Goleuo Safleoedd hanesyddol Cymru
Diary Marker – Lighting up Wales’ Historic Sites
8pm dydd Iau 7 Mai
Bydd mwy o safleoedd hanesyddol o dan ofal Cadw yn cael eu goleuo i gefnogi'r gwaith anhygoel a wneir gan y GIG a gweithwyr gofal cymdeithasol yng Nghymru yr wythnos hon.
Am y tro cyntaf fe fydd Castell Coch a Chastell Caernarfon yn cael eu goleuo yn lliwiau’r enfys
Mae’r safleoedd canlynol yn cael eu goleuo'n las bob nos, Cas-Gwent; Tyndyrn; Cydweli; Harlech; Cricieth; Caernarfon; Biwmares, Rhuddlan a Chastell Conwy
Bydd y gair ' diolch' hefyd yn ymddangos ar gastell Caerffili.
Atgoffir aelodau o'r cyhoedd i aros adref, fodd bynnag, gofynnir i unrhyw un sy'n gallu gweld y safleoedd o'u cartrefi dagio @cadwwales ar y cyfryngau cymdeithasol.
Mae pob safle Cadw, yn cynnwys rhai sydd heb staff gan amlaf, yn parhau i fod ar gau i ymwelwyr ar hyn o bryd.
Nodiadau i olygyddion
Fe oleuwyd Castell Conwy yn lliwiau’r enfys wythnos diwethaf – llun wedi ei atodi
Photo credit: Peter Whitehead of Illuminated Events.