English icon English
Money-5

£120 miliwn o gymorth ariannol i fusnesau yng Nghymru yr effeithiwyd arnynt gan Omicron

£120m financial support for businesses in Wales impacted by Omicron

Bydd busnesau yng Nghymru sy'n cael eu heffeithio gan ledaeniad cyflym feirws Omicron yn gymwys i gael cymorth ariannol brys o dan becyn cymorth newydd gan Lywodraeth Cymru.

Mae Gweinidog yr Economi, Vaughan Gething, wedi cyhoeddi manylion y £120 miliwn o gyllid a fydd ar gael ar gyfer busnesau manwerthu, lletygarwch, hamdden a thwristiaeth a'u cadwyni cyflenwi yr effeithiwyd arnynt gan y symudiad i rybudd lefel dau, fel y cyhoeddwyd gan y Prif Weinidog ddydd Mercher 22 Rhagfyr.

O dan y pecyn diweddaraf, bydd gan fusnesau manwerthu, lletygarwch, hamdden a thwristiaeth sy'n talu Ardrethi Annomestig hawl i daliad o £2,000, £4,000 neu £6,000 yn dibynnu ar eu gwerth ardrethol. Bydd angen i fusnesau ailgofrestru eu manylion, drwy broses ar-lein gyflym a hawdd, gyda'u hawdurdod lleol er mwyn derbyn eu taliadau. Bydd cofrestru ar agor drwy wefannau awdurdodau lleol o'r wythnos sy’n cychwyn ar y 10fed o Ionawr.

Mae Llywodraeth Cymru wedi penderfynu ymestyn y cymorth hwn i fanwerthu nad yw'n hanfodol fel y bydd siopau llai, a Chwmnïau Teithio yn cael eu cefnogi ac y gall ein stryd fawr barhau i ffynnu. Yn Lloegr, nid oes cymorth ar gael i fanwerthu nad yw'n hanfodol.

Hefyd, bydd busnesau lletygarwch a hamdden yr effeithir arnynt a'u cadwyni cyflenwi yn gallu gwneud cais am gyllid ychwanegol gan Gronfa Cadernid Economaidd newydd. Gall busnesau cymwys wneud cais am grantiau rhwng £2,500 - £25,000, gyda’r grantiau yn dibynnu ar faint y cwmni a nifer y gweithwyr. Bydd y cyfnod ymgeisio ar gyfer y Gronfa Cadernid Economaidd yn agor yn ystod yr wythnos sy'n cychwyn ar 17 Ionawr 2022 gyda thaliadau'n dechrau cyrraedd busnesau o fewn dyddiau.

Bydd Awdurdodau Lleol hefyd yn gweinyddu cronfa Ddewisol ar gyfer busnesau ac unig fasnachwyr nad ydynt yn talu ardrethi. Bydd y gronfa'n darparu £500 i unig fasnachwyr a gweithwyr llawrydd a £2,000 i fusnesau sy’n cyflogi mewn sectorau yr effeithir arnynt.  Mae rhagor o fanylion i ddilyn ar busnes.cymru.

Bydd gwiriwr cymhwysedd a fydd yn helpu busnesau i nodi faint y gallant ddisgwyl ei gael o dan y pecyn cymorth newydd ar gael ar wefan Busnes Cymru erbyn dechrau 2022.

Meddai Gweinidog yr Economi, Vaughan Gething:

"Rydym yn deall yn iawn yr heriau parhaus sy'n wynebu busnesau, ond rydym yn wynebu sefyllfa ddifrifol iawn yng Nghymru. Mae ton o heintiau a achosir gan yr amrywiolyn Omicron newydd, sy'n symud yn gyflym ac sy’n heintus iawn ar y ffordd atom, mae hyn yn golygu cymryd camau cynnar i geisio rheoli ei ledaeniad – a chyfyngu ar yr effaith ar fusnesau Cymru.

"Ers dechrau'r pandemig, rydym wedi darparu dros £2.2bn o gymorth i fusnesau ledled Cymru i'w helpu i lywio eu ffordd drwy amgylchiadau anodd.

"Byddwn yn parhau i fonitro effaith lledaeniad Omicron ar fusnesau yng Nghymru, a byddwn yn ystyried a oes angen cyllid brys ychwanegol yn y flwyddyn newydd."

Bydd Busnes.Cymru yn cael ei ddiweddaru gyda manylion, cwestiynau cyffredin a chanllawiau cymorth.