English icon English
8-54

£10m i helpu cleifion sydd wedi gwella o’r Coronafeirws yn eu cartrefi

£10m to support recovered Coronavirus patients back home

Mae cyllid gwerth £10m yn cael ei ddarparu i sefydliadau iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru er mwyn helpu pobl sydd wedi gwella o Covid-19 i ddychwelyd i'w cartrefi ynghynt.

Bydd y cyhoeddiad heddiw yn ariannu pecynnau gofal cartref newydd ac estynedig er mwyn cefnogi cleifion i adael yr ysbyty wrth iddynt barhau i gael eu hasesu a gwella. Bydd hefyd yn helpu i ariannu gwasanaethau cymunedol hanfodol bwysig sy’n cefnogi’r ymateb i Covid-19 drwy helpu pobl i aros gartref yn ddiogel.

Bydd y £10m yn helpu i ddarparu’r canlynol:

  • Ehangu’r cynlluniau rhyddhau o’r ysbyty
  • Capasiti ychwanegol o fewn y gymuned i ofalu am bobl sydd wedi eu rhyddhau o’r ysbyty
  • Sicrhau bod cleifion mor annibynnol â phosibl ar ôl gwella o Covid-19, gan gynnwys prynu offer ar gyfer eu cartrefi
  • Gwasanaethau cymunedol estynedig er mwyn lleihau’r pwysau ar ofal sylfaenol a gofal eilaidd.

Y nod yw cyfyngu ar yr amser sy’n cael ei dreulio mewn ysbytai yn ddiangen a helpu i osgoi aildderbyn cleifion a derbyn cleifion newydd.

Bydd y cyllid, a fydd ar gael drwy Fyrddau Partneriaeth Rhanbarthol sy’n dwyn ynghyd y Byrddau Iechyd, llywodraeth leol a’r trydydd sector, yn cael ei ddefnyddio i ddatblygu neu i ymestyn modelau gofal integredig sydd eisoes ar waith.

Mae’r £10m yn ychwanegol at y gefnogaeth gwerth £40m – a gyhoeddwyd yn gynharach yn y mis – sydd ar gael i Awdurdodau Lleol er mwyn talu’r costau ychwanegol sy’n wynebu darparwyr gofal cymdeithasol i oedolion.

Dywedodd y Gweinidog Iechyd a Gofal Cymdeithasol, Vaughan Gething:

“Mae ein gwasanaethau a’n sefydliadau iechyd a gofal cymdeithasol yn gwbl hanfodol o ran sicrhau bod y rhai sydd wedi gwella o Covid-19 yn dychwelyd i le y dylent fod - eu cartrefi. Bydd y cyllid hwn yn sicrhau y byddant, wrth adael yr ysbyty, yn cael eu cefnogi’n llawn mewn ffordd sy’n addas ar gyfer eu hanghenion unigol. Mae hyn yn hanfodol bwysig.

“Rydym wedi gweld dull clir ac integredig o weithio ar y cyd ar draws Cymru; o’r adeg y mae cleifion yn cael eu derbyn i’r ysbyty, i wella capasiti yn y gymuned, i wneud y llif mor effeithiol â phosibl er mwyn rhyddhau capasiti hanfodol bwysig mewn ysbytai. Bydd y cyllid yn golygu y bydd hyn yn parhau wrth i gleifion Covid-19 barhau i wella a chael eu rhyddhau o’r ysbyty.

“Hoffwn ddiolch yn bersonol i’n gweithlu iechyd a gofal cymdeithasol am eu hymdrechion rhagorol yn ystod y cyfnod heriol hwn, ac am warchod a chefnogi ein gwlad.”