£2.59 miliwn i roi hwb i arloesi a gweithgynhyrchu yng Ngogledd Cymru
Laser-focused on innovation: £2.59m boost set to transform North Wales manufacturing
- Mae 20 o brosiectau ledled Gogledd Cymru wedi sicrhau cyfran o £2.59 miliwn drwy raglen Cymorth Arloesi Hyblyg SMART (SFIS) Llywodraeth Cymru
- Bydd y buddsoddiad yn helpu busnesau a Phrifysgol Bangor i fabwysiadu technolegau newydd, gwella cynhyrchiant a datblygu cynhyrchion arloesol
- Mae’r prosiectau’n rhan o fuddsoddiad ehangach gwerth £10.87 miliwn sy’n cefnogi arloesi ledled Cymru
Mae 20 o brosiectau ledled Gogledd Cymru, gan gynnwys mentrau dan arweiniad busnesau o bob rhan o’r rhanbarth ynghyd â Phrifysgol Bangor, wedi sicrhau £2.59 miliwn o gyllid arloesi gan Lywodraeth Cymru.
Dyfarnwyd y cyllid drwy Gronfa Cyfarpar Cyfalaf 2026-27, sy’n rhan o raglen Cymorth Arloesi Hyblyg SMART (SFIS). Bydd yn helpu sefydliadau i fabwysiadu technolegau newydd, gwella effeithlonrwydd a gwneud gwell defnydd o adnoddau, gan gryfhau eu cystadleurwydd, cynyddu cynhyrchiant a chefnogi twf economaidd cynaliadwy.
Ymhlith y busnesau sy’n elwa ar y cyllid mae Gerallt Evans Metalcraft Ltd yn Abergele, sydd wedi sicrhau £202,995 i sefydlu cyfleuster integredig newydd ar gyfer torri metel â laser a gwaith saernïo metel.
Mae’r cwmni’n dylunio ac yn gweithgynhyrchu cynhyrchion metel pwrpasol ar gyfer sectorau gan gynnwys adeiladu, amaethyddiaeth a diwydiant. Bydd y buddsoddiad yn caniatáu iddo gyflawni mwy o’i brosesau gweithgynhyrchu ar y safle, gan leihau amseroedd aros cwsmeriaid o dros wythnos i’r un diwrnod a lleihau’r amser sydd ei angen ar gyfer prosesau llaw tua 70%.
Disgwylir hefyd i’r prosiect gefnogi twf o 75% yn nhrosiant y cwmni, gan gryfhau ei allu a chreu cyfleoedd newydd i ddatblygu’r busnes ymhellach.
Yn ogystal, mae Merlin Circuit Technology yn Sir y Fflint wedi sicrhau £154,784 i fuddsoddi mewn technoleg gweithgynhyrchu newydd a fydd yn trawsnewid ei allu cynhyrchu.
Mae’r cwmni’n cynhyrchu byrddau cylched printiedig ar gyfer sectorau fel awyrofod a pheirianneg uwch, lle mae dibynadwyedd yn hanfodol. Disgwylir i’r buddsoddiad gynyddu capasiti cynhyrchu yn yr ardal brosesu hyd at bedair gwaith, gan greu arbedion blynyddol o dros £51,000 drwy leihau gwastraff.
Bydd hefyd yn helpu i ddiogelu 77 o swyddi medrus ac yn cefnogi cynlluniau’r cwmni i ehangu i farchnadoedd gweithgynhyrchu electroneg gwerth uwch.
Mae’r prosiectau’n cael eu cefnogi drwy raglen Cymorth Arloesi Hyblyg SMART (SFIS) Llywodraeth Cymru ar gyfer 2026-27 ac yn rhan o fuddsoddiad ehangach gwerth £10.87 miliwn sy’n cefnogi 82 o brosiectau arloesi ledled Cymru.
Ers 2023, mae Llywodraeth Cymru wedi dyrannu mwy na £40 miliwn drwy raglen Cymorth Arloesi Hyblyg SMART (SFIS), gan gefnogi bron i 500 o brosiectau ledled Cymru.
Dywedodd Victoria Rushton, Rheolwr Gyfarwyddwr yn Gerallt Evans Metalcraft Ltd:
“Rydym yn ddiolchgar iawn am y buddsoddiad hwn, sy’n ein helpu i gymryd cam sylweddol ymlaen yn y ffordd rydym yn gweithgynhyrchu ac yn cyflenwi cynhyrchion i’n cwsmeriaid.
“Trwy gyflawni mwy o’n prosesau ar y safle, byddwn yn gallu gweithio’n fwy effeithlon, ymateb yn gyflymach a chefnogi twf parhaus y busnes o’n canolfan yng Ngogledd Cymru.”
Dywedodd Vikki Jones, Rheolwr Gyfarwyddwr yn Merlin Circuit Technology Ltd:
“Rydym yn falch iawn o gael y cyllid hwn, sy’n ein galluogi i fuddsoddi mewn technoleg gweithgynhyrchu uwch a fydd yn cryfhau ein gallu ac yn cefnogi twf yn y dyfodol.
“Wrth i’r galw barhau i gynyddu, mae’n bwysig ein bod yn parhau i arloesi, gwella effeithlonrwydd a diogelu swyddi medrus yma yng Ngogledd Cymru.”
Dywedodd Adam Price, y Gweinidog Cabinet dros Fenter, Cysylltedd ac Ynni:
“Mae’r busnesau sy’n cael cymorth drwy’r cylch cyllido hwn yn tystio i gryfder ac amrywiaeth y sector gweithgynhyrchu yng Ngogledd Cymru.
“Mae’r buddsoddiadau hyn yn helpu busnesau i wella cynhyrchiant, mabwysiadu technolegau newydd a manteisio ar gyfleoedd newydd i dyfu.
“Trwy gefnogi busnesau uchelgeisiol yng Nghymru i fuddsoddi mewn technolegau newydd a phrosesau gweithgynhyrchu modern, rydym yn hwyluso twf economaidd hirdymor ac yn helpu i greu swyddi o ansawdd uchel ledled y rhanbarth.”
Nodiadau i olygyddion
Cymorth Arloesi Hyblyg SMART (SFIS) yw rhaglen ehangach Llywodraeth Cymru ar gyfer cefnogi arloesi. Mae’n gweithredu drwy gydol y flwyddyn ac yn darparu amrywiaeth o gyllid a chymorth i helpu sefydliadau i arloesi, gwella cynhyrchiant a thyfu.
Mae Cronfa Cyfarpar Cyfalaf yn un o’r ffrydiau cyllid sydd ar gael drwy Cymorth Arloesi Hyblyg SMART (SFIS). Mae’r gronfa’n agor ar gyfer ceisiadau yn ystod cyfnodau penodol ac yn darparu grantiau i helpu sefydliadau i fuddsoddi mewn cyfarpar, technoleg a seilwaith a all wella cynhyrchiant a chefnogi twf.