£3m arall ar gyfer prosiectau’r economi bob dydd
Further £3m boost for everyday economy projects
Mae Llywodraeth Cymru yn darparu £3 miliwn arall ar gyfer prosiectau sy'n cefnogi, gwella a darparu'r nwyddau a'r gwasanaethau bob dydd a ddefnyddiwn ac y mae eu hangen arnom i gyd.
Mae'r economi sylfaenol yn disgrifio'r swyddi sydd wrth wraidd ein cymunedau lleol, ar draws sectorau fel gwasanaethau gofal ac iechyd, bwyd, tai, ynni, twristiaeth, adeiladu a manwerthu. Mae'r rhan hon o'r economi yn cyfrif am bedair swydd ym mhob deg ac £1 ym mhob £3 sy’n cael ei gwario.
Mae Llywodraeth Cymru yn gweithio i sicrhau bod gan bawb fynediad at y nwyddau a'r gwasanaethau sylfaenol hanfodol yn y rhan hon o'r economi a bod y bobl sy'n eu darparu yn cael eu gwerthfawrogi. Y llynedd, buddsoddodd y Llywodraeth £4.5m mewn Cronfa Her newydd ar gyfer yr Economi Sylfaenol. Mae’r Gronfa ar hyn o bryd yn cefnogi 52 o brosiectau sy'n profi ffyrdd newydd ac arloesol o wneud i'r economi bob dydd weithio'n well i bob cymuned yng Nghymru. Bydd y £3m ychwanegol yn golygu bod modd i’r gwaith gwerthfawr hwn barhau.
Un prosiect sydd wedi elwa ar Gronfa Her yr Economi Sylfaenol o’r blaen yw ELITE Paper Solutions, menter gymdeithasol ym Merthyr Tudful sy'n arbenigo mewn storio a rheoli dogfennau a darnio data. Gyda chymorth y Gronfa, mae ELITE Paper Solutions wedi gallu datblygu gweithle cwbl gynhwysol ac mae bellach yn cyflogi cyfanswm o 39 o bobl. Mae llawer o’r rhain yn bobl a allai fod wedi'u hallgáu o'r farchnad lafur fel arall, oherwydd anabledd, cyflyrau iechyd neu ddiweithdra hirdymor.
Mae buddsoddiad gan Gronfa Her yr Economi Sylfaenol wedi helpu ELITE i ennill tri chontract mawr yn y sector cyhoeddus ac i ymateb yn gyflym i anghenion ei gwsmeriaid, anghenion sy’n newid oherwydd argyfwng y coronafeirws. O ganlyniad, mae wedi sicrhau cynnydd o £90,000 yn ei refeniw o gymharu â'r flwyddyn flaenorol. Mae'r busnes wrthi'n recriwtio chwe aelod newydd o staff oherwydd bod ei wasanaeth sganio wedi ffynnu yn ystod y pandemig, yng nghanol galw am ddarparu gwybodaeth ffisegol ar-lein.
Dywedodd Andrea Wayman, Prif Weithredwr ELITE: "Mae ein hadran sganio yn lle gwych i bobl ag awtistiaeth gweithredu lefel uchel, oherwydd yr angen i roi sylw i fanylion. Mae’n eu cefnogi i ddatblygu eu sgiliau cymdeithasol, a allai fod wedi eu rhwystro rhag cael gwaith yn y gorffennol. Mae eu datblygiad wedi creu tîm gwych."
Mae Cronfa Her yr Economi Sylfaenol hefyd wedi cefnogi Community Care Collaborative (CCC), sy'n darparu dull gwahanol o ymdrin â gofal iechyd yn Wrecsam.
Mae CCC, sydd wedi'i gontractio gan y bwrdd iechyd lleol i redeg tri phractis meddyg teulu, yn cydnabod pwysigrwydd mynd i'r afael â llesiant cymdeithasol, economaidd a meddyliol claf gan y gall y rhain i gyd effeithio ar iechyd corfforol unigolyn. O ganlyniad, maent wedi datblygu model newydd o ofal sylfaenol sy’n seiliedig ar helpu cleifion i gael gafael ar y cymorth sydd ei angen arnynt pan fydd ei angen arnynt.
Fe wnaeth CCC fuddsoddi ei grant gan y Gronfa i recriwtio tîm llesiant emosiynol i fod yn bwynt cyswllt cyntaf i gleifion y mae angen cymorth llesiant arnynt. Yn sgil hyn, gwelwyd gostyngiad o dros 57% mewn atgyfeiriadau i sefydliadau iechyd meddwl eraill.
Dywedodd y cyfarwyddwr gweithrediadau Grace Nolan: "Drwy gydweithio ar lefel gymunedol gydag asiantaethau eraill a’r cleifion eu hunain, mae CCC wedi helpu i sicrhau bod anghenion cymdeithasol ac emosiynol cleifion yn cael yr un flaenoriaeth â’u hanghenion meddygol."
Mae adborth hefyd yn dangos y gallai cynifer â 33% o’r bobl a gefnogir gan fodel gofal iechyd CCC fod wedi cymryd eu bywydau eu hunain hebddo.
Mae'r Gronfa hefyd wedi galluogi Cyngor Bro Morgannwg i wella ei brosesau caffael ac ymgysylltu â mwy na 1,000 o fusnesau ers mis Mehefin 2020 gan ei fod yn ceisio cynyddu nifer y busnesau bach a chanolig lleol sy'n darparu contractau’r cyngor ar gyfer nwyddau a gwasanaethau. Mae hyn yn golygu bod mwy o arian yn cael ei gadw yn yr economi leol.
Dywedodd Maddy Sims, sy'n arwain gwaith economi sylfaenol Cyngor Bro Morgannwg: "Roedd sgyrsiau â busnesau lleol nid yn unig yn nodi rhwystrau o ran tendro ac ennill contractau, ond roeddent hefyd yn caniatáu i'r Cyngor ddeall y gadwyn gyflenwi leol a’r bylchau yn y farchnad yn well.
"Er mwyn helpu i annog busnesau bach a chanolig lleol, rydym yn gwneud ffilmiau astudiaethau achos sy'n cynnwys rhai o'r busnesau lleol yr ydym wedi gweithio gyda nhw, gan gynnwys un busnes a wnaeth fagu digon o hyder i dendro drwy ddarparu peiriannau gwerthu i ni cyn ennill contract gwerth miliynau o bunnoedd gyda'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol."
Dywedodd Lee Waters, Dirprwy Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth: "Mae Cronfa Her yr Economi Sylfaenol eisoes wedi helpu prosiectau sy'n rhan o'n heconomi bob dydd i ddatblygu a chyrraedd eu potensial er budd cymunedau lleol.
"Bydd gwella a datblygu'r rhain ymhellach a rhannu gwybodaeth am yr hyn sy'n gweithio a'r hyn nad yw'n gweithio gyda rhannau eraill o Gymru yn hanfodol wrth ymateb i effeithiau’r coronafeirws ac effeithiau ymadawiad y DU â’r UE. Rydym am weld ein heconomïau rhanbarthol yn datblygu ac yn tyfu. Bydd ein dull o gryfhau ein heconomi sylfaenol a’n gwerthfawrogiad o’r bobl sy'n gweithio ynddi yn rhan allweddol o wneud hynny.
"Bydd y £3 miliwn ychwanegol hwn yn golygu bod modd datblygu’r prosiectau gorau ym meysydd iechyd, gofal cymdeithasol, adeiladu a chaffael, gan ledaenu eu llwyddiant fel y gall ein holl gymunedau elwa."