English icon English

£15.7m arall i gynyddu’r gweithlu olrhain cysylltiadau yng Nghymru

Extra £15.7m to increase contact tracing workforce in Wales

Mae Vaughan Gething, y Gweinidog Iechyd, wedi cyhoeddi bod £15.7m arall yn cael ei roi er mwyn cynyddu maint y gweithlu olrhain cysylltiadau yng Nghymru ar gyfer y gaeaf – bydd y gweithlu presennol yn cael ei ddyblu bron â bod.  

Diolch i’r cyllid hwn bydd nifer y staff olrhain cysylltiadau yng Nghymru yn cynyddu o 1,800 i 3,100 mewn da bryd ar gyfer y cynnydd disgwyliedig mewn galw ym mis Rhagfyr, a hyd at ddiwedd mis Mawrth. Mae tîm Cymru gyfan newydd hefyd yn cael ei sefydlu i gefnogi timau lleol pan fydd ymchwydd mewn achosion.

Dywedodd Mr Gething: “Mae olrhain cysylltiadau yn elfen allweddol o’r strategaeth Profi, Olrhain, Diogelu i roi terfyn ar y feirws.”

“Mae’r system olrhain cysylltiadau yng Nghymru wedi perfformio’n dda hyd yma. Cafodd mwy na 90% o gysylltiadau eu holrhain yn llwyddiannus ers iddi gael ei rhoi ar waith.

Rydyn ni wedi manteisio ar y cyfnod atal byr i adolygu Profi Olrhain Diogelu i’n galluogi i gynnal perfformiad, a’i wella, wrth inni ddechrau ar gyfnod y gaeaf. Rydyn ni’n disgwyl i’r gaeaf hwn fod yn un anodd, ac mae’n bosib y bydd nifer yr achosion yn cynyddu.  

“Bydd y cyllid ychwanegol hwn yn caniatáu i dimau olrhain cysylltiadau lleol gynyddu nifer y staff yn y timau olrhain cysylltiadau, gan gynnwys cynghorwyr, ar gyfer cyfnod prysur y gaeaf. Rydyn ni hefyd yn creu tîm olrhain cysylltiadau i Gymru gyfan i helpu ein timau lleol i reoli ymchwydd mewn achosion ar ddiwrnodau pan fydd niferoedd yr achosion positif newydd yn arbennig o uchel.

Dywedodd hefyd: “Ynghyd â’n buddsoddiad mewn labordai profi yng Nghymru bydd hyn yn sicrhau bod ein strategaeth Profi Olrhain Diogelu yn gallu ein diogelu drwy nodi’n gyflym yr unigolion hynny sydd â symptomau’r coronafeirws. Bydd hefyd yn ein helpu i ddod o hyd i fannau problemus newydd o ran yr haint a gofyn i gymaint o gysylltiadau â phosibl i hunanynysu.”