£10m ychwanegol i helpu i ddiogelu swyddi a’r bobl sy’n cael anawsterau ariannol
Extra £10m package to help protect jobs and those struggling financially
Heddiw, galwodd y Gweinidog Cyllid Rebecca Evans ar gyflogwyr i ddefnyddio cyllid ychwanegol Llywodraeth Cymru i ddiogelu gweithwyr sydd mewn perygl o fod yn anghymwys ar gyfer cynlluniau cymorth cyflogau Llywodraeth y DU.
I gefnogi hyn, mae’r Gweinidog wedi darparu pecyn ychwanegol o £10m i helpu i ddiogelu gweithwyr nad ydynt yn gymwys ar gyfer Cynllun Cadw Swyddi Llywodraeth y DU a’r cymorth ehangach ar gyfer y bobl sydd angen cymorth ariannol ar frys.
Mae Llywodraeth Cymru wedi pwyso ar Ganghellor y DU i sicrhau cymorth cyflogau ar frys i weithwyr sydd wedi’u heffeithio gan yr angen i gau busnesau ac sydd mewn perygl o gwympo rhwng dwy stôl, rhwng y Cynllun Cadw Swyddi a’r Cynllun Cymorth Swyddi newydd. Cynigiwyd sawl ffordd wahanol o wneud hyn, ond ni chafwyd ateb cadarnhaol hyd yma.
Gyda’r cyfnod atal byr yn dechrau ar draws Cymru heno, mae Llywodraeth Cymru yn awr yn camu i’r adwy i ychwanegu £5m at y gronfa ddewisol o £20m a ddarperir i awdurdodau lleol i gefnogi busnesau i gadw’r gweithwyr sydd mewn perygl o beidio â bod yn gymwys am gymorth. Mae’r gronfa hon ar ben y pecyn grantiau o £300m a gyhoeddwyd yr wythnos diwethaf.
Yn ogystal, bydd £5m ychwanegol hefyd yn cael ei ddarparu i’r Gronfa Cymorth Dewisol sy’n rhoi grantiau i bobl sydd angen cymorth ar frys yn ystod yr argyfwng, gan gynnwys pobl sy’n aros am daliadau budd-daliadau a’r bobl mewn gwaith sy’n wynebu caledi.
Dywedodd y Gweinidog Cyllid Rebecca Evans:
“Dim ond Llywodraeth y DU all addasu’r cynlluniau cymorth cyflogau hyn ond maent wedi gwrthod gwneud newidiadau a fyddai wedi diogelu gweithwyr sydd mewn perygl o gwympo rhwng dwy stôl.
“Er bod Gweinidogion y DU yn anfodlon gweithredu, rwyf i heddiw yn ychwanegu £5m arall at ein grantiau cymorth busnes dewisol ac yn galw ar gyflogwyr i ddefnyddio’r cyllid hwn i gadw gweithwyr nad ydynt yn gymwys i ddefnyddio’r Cynllun Cadw Swyddi rhwng 23-31 Hydref.
“Mae Cronfa Cadernid Economaidd Cymru eisoes wedi helpu i ddiogelu dros 100,000 o swyddi yn ystod yr argyfwng hwn drwy ddarparu’r pecyn cymorth mwyaf hael i fusnesau yn unrhyw ran o’r DU."
Ychwanegodd y Gweinidog:
“Nid yw’n bosibl inni ddiogelu pob swydd a phob busnes sydd wedi’u heffeithio gan y pandemig byd-eang ond rydym yn cymryd pob cam posibl i gefnogi pobl sydd angen cymorth ariannol ar frys. Dyma pam y bydd £5m ychwanegol ar gael i gefnogi ein Cronfa Cymorth Dewisol.”