£912,506 i roi hwb i arloesi a thwf yng Nghanolbarth Cymru

Mid Wales businesses and universities share £912k innovation boost to drive growth

  • Mae 8 prosiect ledled Canolbarth Cymru wedi sicrhau cyfran o £912,506 drwy raglen Cymorth Arloesi Hyblyg SMART (SFIS) Llywodraeth Cymru
  • Bydd y buddsoddiad yn helpu busnesau a phrifysgolion i ddatblygu technolegau newydd, gwella cynhyrchiant a chryfhau eu cystadleurwydd
  • Mae'r cyllid yn rhan o fuddsoddiad ehangach gwerth £10.87 miliwn sy'n cefnogi 82 o brosiectau arloesi ledled Cymru.

Mae wyth o brosiectau arloesol ledled Canolbarth Cymru wedi sicrhau cyfran o £912,506 o gyllid gan Lywodraeth Cymru i helpu busnesau a sefydliadau i dyfu, gwella cynhyrchiant a manteisio ar gyfleoedd newydd.

Mae'r prosiectau llwyddiannus yn cynnwys chwe menter dan arweiniad busnesau, ynghyd â phrosiectau ym Mhrifysgol Aberystwyth a Phrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant.

Dyfarnwyd y cyllid drwy Gronfa Cyfarpar Cyfalaf 2026-27, sy'n rhan o raglen Cymorth Arloesi Hyblyg SMART (SFIS). Bydd yn helpu sefydliadau i foderneiddio eu gweithrediadau, gwneud gwell defnydd o adnoddau a datblygu ffyrdd newydd o weithio, gan gryfhau eu gallu i gystadlu a chefnogi twf economaidd cynaliadwy ar draws y rhanbarth.

Ymhlith y busnesau sy'n elwa ar y cyllid mae Carpenter & Paterson Limited yn y Trallwng, sydd wedi sicrhau £56,123 i ehangu a moderneiddio ei gyfleuster paentio a gorchuddio arbenigol.

Mae'r cwmni'n cynhyrchu cyfarpar sy'n cael ei ddefnyddio i gynnal piblinellau mewn cyfleusterau ynni a diwydiannol mawr. Bydd y buddsoddiad yn ei alluogi i brosesu mwy o gynhyrchion, cynyddu ei gapasiti cynhyrchu ac ymgymryd â gwaith ychwanegol.

Disgwylir i'r gwelliannau bron ddyblu nifer y cynhyrchion y gall y cyfleuster eu gorchuddio bob mis. Erbyn mis Mawrth 2028, mae'r cwmni hefyd yn rhagweld y bydd y buddsoddiad yn helpu i fwy neu lai dreblu'r incwm a gynhyrchir gan y rhan hon o'r busnes.

Mae'r wyth prosiect yng Nghanolbarth Cymru yn rhan o fuddsoddiad ehangach gwerth £10.87 miliwn drwy raglen Cymorth Arloesi Hyblyg SMART (SFIS) Llywodraeth Cymru ar gyfer 2026-27, sy'n cefnogi 82 o brosiectau arloesi ledled Cymru.

Ers 2023, mae Llywodraeth Cymru wedi dyrannu mwy na £40 miliwn drwy'r rhaglen, gan gefnogi bron i 500 o brosiectau a helpu sefydliadau ledled Cymru i droi syniadau arloesol yn welliannau ymarferol a chyfleoedd i dyfu.

Dywedodd Stuart Richards yn Carpenter & Paterson Limited:

“Rydym yn falch o gael cymorth drwy raglen Cymorth Arloesi Hyblyg SMART, a fydd yn ein helpu i fuddsoddi yn ein gweithrediadau yn y Trallwng a chynyddu ein capasiti gweithgynhyrchu.

“Bydd y buddsoddiad yn ein galluogi i foderneiddio ac ehangu rhan allweddol o'n proses gynhyrchu, gan ein helpu i ateb y galw cynyddol ac ymgymryd â gwaith ychwanegol.

“Mae hwn yn fuddsoddiad pwysig yn nyfodol y busnes a bydd yn ein helpu i barhau i dyfu o'n canolfan yng Nghanolbarth Cymru.”

Dywedodd Adam Price, y Gweinidog Cabinet dros Fenter, Cysylltedd ac Ynni:

“Mae arloesi yn helpu sefydliadau ledled Canolbarth Cymru i ddod o hyd i ffyrdd newydd o dyfu, gwella cynhyrchiant a chryfhau eu cystadleurwydd.

“O weithgynhyrchwyr yn y Trallwng sy'n buddsoddi mewn cyfarpar a phrosesau newydd i brifysgolion sy'n datblygu technolegau a gallu ymchwil newydd, mae'r prosiectau hyn yn dangos ehangder y gwaith arloesi sy'n digwydd ar draws y rhanbarth.

“Mae'r cyllid hwn yn helpu busnesau a sefydliadau ymchwil i droi syniadau newydd yn welliannau ymarferol, gan greu cyfleoedd i dyfu, cefnogi swyddi medrus a chryfhau economi Canolbarth Cymru ar gyfer y dyfodol.”

Nodiadau i olygyddion

Cymorth Arloesi Hyblyg SMART (SFIS) yw rhaglen ehangach Llywodraeth Cymru ar gyfer cefnogi arloesi. Mae'n gweithredu drwy gydol y flwyddyn ac yn darparu amrywiaeth o gyllid a chymorth i helpu sefydliadau i arloesi, gwella cynhyrchiant a thyfu.

Mae Cronfa Cyfarpar Cyfalaf yn un o'r ffrydiau cyllid sydd ar gael drwy Cymorth Arloesi Hyblyg SMART (SFIS). Mae'r gronfa'n agor ar gyfer ceisiadau yn ystod cyfnodau penodol ac yn darparu grantiau i helpu sefydliadau i fuddsoddi mewn cyfarpar, technoleg a seilwaith a all wella cynhyrchiant a chefnogi twf.