£5m i roi hwb i anghenion tai yng Nghymru
£5m to help bolster Wales’ housing needs
Mae sicrhau bod tai fforddiadwy a thai cymdeithasol ar gael yng Nghymru wedi cael hwb, diolch i Gronfa Rhyddhau Tir Llywodraeth Cymru.
Mae’r gronfa gwerth £5m wedi’i chynllunio i gyflymu’r broses o ddefnyddio tir cyhoeddus sydd heb ei ddatblygu ar gyfer tai fforddiadwy a thai cymdeithasol y mae dirfawr alw amdanynt, ac mae wedi rhoi cefnogaeth i ddau ar bymtheg o brosiectau eleni. Mae’r prosiectau llwyddiannus yn cyflawni datblygiadau carbon isel ar raddfa fach drwy ddefnyddio technoleg fodern ac arloesol.
Mae prosiectau’n cynnwys:
- datblygu tir ar gyfer 18 o gartrefi fforddiadwy a thai cymdeithasol yn Sir Gaerfyrddin.
- prynu eiddo gwag yng Ngheredigion i’w troi’n gartrefi cymdeithasol.
- chwalu cyn safle diwydiannol yn Abertawe er mwyn adeiladu 15 o dai fforddiadwy a thai cymdeithasol.
- paratoi tir ar gyfer 26 o dai fforddiadwy ar Ynys Môn.
- darparu llety cymunedol ar gyfer pobl sydd ag anableddau dysgu ym Mlaenau Gwent.
Dywedodd y Gweinidog Cyllid, Rebecca Evans:
“Mae darparu rhagor o dai cymdeithasol yn parhau i fod yn brif flaenoriaeth i Lywodraeth Cymru.
“Mae’r Gronfa Rhyddhau Tir wedi caniatáu i ni gyflymu ein hymateb i’r angen am dai yma yng Nghymru, a hynny drwy roi’r cyllid angenrheidiol i ryddhau tir cyhoeddus nad yw wedi’i ddatblygu er mwyn adeiladu rhagor o dai fforddiadwy a thai cymdeithasol.
“Mae’r gronfa hefyd yn ein helpu i roi hwb y mae mawr ei angen i’r economi, yn enwedig y diwydiant adeiladu a’r cadwyni cyflenwi cysylltiedig.”
Bydd y Gronfa Rhyddhau Tir yn parhau i gefnogi prosiectau ychwanegol y flwyddyn nesaf, ac mae’r Gweinidog Cyllid wedi cyhoeddi y bydd gwerth £10m o gyllid ar gael fel rhan o’r Gyllideb Derfynol yn 2021-22.