English icon English

£150 miliwn o gymorth grant yn cyrraedd busnesau gyda mwy i ddod

£150 million grant support reaching businesses with more to come

Mae busnesau wedi derbyn bron i £150 miliwn mewn cymorth grant yn wythnos gyntaf y cynllun cymorth busnes.

Bu y Prif Weinidog Mark Drakeford yn diolch i awdurdodau lleol am eu cymorth i helpu i sicrhau bod y grantiau ar gael yn gyflym i fusnesau bychain y mae’r pandemig Coronafeirws yn cael effaith arnynt.

Mae bron i 11,000 o gwmnïau wedi derbyn cyllid fydd yn hollbwysig i helpu iddynt ddelio gydag effaith y feirws.

Bydd rhagor o fusnesau yn derbyn grantiau coronafeirws brys trwy eu hawdurdodau lleol, sy’n dosbarthu’r cyllid ar ran Llywodraeth Cymru.

Bydd busnesau manwerthu, hamdden a lletygarwch yng Nghymru sydd mewn adeiladau â gwerth adwerthol o rhwng £12,001 a £51,000 yn derbyn grant o £25,000.

Bydd grant o £10,000 ar gael i filoedd o fusnesau yng Nghymru, sy’n gymwys am ryddhad ardrethi busnesau bach ac sydd â gwerth ardrethol o £12,000 neu lai.

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo pecyn gwerth £1.7 biliwn o gymorth i fusnesau i helpu iddynt fynd drwy’r pandemig coronafeirws – ac mae hyn yn cynnwys grantiau ar gyfer busnesau bychain a blwyddyn o wyliau ardrethi.

Meddai’r Prif Weinidog Mark Drakeford:

“Mae hwn yn amser anodd iawn i fusnesau ym mhob rhan o Gymru ac fel llywodraeth rydym wedi ymrwymo’n llawn i’w cefnogi I ddelio gyda’r argyfwng coronafeirws.

“Mae’r pecyn cymorth a gyhoeddwyd gennym yn amrywiol a bydd yn hollbwysig i gael y gymuned fusnes drwy’r cyfnod anodd hwn.

“Bydd miloedd yn fwy o fusnesau yn derbyn grantiau wrth iddynt gael eu prosesu a bydd pawb sy’n gymwys yn cael cymorth.

“Mae Awdurdodau Lleol yn gwneud gwaith gwych yn sicrhau bod cwmnïau yn derbyn y grantiau hyn a hoffwn ddiolch iddynt am ymateb i’r her a gwneud popeth y gallant i gael yr arian allan mor gyflym â phosibl i’r rhai sydd ei angen.

“Bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i wneud popeth o fewn ei gallu i helpu busnesau fynd i’r afael ag effaith y feirws ac i adfer eu busnesau.”

Meddai Ken Skates, Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru:

“Gwnaethom ymrwymiad i gwtogi’r gwaith gweinyddol ac i gael yr arian allan i fusnesau yn gyflym ac rwy’n falch ein bod yn gwneud hynny.”

“Bydd y grantiau hyn yn hanfodol i fusnesau ddelio gyda cyfnod nas gwelwyd mo’i debyg o’r blaen.

“Mae’r arian yn cyrraedd mwy o fusnesau bob dydd a bydd hynny yn parhau wrth i awdurdodau lleol barhau i weithio’n galed i’w gael allan i’r rhai sydd ei angen.”

Meddai’r Cynghorydd Anthony Hunt, llefarydd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru ar Gyllid:

“Mae awdurdodau lleol yng Nghymru yn gweithio’n galed i gael yr arian allan i fusnesau bach. Nid oes neb yn deall eu pwysigrwydd i’r economi leol mwy na’r aelodau etholedig neu’r swyddogion ymroddedig sy’n gwneud popeth y gallant i weinyddu’r pecynnau cymorth hyn mewn cyfnod o angen mawr i’n busnesau. Hoffwn annog unrhyw gwmni sy’n dymuno gwneud cais am y cyllid hwn wneud hynny ar-lein cyn gynted â phosib.”

Mae’r wybodaeth sydd ei hangen i gael mynediad at y grantiau hyn ar gael ar-lein ar wefan Busnes Cymru sy’n cysylltu’n uniongyrchol i’r dudalen berthnasol ar wefan bob awdurdod lleol: https://businesswales.gov.wales/cy/cymorth-ariannol-grantiau