GIG Cymru i gynnig amddiffyniad cyfnod hir rhag un o feirysau cyffredin y gaeaf i fabanod cynamserol
NHS in Wales to offer premature babies long-acting protection against common winter virus
Bydd babanod sy'n cael eu geni'n gynnar iawn yn cael cynnig amddiffyniad rhag y feirws syncytiol anadlol (RSV) drwy feddyginiaeth gwrthgyrff cyfnod hir.
Mae Nirsevimab yn darparu amddiffyniad gydag un pigiad yn unig, gan ddisodli'r angen am bigiadau misol, a gynigiwyd yn flaenorol i fabanod risg uchel.
Bydd y pigiad newydd ac arloesol yn cryfhau parodrwydd y GIG ar gyfer y gaeaf ymhellach, er mwyn atal derbyniadau diangen i'r ysbyty yn sgil y feirws hwn sy'n gyffredin yn ystod y gaeaf. Caiff ei gyflwyno yn dilyn lansiad y brechlyn cyntaf erioed rhag RSV ar gyfer menywod beichiog ac oedolion rhwng 75 a 79 oed y llynedd.
Daw'r newid i un pigiad cyfnod hir ar ôl i'r Cyd-bwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu gynghori y dylai'r driniaeth gwrthgyrff monoclonaidd Nirsevimab ddisodli Palivizumab, gan ei bod yn fwy effeithiol.
Cynghorodd y Cyd-bwyllgor hefyd y dylid ymestyn y brechlyn i bob baban a anwyd cyn 32 wythnos sy'n wynebu ei dymor RSV cyntaf. Bydd hyn yn amddiffyn y babanod mwyaf agored i niwed – ychydig iawn, os o gwbl, o amddiffyniad fyddai babanod a anwyd cyn 32 wythnos yn ei gael o'r brechlyn RSV i famau sy'n cael ei roi i fenywod beichiog ar ôl 28 wythnos o feichiogrwydd.
Mae RSV yn heintio hyd at 90% o blant yn ystod dwy flynedd gyntaf eu bywyd, a bydd plant hŷn ac oedolion yn aml yn cael eu hailheintio gan y feirws. Mae babanod o dan un oed yn wynebu risg uwch o fynd i'r ysbyty gydag achos mwy difrifol o RSV.
Ar gyfer plant sy'n cael eu geni'n gynnar iawn, mae'r risg o ddal RSV yn ystod eu gaeaf cyntaf yn uchel a gall fod yn hynod ddifrifol. Gall RSV mewn babanod achosi bronciolitis, sy'n arwain at lid y llwybrau anadlu bach ac anawsterau anadlu sylweddol.
Dangosodd data a gyflwynwyd i'r Cyd-bwyllgor fod babanod cynamserol iawn deirgwaith yn fwy tebygol o fod angen mynd i'r ysbyty oherwydd RSV, a deg gwaith yn fwy tebygol o fod angen gofal dwys, o'i gymharu â babanod cyfnod llawn.
Y gobaith yw y bydd y driniaeth newydd yn helpu i leddfu rhai o'r pwysau y mae'r GIG yn eu hwynebu yn ystod y gaeaf, gan yr amcangyfrifir bod RSV yn gallu cael mwy o effaith na'r ffliw ar blant ac oedolion hŷn yn y DU.
Mae'r tymor RSV yn y wlad yma fel arfer yn dechrau ym mis Hydref, gan gyrraedd ei anterth ym mis Rhagfyr cyn arafu erbyn mis Mawrth. Bydd ehangu'r rhaglen i gynnwys babanod cynamserol iawn yn darparu amddiffyniad hanfodol rhag RSV.
Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol, Jeremy Miles: "Rydym yn dilyn cyngor y Cyd-bwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu i gynnig y driniaeth newydd hon i fabanod sy'n wynebu risg uwch o niwed yn ystod y tymor RSV.
"Bydd hyn yn golygu mai dim ond un dos fydd ei angen arnyn nhw, yn hytrach na sawl dos a bydd yn eu hamddiffyn am gyfnod hirach.
"Mae hyn yn rhan o'n hymdrechion i baratoi'r Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru ar gyfer y gaeaf a diogelu'r rhai sy'n wynebu'r risg fwyaf."
Nodiadau i olygyddion
- In 2022 Noah’s Ark Children’s Hospital, supported by Health and Care Research Wales, took part in a global clinical trial called HARMONIE, which looked at the efficiency of nirsevimab in treating RSV in healthy babies up to 12 months old.
- The HARMONIE study team reported an 83% reduction in hospitalisations due to RSV in infants under 12 months who received a single dose of nirsevimab.
- Palivizumab will continue to be an effective option for high-risk babies if nirsevimab is not available, providing the NHS with greater resilience to the medicines supply chain.