English icon English

£500 i helpu rhieni mewn profedigaeth yng Nghymru

£500 support for bereaved parents in Wales

Mae Julie James, y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol wedi cyhoeddi y bydd teuluoedd yng Nghymru sydd wedi cofrestru marwolaeth plentyn dan 18 oed yn gallu derbyn cyfraniad o £500 tuag at gost yr angladd, o 1 Ebrill ymlaen.

Ni fydd yn rhaid i deuluoedd fynd ati i ofyn am y cyllid na gwneud cais. Yn hytrach, bydd y Cofrestrydd yn ei gynnig fel un taliad pan gaiff y farwolaeth ei chofrestru.

Dywedodd Julie James:

“Rydyn ni am gynnig cymorth ymarferol, tosturiol i deuluoedd ar adeg aruthrol o anodd. Bydd llywodraeth leol yn cymryd yr awenau o ran darparu’r cymorth ychwanegol i deuluoedd, ac rydyn ni wedi gweithio’n agos mewn partneriaeth â nhw i ddatblygu ffordd hawdd o gael gafael ar y cyllid, bydd yn darparu cymorth iddynt pan fo’i angen.”

“Does dim un rhiant eisiau meddwl am orfod trefnu angladd ei blentyn. Rydyn ni wedi gweithio gydag awdurdodau lleol fel bod y broses hon mor syml â phosibl i deuluoedd.”

Mae’r cymorth ariannol ychwanegol hwn ar gyfer angladdau yn rhan o becyn ehangach i deuluoedd sydd wedi colli plentyn, sy’n cynnwys datblygu safonau cenedlaethol ar gyfer profedigaeth a grant newydd gwerth £1m i helpu i fynd i’r afael â’r bylchau mewn darpariaeth gwasanaethau profedigaeth ledled Cymru.

Ers 2017, mae Llywodraeth Cymru wedi gweithio gyda llywodraeth leol ac Un Llais Cymru, sy’n cynrychioli cynghorau cymuned a thref yng Nghymru, i hepgor ffioedd claddu ac amlosgi plant.

Dywedodd y Cynghorydd Andrew Morgan (Rhondda Cynon Taf), Arweinydd CLlLC:

“Mae colli plentyn yn brofiad ac yn drawma y tu hwnt i ddychymyg a fydd yn aros gyda theuluoedd sy’n galaru am byth. Rydyn ni wedi bod yn falch o gael gweithio mewn partneriaeth gyda Llywodraeth Cymru i sicrhau bod tegwch a chysondeb yn hyn o beth ym mhob ardal yng Nghymru. Drwy ymestyn y cymorth hwn, byddwn yn gallu parhau i roi cymorth i deuluoedd pan fo’i angen fwyaf arnynt.”

Rhian Mannings MBE yw sefydlydd a Phrif Swyddog Gweithredol 2 Wish Upon A Star, sef elusen sy’n cefnogi pobl sydd wedi’u heffeithio gan farwolaeth sydyn blentyn neu oedolyn.

Dywedodd:  

“Ni ddylai neb orfod claddu ei blentyn. Mae’n mynd yn groes i drefn bywyd, ac yn gadael poen a galar aruthrol. Ar ben y boen a’r tor-calon hwnnw, yn aml mae’r baich ariannol o dalu costau’r angladd, all fod yn filoedd o bunnoedd. Mae trefnu’r angladd yn broses anodd. Mae gwneud dewisiadau am eu ffarwel olaf yn rhan arall o broses alaru’r rhieni, ond byddai nifer yn gwerthfawrogi cael gwybod bod cyllid ar gael i helpu tuag at gostau angladdau.

“Pan gollais fy mab a fy ngŵr yn 2012, roedden ni’n ffodus o gael teulu estynedig o’n hamgylch i helpu i dalu am yr angladd, ac roedd yr ymgymerwr yn hael dros ben, wrth iddo hepgor costau angladd Georgie.”

Nodiadau i olygyddion

To interview the Minister or Rhian Mannings, contact Marie Concannon on 07890 554 904 or marie.concannon2@gov.wales. To interview Cllr Morgan, contact Lucy Sweet at the WLGA: lucy.sweet@wlga.gov.uk

The additional financial support for bereaved families in Wales to help towards funeral and other related costs is available regardless of a family’s income, and will cover costs for children under 18 and stillbirths after the 24th week of pregnancy.

The money is meant as a contribution towards the funeral and other associated costs. It will be up to each family to decide how they can best spend the money. The type of costs are not restricted.

Families are under no obligation to accept the support should they, for any reason, not want it.

The waiving of standard burial and cremation fees are waived by local government at source and, in recognition of the implications of not charging, the Welsh Government provides financial support to local government by way of an annual grant. This money has been available to local authorities provided that they do not charge the relevant fees themselves and that they put in place arrangements to distribute an appropriate amount of the funding to other providers that also operate in line with the agreement.