£3m o gyllid ychwanegol i gefnogi dysgwyr sydd wedi'u 'hallgáu o'r byd digidol'
Extra £3 million to support ‘digitally excluded’ learners in Wales
Mae Kirsty Williams, y Gweinidog Addysg, wedi cyhoeddi hyd at £3 miliwn i gefnogi dygwyr sydd wedi'u 'hallgáu'n ddigidol' yn ystod pandemig y coronafeirws.
Fel rhan o'r rhaglen 'Cadw'n Ddiogel. Dal ati i Ddysgu', mae Llywodraeth Cymru yn cydweithio ag awdurdodau lleol i gynnig atebion i helpu'r dysgwyr hynny sydd 'wedi'u hallgáu'n ddigidol' yn ystod y pandemig presennol.
Yr hyn a olygir wrth ddysgwyr sydd 'wedi'u hallgáu'n ddigidol' yw dysgwyr nad oes ganddynt fynediad i ddyfais briodol sydd wedi'i chysylltu â'r rhyngrwyd i allu cymryd rhan yn y gweithgareddau ar-lein yn eu cartrefi.
Bydd yr awdurdodau lleol, gan gydweithio'n agos â'u hysgolion, yn defnyddio'r cyllid i sicrhau bod gan ddysgwyr sydd wedi'u hallgáu'n ddigidol ddyfais o'r ysgol. Bydd y dyfeisiau wedi'u haddasu at ddibenion y dysgwyr hynny, gan gynnwys cysylltedd MiFi 4G, os bydd angen hynny. Caiff dyfeisiau newydd priodol ar gyfer ysgolion eu hariannu hefyd, drwy raglen seilwaith ehangach Hwb.
Mae’r ysgolion yn ceisio cael gwybod pa ddysgwyr sydd wedi’u hallgáu’n ddigidol drwy gysylltu â rhieni a gofalwyr. Yn y cyfamser, mae’r awdurdodau lleol yn cael gwybod pa ddyfeisiau y gellir eu diweddaru fel eu bod yn gallu defnyddio’r feddalwedd ddiweddaraf.
Dywedodd Kirsty Williams, y Gweinidog Addysg:
“Mae argyfwng y coronafeirws wedi'i wneud yn angenrheidiol i’r rhan fwyaf o blant weithio gartref ar hyn o bryd. Mae technoleg fodern yn caniatáu inni ddysgu o bell, ac mae amrediad eang o offer dysgu gwych ar gael ar lein. Ond, rwy’n cydnabod bod y sefyllfa’n un heriol i nifer o deuluoedd.
“Fy mlaenoriaeth i yw sicrhau nad oes unrhyw blentyn na theulu yn cael eu gadael ar ôl yn ystod yr argyfwng hwn, a bod pob plentyn yn cael cyfle i barhau i ddysgu. Drwy addasu offer ysgol, byddwn ni’n sicrhau bod plant a theuluoedd yn cael y cymorth sydd ei angen arnynt cyn gynted ag sy’n bosibl.
"Bydd y cyllid hwn yn sicrhau na fydd diffyg gliniadur neu fand eang yn rhwystr mwyach i ddysgu. Bydd y cyllid yn chwarae rôl allweddol wrth gefnogi teuluoedd, gan sicrhau bod eu plant yn parhau ar eu siwrnai addysg, lle bynnag y maen nhw’n dysgu."
Nodiadau i olygyddion
Mae rhaglen Hwb Llywodraeth Cymru eisoes wedi cyflwyno nifer o fentrau pwysig i drawsnewid y ffordd y mae technoleg addysg yn cefnogi'r addysgu a'r dysgu sydd ar waith ar hyd a lled Cymru. Mae'r rhaglen yn cynnig mynediad i amrediad o offer ac adnoddau digidol, gan gynnwys seilwaith digidol mewn ysgolion.
Mae Hwb hefyd yn cynnig mynediad i amrediad o adnoddau ynghylch diogelu sy’n cynnwys materion fel y cyfryngau cymdeithasol, bwlio, rhannu delweddau, hapchwarae, camwybodaeth a meithrin perthynas amhriodol ar-lein. Cafodd Parth Diogelwch Ar-lein ei greu ar Hwb hefyd, fel bod plant yn gallu cael hyd i gymorth yn hawdd os na fyddant yn teimlo'n hapus neu'n ddiogel.
Gwybodaeth ychwanegol
Y pum ffordd y mae Cymru'n arwain y ffordd wrth gyflwyno gwasanaethau addysg digidol:
https://llyw.cymru/pum-ffordd-mae-cymrun-arwain-y-ffordd-yn-darparu-addysg-yn-ddigidol
Cadw'n Ddiogel. Dal ati i Ddysgu: Datganiad ar y polisi i barhau i ddysgu:
Buddsoddiad newydd o £50m i drawsnewid Technoleg Addysg ym mhob ysgol wladol yng Nghymru: