£4m o gyllid i ddarparwyr gofal plant mewn ymateb i’r Coronafeirws
£4m funding pot for childcare providers in response to Coronavirus
Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru heddiw y bydd dros £4m o gyllid yn cael ei roi i gefnogi darparwyr gofal plant sydd wedi’u heffeithio gan COVID-19.
Bydd y Grant Darparwyr Gofal Plant yn cynnig cyllid penodol i’r sector gofal plant er mwyn helpu i sicrhau bod modd i fwy o ddarparwyr ailagor wrth i ysgolion ddychwelyd ym mis Medi.
Ers 22 Mehefin, mae darparwyr gofal plant wedi medru gofalu am fwy o blant a chynyddu eu gweithrediadau neu ailagor yn llwyr.
Mae’r grant ar gael i leoliadau gofal plant sydd wedi methu â manteisio ar unrhyw gynlluniau cymorth eraill i fusnesau a gynigiwyd gan Lywodraethau Cymru a’r DU, a bydd y rhan fwyaf o’r darparwyr yn gymwys i gael grant untro o £2,500 i dalu costau fel rhent, cyfleustodau a chyflogau nas diwallwyd.
Mae'r cynllun hefyd yn ceisio helpu i wneud y sector gofal plant yn fwy gwydn ar gyfer y dyfodol drwy ei gwneud yn ofynnol i leoliadau gofrestru fel cwmni cyfyngedig drwy warant, cwmni cyfyngedig preifat, Cwmni Buddiannau Cymunedol neu Sefydliad Corfforedig Elusennol.
Bydd y cynllun yn dechrau gwahodd ceisiadau ar 24 Awst ac yn cau ar 31 Hydref 2020.
Dywedodd y Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Julie Morgan:
“Mae llawer o’n darparwyr gofal plant wedi wynebu heriau sylweddol yn sgil y coronafeirws. Er mwyn rheoli lledaeniad y feirws roedd angen cadw niferoedd y plant yn isel, ond rydym yn cydnabod bod hynny wedi bod yn gostus.
“Rwy’n ymwybodol iawn o'r heriau y mae'r sector gofal plant wedi'u hwynebu ac am ddiolch i'r holl ddarparwyr gofal plant am eu dyfalbarhad a'u proffesiynoldeb yn ystod y cyfnod anodd hwn. Mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod y rôl bwysig sydd gan y sector gofal plant fel rhan o'r economi sylfaenol ac rydym yn benderfynol o gefnogi'r sector wrth i'r economi ail gychwyn.
“Mae sicrhau bod lleoedd gofal plant ffurfiol ar gael yn allweddol wrth i ni gychwyn ar y broses adfer ac rydym yn falch ein bod yn gallu cynnig y grant hanfodol hwn i'r rheini yn y sector sydd wedi methu â manteisio ar y mesurau cymorth eraill.
“Rwy’n gobeithio y bydd y datganiad hwn yn help i rieni a darparwyr gynllunio’n fwy pendant ar gyfer y dyfodol.”
Dywedodd y Dirprwy Weinidog a’r Prif Chwip, Jane Hutt:
“Rwy’n falch iawn o gael cynnig y cymorth hwn i ddarparwyr gofal plant, ac rydyn ni am ddiolch iddyn nhw am barhau i ofalu am blant gweithwyr allweddol drwy gyfnod mor anodd. Mae’r gwasanaeth rydych chi’n ei ddarparu i’ch cymunedau yn cael ei werthfawrogi’n fawr iawn ac yn mynd i fod yn rhan hanfodol o adferiad Cymru wrth i ysgolion ailagor, ac wrth i rieni ddychwelyd i’r gwaith.
“Mae gofal plant yn fater aruthrol o bwysig. Mae dros 95% o’r gweithlu blynyddoedd cynnar yn fenywod, ac mae mynediad at ofal plant ffurfiol yn hanfodol i rieni sy’n gweithio.”
Yn gynharach y mis hwn, cyhoeddwyd y byddai Cynnig Gofal Plant Llywodraeth Cymru o 30 awr o ofal plant wedi’i ariannu i blant 3 a 4 oed yn ailgychwyn gyda thymor haf yr ysgol.
Roedd y Cynnig wedi cael ei ohirio ym mis Ebrill er mwyn medru defnyddio’r cyllid ar gyfer darparu gofal i blant cyn oedran ysgol i blant gweithwyr hanfodol.