£12m i fynd i'r afael â thyllau yn y ffyrdd ledled Cymru
£12m to tackle potholes across Wales
Mae'r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol Julie James wedi cyhoeddi £12m ychwanegol o gyllid i awdurdodau lleol drwsio tyllau yn y ffordd a gwella ffyrdd, palmentydd a llwybrau teithio llesol ledled Cymru.
Bydd yr arian ychwanegol yn caniatáu i awdurdodau lleol barhau â gwaith cynnal a chadw arfaethedig ar briffyrdd, gan roi hwb i'r economi a gwneud teithio llesol yn fwy diogel. Bydd awdurdodau lleol hefyd mewn sefyllfa well i ymateb i effaith digwyddiadau tywydd diweddar, gan gynnwys difrod i briffyrdd a achoswyd gan y llifogydd diweddar.
Mae'r £12m o gyllid ychwanegol yn amlygu ymhellach ymrwymiad Llywodraeth Cymru i deithio llesol a thrafnidiaeth gyhoeddus o ansawdd uchel. Addawodd Llwybr Newydd, strategaeth drafnidiaeth newydd Llywodraeth Cymru, gynnydd beiddgar yn nifer y bobl sy'n defnyddio teithio llesol cyhoeddus neu gerdded a beicio i fynd o gwmpas. Tynnodd sylw at yr angen i wneud y defnydd gorau o'r seilwaith presennol drwy gynnal a chadw a rheoli effeithiol.
Dywedodd Julie James, y Gweinidog Llywodraeth Leol a Thai:
"Rydym yn gwybod bod y rhan fwyaf o gynghorau eisoes wedi gwneud defnydd da o'r cyfle i wneud gwaith atgyweirio a gwella yn ystod y pandemig gyda rhwydwaith ffyrdd tawelach.
"Rydym yn darparu'r arian ychwanegol hwn i adlewyrchu'r difrod gan lifogydd a welsom i briffyrdd ledled Cymru a'r ffyrdd rydym yn defnyddio ein hamgylchedd leol yn wahanol.
"Drwy ddarparu'r cyllid ychwanegol hwn, rydym yn galluogi awdurdodau lleol i barhau i wneud gwelliannau i ffyrdd yng Nghymru, gan roi hwb i'r economi a gwneud ffyrdd yn fwy diogel ar gyfer teithio llesol."
Nodiadau i olygyddion
Notes
The funding will be allocated on the roads element of the settlement formula to ensure parity of opportunity across Wales.
|
Authority |
£ |
|
Isle of Anglesey |
359,906 |
|
Gwynedd |
793,921 |
|
Conwy |
505,324 |
|
Denbighshire |
476,071 |
|
Flintshire |
570,175 |
|
Wrexham |
441,013 |
|
Powys |
945,286 |
|
Ceredigion |
471,171 |
|
Pembrokeshire |
638,429 |
|
Carmarthenshire |
898,863 |
|
Swansea |
713,991 |
|
Neath Port Talbot |
452,020 |
|
Bridgend |
483,472 |
|
The Vale of Glamorgan |
451,012 |
|
Rhondda Cynon Taff |
756,621 |
|
Merthyr Tydfil |
150,495 |
|
Caerphilly |
583,462 |
|
Blaenau Gwent |
229,715 |
|
Torfaen |
242,392 |
|
Monmouthshire |
376,841 |
|
Newport |
426,473 |
|
Cardiff |
1,033,347 |
|
Total |
12,000,000 |