd wedi bod ar waith ers 2022.
Mae gwaith Swyddogion Oed-gyfeillgar yn hanfodol wrth rymuso pobl hŷn i chwarae rolau gweithredol yn eu cymunedau, gan feithrin cysylltiadau cryf â sefydliadau trydydd sector. Mae hyn wedi arwain at lawer o weithgareddau lleol sydd wedi'u cynllunio ar y cyd â nhw ac ar eu cyfer.
Mae gan bobl hŷn rôl hollbwysig wrth greu cysylltiadau cymdeithasol, gyda 38% o bobl dros 65 oed yn gwneud gwaith gwirfoddol – y ffigwr uchaf o unrhyw grŵp oedran.
Mae Cymru yn parhau i arwain wrth fynd i'r afael â rhagfarn ar sail oedran a datblygu polisïau arloesol ar y cyd â phobl hŷn. Yn 2008, gwnaethom hefyd sefydlu swydd Comisiynydd Pobl Hŷn cyntaf y byd.
Dywedodd y Gweinidog yn Llywodraeth Cymru sy'n gyfrifol am bobl hŷn, Dawn Bowden: "Heddiw, rydyn ni'n dathlu’r rôl hanfodol y mae pobl hŷn yn ei chwarae wrth greu cysylltiadau cymdeithasol ag eraill, o nodio’ch pen a rhoi gwên wrth inni basio dieithriaid i feithrin a chynnal cysylltiadau sy’n datblygu drwy werthoedd a diddordebau cyffredin.
"Gyda nifer mawr o bobl yn dathlu Diwrnod Pobl Hŷn yng Nghymru, ac ar draws y byd, dw i'n anfon neges glir bod angen cydnabod a dathlu cyfraniadau pobl hŷn. Mae pob unigolyn yn werthfawr, waeth beth fo’i oedran neu'i amgylchiadau.
"Dw i'n falch o gyhoeddi £1.1m o gyllid i Swyddogion Oed-gyfeillgar ar gyfer parhau i ddarparu cefnogaeth bwysig i bobl hŷn yn eu cymunedau."