English icon English

£84.6m yn ychwanegol ar gyfer gwasanaethau bysiau er mwyn wynebu heriau’r coronafeirws

Bus services supported with a further £84.6m to meet challenges of coronavirus

Bydd teithwyr ar draws Cymru yn elwa ar £84.6m yn ychwanegol gan Lywodraeth Cymru ar gyfer y diwydiant bysiau. Bydd y cyllid hwn yn helpu cwmnïau i wynebu heriau’r coronafeirws a chynnal rhagor o wasanaethau.

Mae’r cyllid yn golygu bod cyfanswm o £140m wedi’i fuddsoddi mewn gwasanaethau bysiau yn ystod y flwyddyn ariannol hon.

Gan fod nifer y bobl sy’n teithio wedi lleihau a chan fod mesurau cadw pellter cymdeithasol wedi’u cyflwyno mae refeniw cwmnïau bysiau wedi lleihau dros y misoedd diwethaf. Er mwyn cefnogi’r diwydiant mae Llywodraeth Cymru wedi darparu cyllid ychwanegol. Y cam cyntaf oedd cefnogi teithiau hanfodol ond yn nes ymlaen aeth y Llywodraeth ati i gefnogi’r gwaith o gynyddu gwasanaethau wrth i ysgolion a’r economi ehangach ddechrau ailagor.

Cadarnhawyd ym mis Awst y byddai £10m yn cael ei ddarparu er mwyn helpu i gludo rhagor o bobl i ysgolion, colegau a lleoliadau gwaith. Cyhoeddiad heddiw o ran cyllid yw’r cyhoeddiad mwyaf o’i fath ac mae’n golygu bod cyfanswm o £140m wedi’i ddarparu.

Mae’r cyllid hefyd yn gam arall tuag at gyflawni cynllunio mwy hirdymor a system integredig yn hytrach na phwyslais ar gyllid brys. Cafodd cytundeb newydd – y Cynllun Brys ar gyfer y Sector Bysiau – ei greu’n ddiweddar er mwyn rheoli cyllid ar gyfer y diwydiant. Mae Llywodraeth Cymru, Trafnidiaeth Cymru, awdurdodau lleol a gweithredwyr bysiau oll ynghlwm wrth y cynllun sy’n anelu at weddnewid rhwydwaith bysiau Cymru a sicrhau bod anghenion teithwyr yn flaenoriaeth wrth i gyllid gael ei ddyrannu.

Dywedodd Lee Waters, Dirprwy Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth:

“Rydym yn awyddus i sicrhau bod gwasanaethau bysiau yn diwallu anghenion teithwyr, hyd yn oed mewn cyfnod mor anodd. Mae’r ffaith ein bod yn parhau i ddyrannu cyllid yn tystio i’n hymrwymiad i sicrhau bod cymaint â phosibl o wasanaethau’n cael eu cynnal mewn modd diogel.

“Bydd y cyllid hwn yn sicrhau rhywfaint o sefydlogrwydd hirdymor a chan fod ansicrwydd o hyd byddwn yn parhau i gydweithio’n agos ag awdurdodau lleol a gweithredwyr bysiau er mwyn darparu gwasanaethau.”

“Mae gan fysiau swyddogaeth hollbwysig o safbwynt cysylltu cymunedau a helpu pobl deithio i siopau, lleoliadau addysg, lleoliadau gwaith a safleoedd hamdden. Rydym yn parhau’n ymrwymedig i ddarparu’r cymorth angenrheidiol er mwyn sicrhau parhad gwasanaethau effeithlon yn y tymor byr, y tymor canol a’r hirdymor.”

Dywedodd Rebecca Evans, y Gweinidog Cyllid a’r Trefnydd:

“Rydym yn deall yr effaith ddifrifol y mae’r pandemig wedi’i chael ar wasanaethau bysiau yng Nghymru. Bydd y cyllid rydym yn ei gyhoeddi heddiw yn helpu i ddiogelu dyfodol gwasanaethau bysiau yng Nghymru ac yn sicrhau y bydd gennym rwydwaith trafnidiaeth gyhoeddus hyfyw ar ôl i’r argyfwng yma ddod i ben.”

Dywedodd John Pockett, Cyfarwyddwr Cydffederasiwn Cludiant Teithwyr Cymru, y corff sy’n cynrychioli gweithredwyr bysiau yng Nghymru:

“Mae’r cyllid ychwanegol hwn oddi wrth y Llywodraeth yn rhywbeth sy’n cael croeso mawr gan y diwydiant bysiau. Mae’r diwydiant hwnnw wedi gweld gostyngiad trychinebus yn nifer y teithwyr ac mewn refeniw oherwydd y pandemig ofnadwy hwn. Gan gydweithio a’n partneriaid yn Llywodraeth Cymru ac mewn awdurdodau lleol, mae gweithredwyr bysiau am ddarparu rhagor o wasanaethau i deithwyr wrth i bobl ailgydio mewn gweithgareddau ac wrth i’r economi ailagor. Bydd y cymorth ariannol hwn yn rhoi hwb aruthrol i’r nod hwnnw yn y misoedd sydd i ddod. Mae’n dangos bod y Llywodraeth yn cydnabod pa mor bwysig yw gwasanaethau bysiau i gymunedau lleol ac economi Cymru.”