£2.5 miliwn gan Lywodraeth Cymru ar gyfer busnesau y mae'r llifogydd wedi effeithio arnynt
£2.5 million Welsh Government support for businesses hit by flooding
Bydd Llywodraeth Cymru yn darparu hyd at £2.5 miliwn er mwyn cefnogi busnesau y mae'r llifogydd a achoswyd gan Stormydd Ciara a Dennis wedi effeithio'n ddifrifol arnynt.
Bydd y busnesau sy'n ceisio ymdopi ag effeithiau trychinebus y llifogydd, ac yn benodol fusnesau bach a chanolig, yn gallu cyflwyno cais am grant o hyd at £2,500 er mwyn eu helpu i ailagor yn llwyr cyn gynted â phosibl.
Cyhoeddodd Prif Weinidog Cymru yn ddiweddar y byddai hyd at £10 miliwn ar gael fel rhan o'r ymateb cychwynnol i'r llifogydd ac mae cyhoeddiad heddiw yn rhan o’r pecyn cymorth hwnnw.
Caiff y gronfa ei gweinyddu gan Busnes Cymru a bydd yn cefnogi busnesau â'r costau adfer cychwynnol na fydd yswiriant yn talu amdanynt, a hefyd yn helpu â chost rhentu eiddo dros dro a chadw staff.
Bydd rhagor o fanylion ynghylch sut i gyflwyno cais am gyllid drwy'r gronfa yn cael eu cyhoeddi yn ystod y dyddiau nesaf ar wefan Busnes Cymru a gall busnesau hefyd gysylltu â llinell gymorth Busnes Cymru ar 0300 060 3000.
Bydd y £2.5 miliwn yn ychwanegol at y cymorth y bydd Llywodraeth Cymru yn ei gynnig i awdurdodau lleol er mwyn wynebu costau rhyddhad disgresiynol rhag ardrethi busnes yn sgil y llifogydd am hyd at dri mis lle y mae nifer o safleoedd busnes yn agos iawn at ei gilydd.
Dywedodd Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru, Ken Skates:
"Mae'r stormydd diweddar a'r llifogydd dilynol wedi effeithio'n ddifrifol ar gymunedau a busnesau.
"Rwyf wedi gweld drostof fy hun sut y mae cymunedau wedi ymateb mor wych er mwyn helpu pobl mewn angen ac hefyd wedi gweld sut y mae gwirfoddolwyr wedi gweithio mor galed.
"Rwy'n cyhoeddi heddiw y bydd hyd at £2.5 miliwn ar gael er mwyn cefnogi busnesau, ac yn benodol fusnesau bach a chanolig, sydd wedi dioddef yn ddifrifol yn sgil y llifogydd. Bydd modd i'r busnesau y mae'r llifogydd wedi effeithio arnynt gyflwyno cais am hyd at £2,500 yr un fel y gallant ailddechrau gweithredu.
"Bydd y cyllid hwn yn ychwanegol at y cyllid a gaiff ei ddarparu er mwyn ysgwyddo costau cymwys Awdurdodau Lleol wrth iddynt gynnig rhyddhad rhag ardrethi busnes yn sgil y llifogydd.
"Bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i gydweithio'n agos â Chynghorau er mwyn sicrhau darlun clir o raddfa'r difrod. Bydd hyn yn ei gwneud hi'n haws pennu faint o gyllid ychwanegol sydd ei angen a pha gymorth ariannol y byddai disgwyl i Lywodraeth y DU ei ddarparu.”