English icon English

Geraint Thomas wedi'i enwi yn Llysgennad Beicio Cymru ar gyfer Tour De France 2027

Geraint Thomas named Wales’ Cycling Ambassador for 2027 Tour De France

Heddiw cyhoeddir llwybr amlinellol a lleoliadau cychwyn a gorffen Tour De France 2027, pan fydd Cymru yn cynnal ras feicio fwyaf fawreddog y byd am y tro cyntaf.  

Bydd cymal Cymru yn dechrau yn y Trallwng ac yn gorffen yng Nghaerdydd, ar 4 Gorffennaf 2027, gan nodi trydydd cymal ac uchafbwynt Grand Depart y DU.  Dyma y digwyddiad chwaraeon am ddim mwyaf erioed i gael ei gynnal yn y DU.

I gyd-fynd â chadarnhau y llwybr, cyhoeddwyd heddiw hefyd y bydd Geraint Thomas OBE yn ymgymryd â rôl newydd fel Llysgennad Beicio Cymru yn y cyfnod cyn y Daith.

Bydd yr enillydd medal aur Olympaidd ddwywaith ac enillydd Tour de France 2018 yn helpu i hyrwyddo Cymru fel cyrchfan seiclo fyd-eang.

Bydd Thomas yn gweithio gyda Croeso Cymru i hyrwyddo tirweddau trawiadol Cymru, llwybrau o'r safon uchaf a llwybrau beicio sy'n addas i deuluoedd.  

Bydd y llysgennad, a gyhoeddwyd gan y Prif Weinidog Eluned Morgan a Christian Prudhomme, Cyfarwyddwr Cyffredinol y Tour de France (ASO), yn rhoi llwyfan i Thomas ysbrydoli beicwyr ifanc o Gymru, gan helpu i wneud y mwyaf o fanteision hirdymor cynnal 'Le Tour' i Gymru.

Meddai Geraint Thomas:

"Rwy'n hynod falch o gael fy nghyhoeddi fel Llysgennad Beicio Cymru wrth i ni baratoi ar gyfer Tour de France 2027. Mae'r Tour yn dod i Gymru yn enfawr – mae'r ffyrdd, y dringfeydd hyn a'r cefnogwyr hyn wedi'u gwneud ar gyfer beicio, a nawr mae'r byd yn cael gweld hynny. Alla i ddim aros i chwarae fy rhan yn croesawu'r Daith, ysbrydoli beicwyr hen ac ifanc, a helpu i wneud hyn yn foment na fydd Cymru byth yn ei anghofio."

Dywedodd y Prif Weinidog:

"Mae cynnal y Tour De France yn gwireddu breuddwyd i gefnogwyr beicio Cymru, a phwy well i gymryd y rôl fel ein Llysgennad swyddogol na'r beiciwr gorau erioed yng Nghymru, Geraint Thomas?

"Gyda dringfeydd ffyrdd epig, lonydd gwledig tawel, beicio mynydd anhygoel a llwybrau di-draffig‑, mae Cymru'n cynnig rhywbeth i bob beiciwr.  Bydd ein hamrywiaeth o gyfleoedd beicio ar draws pob disgyblaeth o'r gamp yn cael eu harddangos i gynulleidfa fyd-eang yn ystod y Daith, ynghyd â diwylliant unigryw Cymru, tirweddau epig, atyniadau eiconig a'r "croeso" gorau erioed.

"Nid yn unig y bydd y Tour yn dod i Gymru yn brofiad cyffrous i gefnogwyr beicio ledled y byd, mae'n gyfle amhrisiadwy i ddangos golygfeydd syfrdanol Cymru a'r llwybrau beicio rhagorol i gynulleidfa fyd-eang." 

Rebecca Evans – Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio

"Mae cynnal y Tour de France am y tro cyntaf yn foment hanesyddol i Gymru, ac yn gyfle aruthrol i'n heconomi.

"Geraint Thomas yw'r llysgennad perffaith i'n helpu i arddangos ein llwybrau beicio o'r safon uchaf i gynulleidfa fyd-eang ac ysbrydoli'r genhedlaeth nesaf o feicwyr o Gymru. Rydym yn benderfynol o wneud y mwyaf o fanteision parhaol y digwyddiad hwn i gymunedau a busnesau ledled Cymru."