English icon English

£5m ar gyfer iechyd meddwl mewn ysgolion i gynnwys cymorth newydd ar gyfer plant o dan 11 oed ac athrawon

£5m for mental health in schools will include new support for under-11s and teachers

Daw’r cyhoeddiad ar ddechrau Wythnos Ymwybyddiaeth o Iechyd Meddwl.

Heddiw, mae’r Gweinidog Addysg, Kirsty Williams, a’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Vaughan Gething, wedi cyhoeddi cyllid ar gyfer iechyd meddwl mewn ysgolion a fydd yn cynnwys cymorth newydd i blant o dan 11 oed. 

Ar hyn o bryd, mae gwasanaethau cwnsela ysgolion yn darparu cymorth uniongyrchol i bobl ifanc o 11 oed, neu Flwyddyn 6, i 18 oed. Bydd y cyllid a gyhoeddwyd heddiw yn ehangu’r cymorth i ddarparu cefnogaeth feddyliol ac emosiynol i blant iau na Blwyddyn 6.  

Bob blwyddyn, mae tua 11,500 o bobl ifanc yn manteisio ar gymorth iechyd meddwl lefel is, y tu allan i ddarpariaeth arbenigol y GIG, mewn ysgolion a thrwy wasanaethau cwnsela cymunedol.

Bydd £450,000 hefyd yn mynd tuag at gefnogi iechyd meddwl a lles gweithlu ysgolion. Mae Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda’i phartneriaid i ddatblygu cynlluniau pellach o ran sut i ddarparu’r cymorth hwnnw. 

Mae’r cyllid yn ychwanegol at £1.25m a gyhoeddwyd gan y Gweinidog Addysg fis diwethaf, i awdurdodau lleol gael darparu gwasanaethau cwnsela mewn ysgolion, sy’n dod â chyfanswm y cymorth i £5m y flwyddyn ariannol hon.

Dywedodd Kirsty Williams:

“Mae’n anochel bod y coronafeirws yn achosi pryder ychwanegol i bobl o bob oed, ac i blant a phobl ifanc yn gymaint â neb. Mae’n rhaid inni fod yn barod, felly, am y cynnydd yn y galw am gymorth iechyd meddwl ymhlith y genhedlaeth iau.

“Rydyn ni’n gwybod bod mynd i’r afael â phroblemau yn gynnar yn gallu eu stopio rhag gwaethygu. Er bod problemau iechyd meddwl difrifol yn llai cyffredin ymhlith plant iau, rydyn ni’n ehangu’r cymorth sydd ar gael fel bod modd i blant o dan 11 oed hefyd gael help emosiynol, os oes ei angen arnynt.

“Rydyn ni’n gwybod nad yw cwnsela wyneb yn wyneb traddodiadol yn briodol, o reidrwydd, yn achos plant iau, gan nad ydynt efallai yn ddigon aeddfed i esbonio a deall y materion sy’n achosi pryder iddynt. Mae therapïau arbenigol, fel therapïau sy’n seiliedig ar chwarae, a gweithio gyda’r teulu ehangach yn llawer mwy effeithiol, a byddwn yn gweithio gyda darparwyr i ddatblygu’r gwasanaethau hyn fel rhan o’n dull gweithredu ehangach ar lefel ysgol gyfan.”

Dywedodd Vaughan Gething:

“Yn wyneb y cyfyngiadau angenrheidiol ar fywydau pobl ifanc yn sgil y coronafeirws, sy’n golygu llai o amser gyda’u ffrindiau ac aelodau o’u teuluoedd, mae’n rhaid inni fod yn barod am effaith ar les emosiynol plant. 

“Mae’n bwysig, felly, ein bod ni’n parhau i fuddsoddi mewn cymorth iechyd meddwl ar gyfer ein pobl ifanc yn ystod y cyfnod anodd iawn hwn.”