£9m i uwchraddio uned ddiwydiannol Hirwaun a chreu swyddi newydd
£9m to upgrade Hirwaun industrial unit and create new jobs
Mae Llywodraeth Cymru yn buddsoddi hyd at £9.25 miliwn i brynu ac uwchraddio uned ddiwydiannol ym Mlaenau'r Cymoedd, mewn ymgais i ddenu busnesau gweithgynhyrchu o ansawdd uchel a chreu swyddi newydd yn un o ardaloedd mwyaf difreintiedig Cymru.
Ar ôl cwblhau prynu Uned 1 ar Ystad Ddiwydiannol Hirwaun yn ddiweddar, bydd gwaith adnewyddu cynhwysfawr nawr yn digwydd i greu cyfleuster gweithgynhyrchu o ansawdd uchel ar gyfer y farchnad.
Bydd y prosiect yn diwallu anghenion darpar feddianwyr masnachol amrywiol, ac yn rhoi hwb economaidd i Flaenau'r Cymoedd, ochr yn ochr â swyddi medrus gyda chyflogau uchel.
Mae gan yr ardal gysylltiadau trafnidiaeth cryf yn dilyn yr uwchraddiad diweddar gwerth £2 biliwn i'r A465, gyda chysylltiadau ffyrdd uniongyrchol â Chaerdydd, Abertawe a Chanolbarth Lloegr.
Bydd y buddsoddiad yn yr uned 97,300 troedfedd sgwâr yn Hirwaun, sy'n cynnwys chwe erw o dir datblygu, yn darparu'r adeiladau diwydiannol modern sydd eu hangen i ddenu mewnfuddsoddiad i'r ardal, ac i alluogi cwmnïau lleol i dyfu ac ehangu.
Mae'n adeiladu ar ddatblygiadau diweddar gan Lywodraeth Cymru yng Nghymoedd De Cymru drwy ei rhaglen y Cymoedd Technoleg, sy'n anelu at ddarparu swyddi a buddsoddiad mewn uwch-dechnoleg i'r rhanbarth.
Mae'r rhain yn cynnwys adeiladu RYB1 yn Rhyd y Blew - adeilad 52,000 troedfedd sgwâr a osodwyd i Halton Cymru ym mis Rhagfyr 2024 - ac adnewyddu Tŷ’r Cymoedd Technoleg - cyfleuster 175,000 troedfedd sgwâr sy'n cael ei gynnig ar hyn o bryd.
Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio, Rebecca Evans:
"Mae meithrin y diwydiant gemau yn flaenoriaeth i Lywodraeth Cymru. Mae mannau busnes o ansawdd uchel wedi'u cysylltu'n dda yn hanfodol ar gyfer ehangu a chreu swyddi, a bydd y buddsoddiad hwn yn helpu i sicrhau bod gan Flaenau'r Cymoedd yr adeiladau modern sydd eu hangen i ddenu busnesau gweithgynhyrchu medrus a darparu swyddi da i bobl leol."