English icon English
KW visit-2

£2.3m i ddarparu gorchuddion wyneb ar gyfer dysgwyr ysgolion uwchradd ac addysg bellach

£2.3m to provide face coverings for secondary school and further education learners

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo dros £2.3m i ddarparu gorchuddion wyneb am ddim i bob dysgwr mewn ysgolion uwchradd a lleoliadau addysg bellach. 

Gwnaeth Kirsty Williams, y Gweinidog Addysg, y cyhoeddiad a fydd yn golygu y bydd £1.8m a £469,000 yn cael ei ddarparu i ysgolion a lleoliadau addysg bellach yn y drefn honno. 

  

Mae'r Prif Swyddog Meddygol yn argymell defnyddio gorchuddion wyneb mewn ysgolion uwchradd mewn amrywiaeth o sefyllfaoedd lle nad oes modd cadw at ddulliau rheoli corfforol eraill neu fod hynny'n annhebygol. 

  

Gall hyn gynnwys ardaloedd cymunedol o ysgolion lle mae'r cynllun ffisegol yn golygu na all grwpiau cyswllt barhau i gael eu gwahanu i'r un graddau. 

  

Mae'r cyhoeddiad heddiw yn dilyn datganiad a wnaethpwyd gan y Gweinidog Addysg a Vaughan Gething, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, lle maent wedi darparu canllawiau newydd ynghylch defnyddio gorchuddion wyneb mewn lleoliadau addysg. 

  

Dywedodd Kirsty Williams, y Gweinidog Addysg: "Mae'n bleser gennyf gyhoeddi bod Llywodraeth Cymru wedi neilltuo mwy na £2.3m i ddarparu gorchuddion wyneb i bob disgybl o oedran ysgol uwchradd neu mewn lleoliadau addysg bellach. 

  

“Mae'n hanfodol bod plant a phobl ifanc, rhieni a'r gweithlu addysg yn teimlo'n hyderus bod yr holl fesurau'n cael eu cymryd i'w hamddiffyn wrth iddynt ddychwelyd i ysgolion a cholegau.  

  

“Rydym hefyd wedi diweddaru ein canllawiau gweithredol ar gyfer ysgolion a lleoliadau AB yn ddiweddar sy'n ei gwneud yn ofynnol i leoliadau ac awdurdodau lleol gynnal asesiadau risg o'u safleoedd i benderfynu a ddylid argymell gorchuddion wynebau ar gyfer eu staff a'u pobl ifanc mewn mannau cymunedol - mae hyn yn cynnwys cludiant i'r ysgol a'r coleg.” 

  

Dywedodd llefarydd ar ran CLlLC: "Mae ysgolion ac awdurdodau lleol wedi cynllunio'n helaeth dros yr haf i baratoi ar gyfer ailagor ysgolion a lliniaru risgiau COVID 19 i fyfyrwyr, athrawon a staff cymorth. 

  

"Mae'r cynlluniau hyn yn cynnwys y gwasanaeth profi, olrhain a diogelu a threfniadau i ddarparu staff y mae angen iddynt hunanynysu lle bo hynny'n bosibl neu drefnu darpariaeth amgen.” 

Nodiadau i olygyddion

  

Gallwch ddarllen canllawiau gweithredol Llywodraeth Cymru ar gyfer ysgolion a lleoliadau addysg bellach yma: https://llyw.cymru/canllawiau-gweithredol-ar-gyfer-ysgolion-lleoliadau-o-dymor-yr-hydref-covid-19 

  

Mae'r Prif Swyddog Meddygol yn argymell defnyddio gorchuddion wyneb mewn ysgolion uwchradd mewn amrywiaeth o sefyllfaoedd lle nad oes modd cadw at ddulliau rheoli corfforol eraill neu fod hynny'n annhebygol. 

  

Nid yw Llywodraeth Cymru yn argymell defnyddio gorchuddion wyneb mewn ystafelloedd dosbarth. 

  

Mae'r canllawiau'n nodi: "Mewn ystafelloedd dosbarth lle mae grwpiau cyswllt yn bodoli a mesurau rheoli eraill ar waith, rhaid cydbwyso'r budd ymylol y gellir ei sicrhau drwy ddefnyddio gorchuddion wyneb â'r effaith negyddol debygol ar y profiad dysgu, gan gynnwys clywed a chymdeithasu. 

  

“Felly, nid argymhellir defnyddio gorchuddion wyneb yn yr ystafell ddosbarth yn unol â'r canllawiau gweithredol ar gyfer ysgolion a lleoliadau o'r hydref ymlaen."