£10 miliwn yn ychwanegol ar gael ar gyfer y celfyddydau a diwylliant yng Nghymru
Additional £10 million is made available for arts and culture in Wales
“Mae’n rhaid i’r Celfyddydau a Diwylliant yng Nghymru oroesi’r pandemig hwn” meddai’r Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth
Yn dilyn y galw uchel am gyllid ar draws y sectorau celfyddydol a diwylliannol bydd £10.7 miliwn ar gael i gefnogi sefydliadau ac unigolion yn ystod y pandemig, gan olygu bod cyfanswm y pecyn cyllido sydd ar gael drwy’r Gronfa Adferiad Diwylliannol yn £63.7miliwn.
Mae hyn yn ychwanegol i becyn portffolio gwerth £18 miliwn a ddarparwyd ym mis Ebrill gan Lywodraeth Cymru, Cyngor Celfyddydau Cymru, Cymru Greadigol a Chwaraeon Cymru.
Daw y cyhoeddiad wrth i nifer o sefydliadau ac unigolion elwa eisoes o’r Gronfa Adferiad Diwylliannol.
Gan elwa o'r Gronfa Llawrydd, dywedodd Roanna Lewis, actores, awdur a chyfarwyddwr o Rhondda Cynon Taf: "Dw’n hynod falch i fod wedi cael cynnig Grant Cronfa Llawrydd. Ar ôl misoedd o boeni pe gallwn gynnal fy hun, bydd y grant hwn yn golygu y gallaf barhau i aros ym maes gwaith yr wyf wedi hyfforddi ynddo ac wedi gweithio ynddo'n broffesiynol ers 6 blynedd. Mae storïau, adloniant a'r celfyddydau hyd yn oed yn bwysicach nawr nag yr oeddent o'r blaen ac mae'r holl elfennau hyn yn cael eu creu gan weithwyr llawrydd."
Dywedodd Eve Hughes Butterly, dawnswraig proffesiynol, perfformwraig ac athrawes/ hyfforddwraig o Sir y Fflint: "Mae effaith Covid-19 wedi bod yn wirioneddol ddinistriol i rhywbeth sydd yn rhan mor bwysig o’m bywyd. Y diwydiant celfyddydau creadigol a pherfformio yw fy ngyrfa ac felly yn rhan enfawr o'm hunaniaeth. Mae dawnsio, canu a pherfformio'n fyw yn wefr ac yn dod a llawer o lawenydd. Mae’r gronfa wedi fy ngalluogi i gadw'r ffydd bod yr hyn a wnaf fel perfformiwr ac athro yn ganmoladwy, yn werthfawr ac yn werth ei gadw'n fyw."
Dywedodd Henry Widdicombe, Gŵyl Gomedi Machynlleth: "Yn syml, mae’r gefnogaeth oddi wrth y Gronfa Adferiad Diwylliannol gan Lywodraeth Cymru, wedi golygu’r gwahaniaeth rhwng ein sefydliad yn goroesi'r pandemig neu beidio. Collodd y celfyddydau eu gallu i weithredu dros nos yn gynharach eleni, ac mae'r ffydd a roddwyd ynom drwy'r gronfa hon yn golygu y byddwn yn gallu dychwelyd pan fydd yn ddiogel ac yn gyfreithlon i wneud hynny, ac yn rhoi'r gallu inni gynllunio ar gyfer y dyfodol pan y gellir cynnal digwyddiadau eto. Rydym yn croesawu'r holl gefnogaeth i'r celfyddydau yng Nghymru ac rydym yn gobeithio y gall y sector oroesi hyn diolch i raddau helaeth i’r cronfeydd hyn."
Bydd y cyllid ychwanegol hwn yn cael ei dargedu tuag at nifer fawr o geisiadau, sydd eisoes wedi eu derbyn gan Lywodraeth Cymru – gan gefnogi sefydliadau yn y sectorau diwylliannol, creadigol, digwyddiadau a threftadaeth – i sicrhau bod yr arian hwn yn cyrraedd mwy o rannau o’r sector cyn gynted â phosibl.
Caiff y cyllid ei ddefnyddio i agor trydydd cam y Gronfa Gweithwyr Llawrydd llwyddiannus fydd yn gweld £3.5 miliwn pellach ar gael ledled y wlad ar draws pob ardal awdurdod lleol o 10 y bore dydd Llun 23 Tachwedd i weithwyr llawrydd yn y sector creadigol.
Meddai’r Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth, yr Arglwydd Elis -Thomas: “Yng Nghymru, rydym am wneud popeth bosib i sicrhau bod ein celfyddydau, diwylliant a chreadigrwydd yn goroesi’r pandemig hwn. I gydnabod pa mor galed y cafodd y sector ei daro, rydym yn buddsoddi £10.7miliwn yn ychwanegol i gyrraedd cynifer o rannau’r sector â phosibl. Mae hyn yn mynd â ni ymhell y tu hwnt i’r £59 miliwn o gyllid canlyniadol a gafwyd gan Lywodraeth y DU ym mis Gorffennaf, gan dynnu sylw at y gwerth a roddwn i gyfraniad y sector at fywyd Cymru a’r economi ehangach – ac mae’n rhaid i hynny barhau yn y dyfodol. Rydym yn cydnabod y bydd arnom angen proffesiynoldeb, profiad, brwdfrydedd a gweledigaeth y gweithwyr proffesiynol hyn i helpu inni ddod ynghyd ac ail-adeiladu wedi i’r argyfwng iechyd cyhoeddus hwn ddod i ben.”
Meddai Rebecca Evans, y Gweinidog Cyllid: “Rydyn ni’n cydnabod ac yn deall yr heriau ariannol y mae’r sector yn parhau i’w hwynebu. Bydd y cyllid ychwanegol hwn yr ydy ni’n ei gyhoeddi heddiw yn hybu lefel y cymorth rydy ni wedi ei ddarparu eisoes i helpu’r diwydiant oroesi yn y cyfnod digynsail hwn a dod at ei hun wedi’r pandemig.”
Mae’r Gronfa Gweithwyr Llawrydd gwerth £7 miliwn eisoes wedi cefnogi 2,800 o weithwyr llawrydd gyda grant o £2,500 yr un. Bydd y cyllid ychwanegol hwn yn cefnogi 1,400 o bobl yn ychwanegol.
Hyd yn hyn mae mwy na £30 miliwn wedi ei ddosbarthu drwy Gronfa Adferiad Diwylliannol Llywodraeth Cymru, gyda Cyngor Celfyddydau Cymru yn neilltuo pecyn £20 miliwn i’r sector y mis diwethaf.
Nodiadau i olygyddion
Eifion Porter, Craftsman supporting set designers, visual artists, cultural and heritage venues from Swansea said. “I have been working within the cultural sector for the last 10 years. I collaborate with visual artists and theatre companies, as well as supporting museums and community organisations by designing and creating bespoke displays for interactive exhibitions. Since lockdown all of my projects immediately stopped, and I have not had any income since. As soon as it looks like the cultural and heritage sectors can start functioning again, the situation changes and productions or exhibitions are put back on hold, delayed for another 6 months or completely cancelled. The support of the Freelancer Grant has been a lifeline during a very uncertain time, and I’m grateful that the Welsh Government has considered the different types of creative freelancers during this pandemic.
Alex Luck, Owner of Diablos SA1, grass roots music venue which promotes young welsh talent in the SA1 area of Swansea, said: “With the support of Welsh Government and the Creative sector’s engagement Diablos SA1 now has a future and has given me and my staff the enthusiasm to open partially and prepare to promote live music post Covid, this opportunity given through the funding has been a game changer for the business and has given the venue a chance to diversify and give my employees confidence and a future within this industry.”
Llun: Gwyl Gomedi Machynlleth - Ian Greenland
Arddangosfa gan Eifion Porter yn Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, Abertawe
Roanna Lewis yn Ice Road- Raucous Theatre Company- ffotograffydd Jack Offord