GIG Cymru yn cynyddu ei gapasiti i ymdopi â choronafeirws yn gyflym iawn
Mae hyd at 7,000 o welyau ysbyty ychwanegol yn cael eu creu gan GIG Cymru wrth iddo baratoi ar gyfer cynnydd mewn achosion o goronafeirws, datgelodd y Gweinidog Iechyd, Vaughan Gething, heddiw.
Mae’r capasiti gofal critigol wedi mwy na dyblu ledled Cymru ac mae 1,000 o beiriannau anadlu newydd wedi cael eu harchebu.
Mae’r cynlluniau wedi cael eu cefnogi gan ymateb enfawr gan staff y GIG sydd wedi ymddeol yn ddiweddar ac sy’n barod i ddychwelyd i’r gwaith – mae 1,300 o weithwyr gofal iechyd proffesiynol wedi ymateb eisoes ac mae 1,200 o feddygon teulu locwm cofrestredig yn paratoi i ddod yn rhan o weithlu GIG Cymru. Byddant yn cael eu cefnogi gan filoedd o hyfforddeion.
Dywedodd y Gweinidog Iechyd Vaughan Gething: “Rydw i wedi synnu at ymateb y gweithwyr iechyd a gofal proffesiynol i’n ceisiadau am eu cefnogaeth. Mae hyn yn ein hatgoffa ni o ymrwymiad gwych ein staff iechyd a gofal.
“Yn ystod y dyddiau diwethaf rydyn ni wedi gweld cynnydd yng nghyflymder a brys yr ymateb ledled Cymru i baratoi gwasanaethau iechyd a gofal hanfodol i wynebu’r heriau sydd o’n blaen oherwydd coronafeirws.”
Mae nifer y gwelyau gofal critigol a gyda pheiriannau anadlu mewnwthiol sydd ar gael yng Nghymru wedi mwy na dyblu – bellach mae mwy na 350 ac mae’r nifer yn parhau i gynyddu. Ar hyn o bryd, mae 48% o’r gwelyau hyn yn llawn ac mae ychydig dros hanner y rhain yn cael eu defnyddio i ofalu am bobl sydd â choronafeirws.
Mae gan ysbytai yng Nghymru 415 o beiriannau anadlu a 349 o beiriannau anaesthetig pellach gyda chapasiti peiriannau anadlu a 207 o beiriannau anadlu anfewnwthiol. Mae 1,035 o beiriannau anadlu pellach yn cael eu caffael gan Bartneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru a thrwy drefniadau’r DU.
Dywedodd Dr Andrew Goodall, prif weithredwr GIG Cymru: “Ledled Cymru, mae hyfforddiant wedi cael ei ddarparu i wella sgiliau cannoedd o staff nad ydynt yn gweithio fel rheol mewn gofal critigol.
“Mae ardaloedd ychwanegol wedi’u neilltuo mewn ysbytai i ddarparu mwy o gymorth anadlu mewnwthiol i gleifion yn ychwanegol at y gofod sydd ar gael fel rheol mewn unedau gofal critigol. Mae hyn yn ychwanegol at yr ardaloedd hynny sydd wedi’u datgan fel rhai capasiti ymchwydd ar gyfer cleifion difrifol wael fel rhan o’r cynlluniau presennol i ddyblu capasiti pan fo angen.
“Mae byrddau iechyd yn gweithio i sicrhau bod pobl ddifrifol wael yn cael eu trin yn ein hysbytai ni gan ddefnyddio’r capasiti presennol ac ychwanegol.”
Mae pob bwrdd iechyd yn cynyddu ei nifer o welyau ysbyty, gan gynnwys creu ysbytai maes a gweithio gyda’r sector annibynnol, fel a ganlyn:
- Ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro, bydd gan Stadiwm y Principality yng Nghaerdydd le ar gyfer 2,000 o welyau.
- Bydd Ysbyty’r Brifysgol Grange yn cael ei agor yn gynnar yn ardal BIP Aneurin Bevan gan ddarparu 350 o welyau ychwanegol. Bydd partneriaeth gydag Ysbyty Sant Joseph yng Nghasnewydd yn darparu 36 o welyau ychwanegol.
- Bydd BIP Betsi Cadwaladr yn creu 870 o welyau ychwanegol yn Venue Cymru yn Llandudno, Canolfan Hamdden Glannau Dyfrdwy a Phrifysgol Bangor.
- Bydd BIP Cwm Taf Morgannwg yn creu 900 o welyau ychwanegol yng nghanolfan URC yn y Fro ac yn defnyddio Ysbyty’r Fro yn Hensol, Tŷ Trevithick yn Abercynon a gwelyau cartrefi gofal a chymunedol.
- Mae gan BIP Hywel Dda gynlluniau ar gyfer 660 o welyau ychwanegol drwy ddefnyddio Parc y Scarlets a Bluestone yn Sir Benfro, Canolfan Selwyn Samuel yn Llanelli ac Ysbyty Werndale yng Nghaerfyrddin.
- Bydd BIP Bae Abertawe yn creu mwy na 1,400 o welyau yn Academi Chwaraeon Llandarsi, Stiwdios Bay yn Abertawe a hefyd bydd yn defnyddio Ysbyty Sancta Maria.
- Mae Bwrdd Iechyd Addysgu Powys yn bwrw ymlaen ag amrywiaeth o gyfleoedd er mwyn creu gwelyau ysbyty ychwanegol mewn cymunedau lleol.
Mae’r GIG yn gweithio gyda chynllunwyr milwrol i sicrhau bod y capasiti ychwanegol ar gael cyn gynted â phosib.
Ychwanegodd Mr Gething: “Yn ystod y cyfnod tywyll yma, byddai’n hawdd anghofio beth sydd wedi cael ei gyflawni mewn dim ond ychydig o wythnosau, a’r cynnydd enfawr sydd wedi cael ei wneud yn paratoi gwasanaethau’r GIG a gofal cymdeithasol ar gyfer y coronafeirws.
“Byddwn yn ddiflino yn ein paratoadau ar gyfer y dyddiau a’r wythnosau sydd i ddod ond mae’n bwysig ein bod yn cydnabod beth sydd wedi’i wneud eisoes.
“Mae ein staff iechyd a gofal, gwirfoddolwyr a busnesau yng Nghymru, ac yn wir ledled y DU, yn dod at ei gilydd mewn ffyrdd eithriadol er mwyn wynebu’r argyfwng yma a gofalu am bobl, paratoi gwasanaethau a gwarchod cymunedau.
“Bydd pob cyfraniad unigol yn helpu i achub bywydau ac rydw i wir yn ddiolchgar i bawb cysylltiedig.”
DIWEDD
Nodiadau i olygyddion
English version sent earlier