Dros £338,000 i gefnogi prosiectau ynni gwyrdd lleol ar draws Abertawe a Chastell-nedd Port Talbot

More than £338,000 powers local green energy projects across Swansea and Neath Port Talbot

  • £338,951 i ddau sefydliad yn Abertawe a Chastell-nedd Port Talbot drwy raglen Ynni Cymru Llywodraeth Cymru
  • Mae'r ddau brosiect ymhlith 24 o sefydliadau ledled Cymru a fydd yn rhannu £8.27 miliwn yn nhrydedd rownd ariannu'r Rhaglen
  • Bydd y cyllid yn helpu Canolfan Fosg ac Islamaidd Abertawe a Chlwb Golff Pontardawe i leihau costau ynni a pharhau i gefnogi eu cymunedau lleol.

Mae dau sefydliad yn Abertawe a Chastell-nedd Port Talbot ar fin elwa ar £338,951 o gyllid Ynni Cymru. Bydd y buddsoddiad yn eu helpu i leihau costau ynni, torri allyriadau carbon a rhyddhau mwy o adnoddau ar gyfer y bobl a'r cymunedau y maent yn eu gwasanaethu.

Mae'r ddau brosiect ymhlith 24 ledled Cymru fydd yn derbyn cyfran o £8.27 miliwn drwy drydedd rownd ariannu'r rhaglen.

Yn Abertawe, mae Canolfan Fosg ac Islamaidd Abertawe yn croesawu tua 5,000 o ymweliadau bob wythnos drwy ei gweithgareddau crefyddol, addysgol a chymunedol. Bydd y cyllid yn cael ei ddefnyddio i osod system storio batris a system pwmp gwres hybrid, gan helpu i leihau costau rhedeg a gwella effeithlonrwydd ynni.

Mae'r ganolfan yn darparu ystod eang o wasanaethau i bobl leol, gan gynnwys banc bwyd, banc babanod, gweithgareddau ieuenctid a rhaglenni addysgol. Bydd yr arbedion a gynhyrchir yn helpu i gynnal y gwasanaethau hyn ac yn cefnogi cynlluniau i ddarparu pecynnau cynhesrwydd i bobl sy'n defnyddio'r banc bwyd yn ystod misoedd y gaeaf.

Mae cyllid hefyd wedi'i ddyfarnu i Glwb Golff Pontardawe. Bydd y gefnogaeth yn helpu'r clwb i leihau ei gostau ynni a'i effaith amgylcheddol, gan gryfhau cynaliadwyedd y cyfleuster i'r dyfodol a rhyddhau mwy o adnoddau ar gyfer y clwb a'r gymuned ehangach y mae'n ei gwasanaethu.

Mae Ynni Cymru yn rhaglen gan Lywodraeth Cymru sy'n helpu cymunedau, busnesau a gwasanaethau cyhoeddus i gynhyrchu a defnyddio eu hynni glân eu hunain. Mae'n cefnogi prosiectau sy'n lleihau biliau ynni ac yn sicrhau buddion lleol.

Ers ei lansio yn 2023, mae'r rhaglen wedi cefnogi mwy nag 80 o brosiectau ledled Cymru. Bydd y drydedd rownd hon o gyllid yn darparu £8.27 miliwn i 24 o sefydliadau, gan gynnwys dau brosiect yn Abertawe a Chastell-nedd Port Talbot, gan olygu bod cyfanswm buddsoddiad Ynni Cymru bellach yn fwy na £31 miliwn.

Dywedodd Hasan Miah o Ganolfan Fosg ac Islamaidd Abertawe:

“Nid man addoli yn unig ydym ni. Bob dydd, mae pobl yn dod drwy ein drysau am gefnogaeth, cwmnïaeth, cyfleoedd i ddysgu a chymorth ymarferol.

“Bydd y buddsoddiad hwn yn helpu i sicrhau bod y ganolfan yn parhau'n lle cynnes a chroesawgar i bobl hŷn, teuluoedd â phlant ac unrhyw un sy'n wynebu caledi ariannol, gan ein galluogi i barhau i wasanaethu'r gymuned am flynyddoedd i ddod."

Dywedodd y Gweinidog Cabinet dros Fenter, Cysylltedd ac Ynni, Adam Price:

“Rwy'n falch iawn bod Canolfan Fosg ac Islamaidd Abertawe a Chlwb Golff Pontardawe yn elwa ar y rownd ddiweddaraf hon o gyllid Ynni Cymru.

“Drwy ddefnyddio ynni glân i leihau costau, bydd y ddau sefydliad yn gallu diogelu gwasanaethau a gweithgareddau sy'n gwneud gwahaniaeth go iawn i bobl leol. O fanciau bwyd a rhaglenni addysgol i gyfleusterau chwaraeon a hamdden, bydd yr arbedion yn helpu i sicrhau bod y budd yn aros yn y gymuned.

“Mae Ynni Cymru yn gwireddu gweledigaeth Llywodraeth Cymru o sicrhau ynni glanach a rhatach, sy'n cael ei berchnogi a'i ddefnyddio gan bobl a chymunedau ledled Cymru.”

Nodiadau i olygyddion

Dyma restr o'r holl sefydliadau sydd wedi derbyn cyllid gan Ynni Cymru. Bydd y rhestr ar gyfer grantiau 2026-27 yn cael ei diweddaru ar 19/10/2026 am 11pm:

https://www.llyw.cymru/ynni-cymru-grantiau-cyfalaf-ddyfarnwyd