English icon English
Healthy Weight Healthy Wales-2

£5.5m i helpu i atal a lleihau gordewdra yng Nghymru

£5.5m to help prevent and reduce obesity in Wales

Mae Vaughan Gething, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, wedi cyhoeddi £5.5m arall i gefnogi cynlluniau i atal gordewdra yng Nghymru.

Bydd yr arian yn cael ei ddefnyddio i gefnogi’r Cynllun Cyflawni Pwysau Iach: Cymru Iach 2020-22, a lansiodd y Gweinidog heddiw (dydd Iau, 6 Chwefror 2020) yn ystod ymweliad â chylch chwarae yng Nghaerdydd i weld prosiect bwyta'n iach ar waith.

Dywedodd Mr Gething:

“Mae gordewdra yn un o’r heriau iechyd y cyhoedd mwyaf sy’n ein hwynebu ac rydw i am i Gymru fod yn un o'r gwledydd cyntaf yn y byd i weld gostyngiad mewn cyfraddau gordewdra.

“Er mwyn cyflawni hyn, mae angen inni weld newid ym mhob rhan o'n cymdeithas. Rydw i am inni greu amgylchedd lle’r dewis iach yw’r dewis hawdd. Byddwn yn gweithio gyda phobl ledled Cymru i sicrhau newid cadarnhaol, gan ddechrau drwy roi cefnogaeth yn ystod y blynyddoedd cynnar hanfodol mewn bywyd. Rydw i’n ymweld â'r Grŵp Chwarae Tiny Tigers heddiw, i glywed am y gwaith ardderchog sy'n cael ei wneud gyda theuluoedd a phlant i'w hannog i wneud dewisiadau cadarnhaol wrth ddewis bwyd.

“Mae'r cynllun cyflawni cyntaf ar gyfer ein strategaeth yn nodi'r hyn rydyn ni’n ei wneud i gefnogi pobl o bob oedran ar draws pob rhan o Gymru i wneud dewisiadau iachach mewn bywyd. Gall newidiadau bach i’n harferion bob dydd arwain at fanteision iechyd mawr a pharhaol i bob un ohonom.”

Mae'r £5.5m a gyhoeddwyd heddiw wedi'i rannu fel a ganlyn:

  • £4.1m i fyrddau iechyd a phartneriaid i ddarparu gwasanaethau cefnogi i helpu oedolion, pobl ifanc a theuluoedd i gynnal pwysau iach
  • £600,000 ar gyfer rhaglen plant a theuluoedd i gefnogi prosiectau pwysau iach fel yr un yr aeth y Gweinidog i’w weld heddiw
  • £500,000 i'w fuddsoddi mewn cynnig chwaraeon a hamdden ar gyfer pobl dros 60 oed
  • £300,000 i ariannu grantiau ar gyfer cyrff chwaraeon ac i werthuso.

Mae'r cynllun cyflawni hefyd yn nodi nifer o brosiectau traws-lywodraethol eraill o dan wyth maes blaenoriaeth.

Mae'r rhain yn cynnwys:

  • Helpu busnesau bwyd yng Nghymru i ddatblygu cynhyrchion iach
  • Gwella mynediad at fwydydd a diodydd iach ar safleoedd ein Gwasanaeth Iechyd Gwladol.
  • Cynyddu nifer y gorsafoedd dŵr yfed
  • Buddsoddi mewn llwybrau beicio a cherdded
  • Gwella mynediad at weithgareddau hamdden yn yr awyr agored
  • Mynd i'r afael â rhwystrau er mwyn lleihau anghydraddoldebau iechyd a deiet
  • Cyflwyno rhaglenni pwysau iach ar gyfer plant cyn ysgol
  • Cynnwys maeth a bwyta'n iach yn y cwricwlwm newydd

Dywedodd Dr Frank Atherton, y Prif Swyddog Meddygol:

“Cynnal pwysau iach yw un o'r ffyrdd gorau o leihau'r risg o gyflyrau fel diabetes, clefyd y galon a chanser.

“Rydyn ni’n yn cydnabod y gall newid arferion byw fod yn dasg heriol ond mae'r cynllun hwn yn nodi sut mae pob rhan o'r llywodraeth yn gweithio i helpu unigolion i wneud y newidiadau hynny.”

Roedd y Gweinidog yn ymweld â'r Grŵp Chwarae Tiny Tigers yn Ysgol Gynradd Mount Stuart yng Nghaerdydd. Gwelodd blant yn cymryd rhan yn y rhaglen faetheg a oedd yn cael ei chyflwyno gan dîm Dechrau'n Deg Caerdydd. Ymunodd Beca Lyne-Pirkis, y cogydd teledu a Llysgennad Pwysau Iach: Cymru Iach, gyda nhw.

Dywedodd Beca:

“Roedd yn hyfryd gweld plant yn cael hwyl wrth ddysgu am fwyd a maeth. Bydd y cyllid a gafodd ei gyhoeddi heddiw yn cael ei ddefnyddio i gynnal rhagor o brosiectau fel hyn ar hyd a lled Cymru, er mwyn annog plant a phobl ifanc i ddangos diddordeb mewn bwyd ac i fwynhau coginio. Mae'n ffordd wych o helpu pobl i ddeall pwysigrwydd cynnal pwysau iach a dangos agwedd iach tuag at fwyd yn gyffredinol.”

Mae'r arian a gyhoeddwyd heddiw yn cynnwys cyllid i ddatblygu prosiectau a fydd yn cael eu darparu’n lleol, fel yr un yn Tiny Tigers, er mwyn atal a lleihau gordewdra yng Nghymru.

Nodiadau i olygyddion

Gellir dod o hyd i'r Cynllun Cyflawni Pwysau Iach: Cymru Iach 2020-22 yma. [o 09:00]

Mae'r Strategaeth Pwysau Iach: Cymru Iach i'w gweld yma: