£40 miliwn ychwanegol i gefnogi myfyrwyr sy’n wynebu caledi ariannol
£40 million extra to support students facing financial hardship
Heddiw, bydd Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi £40m ychwanegol i brifysgolion i gefnogi myfyrwyr sy’n wynebu caledi ariannol. Bydd hyn yn helpu’r myfyrwyr y mae’r pandemig wedi effeithio fwyaf arnynt gyda threuliau megis costau llety.
Gofynnir i brifysgolion roi blaenoriaeth i’r myfyrwyr sydd fwyaf agored i niwed wrth ddyrannu cyllid, yn ogystal â chryfhau’r gwasanaethau cyngor a chymorth i fyfyrwyr.
A’r rhan fwyaf o fyfyrwyr yn astudio gartref ar hyn o bryd, defnyddir y cyllid hefyd i fynd i’r afael â ‘thlodi digidol’ ymhlith myfyrwyr, er mwyn sicrhau gwell mynediad i ddysgu ar-lein, a’r costau sy’n codi yn sgil hunanynysu.
Mae’r cyllid yn ychwanegol at fwy na £40 miliwn y mae Llywodraeth Cymru eisoes wedi’i ddarparu i helpu prifysgolion y flwyddyn ariannol hon, sydd wedi cynnwys £10m tuag at galedi myfyrwyr, cymorth iechyd meddwl ac undebau myfyrwyr.
Daw’r cyllid o Gronfa Wrth Gefn Covid-19 Llywodraeth Cymru, i gefnogi’r ymateb cenedlaethol i’r pandemig, a chaiff ei ddosbarthu i brifysgolion gan Gyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru (CCAUC).
Dywedodd Kirsty Williams, y Gweinidog Addysg:
“Eleni, am resymau y tu hwnt i’w rheolaeth, mae yna filoedd o fyfyrwyr sydd heb allu dychwelyd i’w campws eto. Mewn rhai achosion, mae’n bosibl bod rhai yn dal i dalu am eu llety er nad ydynt yn ei ddefnyddio. Rydyn ni’n cydnabod mor anodd yw hyn, a dyna pam rydyn ni’n cyhoeddi’r cyllid ychwanegol hwn.
“Mae ein prifysgolion wedi gweithio’n aruthrol o galed i gefnogi eu myfyrwyr, gan sicrhau bod y broses ddysgu wedi parhau, a chan sefydlu mesurau i ddiogelu eu myfyrwyr, eu staff a’u cymunedau lleol ar yr un pryd. Bydd y cyllid hwn yn caniatáu iddynt adeiladu ar y gwaith da hwnnw.”
Dywedodd Rebecca Evans, y Gweinidog Cyllid a’r Trefnydd:
“Mewn cyfnod mor anodd, mae’n hanfodol ein bod yn parhau i gefnogi pobl sydd mewn addysg ar hyn o bryd, pobl a fydd yn gyfrwng i ailadeiladu ein heconomi yn dilyn y pandemig.
“Bydd y cyllid hwn hefyd yn helpu i fynd i’r afael ag anghydraddoldeb, drwy sicrhau bod y rhan fwyaf o fyfyrwyr sy’n agored i niwed a’r rheini y mae’r pandemig wedi effeithio fwyaf arnynt yn gallu cwblhau eu hastudiaethau.
“Os ydych yn fyfyriwr yma yng Nghymru, bydd eich prifysgol neu eich undeb myfyrwyr yn gallu darparu mwy o wybodaeth ichi am y cymorth sydd ar gael.”