English icon English

£10m o gymorth brys ar gyfer pobl sy'n cysgu allan yng Nghymru yn ystod coronafeirws

£10m emergency support for rough sleepers in Wales during coronavirus outbreak

Mae'r Gweinidog Tai, Julie James wedi cadarnhau bod Llywodraeth Cymru yn rhoi £10m ar gael i gynghorau yng Nghymru i'w helpu i gymryd camau yn syth ac yn uniongyrchol i ddiogelu pobl ddigartref a phobl sy'n cysgu allan yn ystod y pandemig coronafeirws.

Bydd y cyllid ychwanegol yn galluogi awdurdodau lleol i sicrhau'r lletyau angenrheidiol i wneud yn siŵr y gellir diogelu a chefnogi pobl sydd heb gartref, a'u hynysu os oes angen.

Gallai hyn gynnwys prynu ystafelloedd gwely a brecwast neu ystafelloedd gwesty, lletyau myfyrwyr ac eiddo eraill mewn bloc i'w gweithredu ochr yn ochr â darpariaeth bresennol. Bydd angen i weithwyr proffesiynol yn y sector hwn reoli a chefnogi'r ddarpariaeth i sicrhau cymorth o ansawdd uchel, safonau hylendid a gwaith monitro priodol ar gyfer symptomau a salwch.

Mae Gweinidogion hefyd yn gweithredu i sicrhau bod y bobl hynny nad oes ganddynt hawl i gyllid cyhoeddus, fel dioddefwyr camdriniaeth ddomestig a cheiswyr lloches, yn cael cymorth yn ystod y cyfnod hwn.

Ar hyn o bryd, mae'r gyfraith yn atal Gweinidogion rhag cynnig mathau penodol o gymorth i'r unigolion hyn, gan gynnwys cymorth tai. Rhoddwyd cyfarwyddyd i awdurdodau lleol i ddefnyddio pwerau a chyllid eraill i helpu'r bobl sydd angen lloches a mathau eraill o gymorth yn ystod y pandemig. Bydd hyn yn sicrhau eu bod yn cael cefnogaeth i aros yn ddiogel ac yn iach.

Dywedodd y Gweinidog Tai, Julie James:

"Bydd yr wythnosau a'r misoedd nesaf yn anodd iawn i bob un ohonom, ond i'r bobl hynny nad oes ganddynt rywle diogel i'w alw'n gartref, a'r bobl sy'n gweithio'n ddiflino i'w cefnogi, bydd hwn yn amser arbennig o anodd. Nid oes gan lawer o bobl fynediad at gyfleusterau sy'n eu galluogi i gadw at ganllawiau iechyd y cyhoedd ar hylendid neu ynysu.

"Bydd y £10m o gymorth ariannol yr wyf yn ei gyhoeddi heddiw yn sicrhau bod pobl sy'n cysgu allan, neu mewn perygl o orfod cysgu allan, a phobl sydd mewn llety anaddas dros dro, yn cael y cymorth a'r adnoddau y maent eu hangen i'w diogelu yn ystod y cyfnod hwn.

"Rydym hefyd yn gweithredu i wneud yn siŵr y gall pawb yng Nghymru, waeth beth fo'u statws mewnfudo, gael cymorth i aros yn ddiogel ac yn iach.

"Byddaf yn gwneud popeth o fewn fy ngallu i sicrhau bod unrhyw rwystrau i wneud y peth iawn yn cael eu dileu fel y gallwn ymateb yn gyflym ac yn hyblyg gyda'n gilydd i'r sefyllfa ddigynsail hon."

Dywedodd y Dirprwy Weinidog a'r Prif Chwip, Jane Hutt:

"Mae coronafeirws, a'r angen i ynysu'n gymdeithasol yn rhoi pwysau gwirioneddol ar bob un ohonom yng Nghymru, ond yn enwedig ar y bobl mwyaf agored i niwed, gan gynnwys dioddefwyr a goroeswyr camdriniaeth ddomestig, y bobl heb hawl i arian cyhoeddus, a phobl ddigartref.

"Ar adegau fel hyn mae ein cymunedau cryf, ein gwasanaethau cyhoeddus, a'n partneriaid yn y trydydd sector ar draws Cymru yn ased enfawr. Mae'n hanfodol bod ein dinasyddion agored i niwed yn cael eu cefnogi yn gyfan gwbl yn ystod y cyfnod digynsail hwn.

"Nid yw un ateb yn addas i bawb o ran budd-daliadau a darpariaeth, felly rwy'n falch  iawn y bydd y cymorth ariannol newydd hwn yn galluogi i awdurdodau lleol ddarparu'r llochesau diogel â chymorth sydd eu hangen ar bobl nad oes ganddynt le saff i'w alw'n gartref."

Dywedodd y Cynghorydd Andrea Lewis (Abertawe), llefarydd Tai Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru:

“Mae gan gynghorau swyddogaethau allweddol, wrth ochr ein partneriaid, i gefnogi’r rhai mwyaf agored i niwed yn ein cymunedau a diogelu’r cyhoedd. Mae llety diogel yn hanfodol os yw pobl i gael mynediad at gyfleusterau hylendid a chymorth.

Rydym yn croesawu’r cyllid ychwanegol a fydd yn cael ei ddefnyddio’n hyblyg wrth ochr adnoddau eraill i sicrhau bod mwy o lety diogel a phriodol ar gael, gan roi opsiynau i’r rhai mwyaf agored i niwed mewn ffyrdd sy’n adlewyrchu anghenion lleol.”

Mae’r sector tai a’r trydydd sector wedi croesawu’r £10m o gymorth brys. Dywedodd Stuart Ropke, Prif Weithredwr Cartrefi Cymunedol Cymru:

"Ni ddylai unrhyw un fod heb loches gynnes a diogel. Bob dydd, mae cymdeithasau tai yn gweithio'n ddiflino i sicrhau bod gan bobl fynediad at y gwasanaethau a'r cymorth y maent eu hangen, ac mewn argyfwng mae'n hanfodol bod hyn yn cael ei wneud mor gyflym a mor rhwydd â phosibl.

"Rydym yn croesawu cynlluniau Llywodraeth Cymru i sicrhau bod gan gynghorau'r cyllid a'r pŵer i gefnogi pobl, waeth beth fo'u hamgylchiadau, yn ystod y cyfnod hynod anodd ac ansicr hwn." 

Dywedodd Katie Dalton, Cyfarwyddwr Cymorth Cymru:

"Rydym yn croesawu'r cyllid ychwanegol i helpu i sicrhau llety a chymorth i bobl ddigartref, a phobl sy'n wynebu trais a chamdriniaeth ddomestig, gan gynnwys y bobl heb hawl i gyllid cyhoeddus.

"Mae'n hanfodol bod y bobl fwyaf agored i niwed yn cael eu diogelu yn ystod y pandemig hwn a'u bod yn gallu hunanynysu. Rydym yn gobeithio bod y cyllid hwn yn galluogi pobl heb gartref i gael mynediad at lety diogel, a'r cyfleusterau hylendid a'r cymorth y maent ei angen.

"Mae'r sector digartrefedd a chymorth tai yn gweithio'n galed iawn i sicrhau bod pobl yn dal i gael cymorth. Bydd y cyllid hwn o gymorth mawr ac rydym yn gobeithio y bydd cynnydd pellach o ran profi a mynediad at ofal plant yn galluogi staff i barhau i wynebu'r heriau sydd o'u blaenau."

Bydd y cyllid hwn yn rhan o becyn cymorth ehangach ar gyfer awdurdodau lleol. Bydd Gweinidogion yn cyhoeddi manylion pellach yn y diwrnodau nesaf. 

Mae Llywodraeth Cymru hefyd yn sicrhau y gellir defnyddio cyllid presennol yn hyblyg ac yn effeithiol i gefnogi gwaith pwysig yn lleol i ymateb i her COVID-19. Bydd swyddogion yn ysgrifennu at awdurdodau lleol heddiw i roi gwybod sut y gallant wneud y mwyaf o'r Grant Cymorth Tai a'r Grantiau Cymunedau i ddiwallu anghenion lleol.

Mae rhagor o wybodaeth ar sut y mae Llywodraeth Cymru yn ymdrin â'r coronafeirws ar gael yn www.llyw.cymru/coronafeirws   

DIWEDD