English icon English

Gorau Cymru ar y ffordd i Tsieina

Wales’ best on road to China

Tua chwarter carfan hyfforddi WorldSkills UK o golegau Cymru

Mae myfyrwyr a phrentisiaid o golegau ledled Cymru wedi dechrau cystadlu am eu lle fel rhan o Dîm y DU yn y 'Gemau Olympaidd Sgiliau' yn Tsieina y flwyddyn nesaf.

Mae'r unigolion talentog, sydd wedi dangos gallu eithriadol yn eu priod ddisgyblaethau, bellach yn symud ymlaen trwy'r broses ddethol drylwyr gyda'r gobaith o gynrychioli Cymru a'r DU ar y llwyfan rhyngwladol.

Mae WorldSkills UK - mewn partneriaeth â Pearson - wedi cyhoeddi y bydd dros 80 o bobl ifanc yn ymuno â'u rhaglen hyfforddi ddwys 18 mis, gyda'r nod o gael eu dewis ar gyfer y tîm sy'n cynrychioli'r wlad yn WorldSkills Shanghai ym mis Medi 2026. O'r nifer hwnnw mae 20, felly tua chwarter, yn Gymry.

Mae'r gystadleuaeth yn cael ei hystyried gan arbenigwyr byd-eang fel y prawf eithaf o allu cenedl i ddiwallu anghenion sgiliau yn y dyfodol. 

Dyma'r tro cyntaf i Tsieina gynnal y digwyddiad mawreddog - a elwir yn 'Gemau Olympaidd sgiliau' - lle bydd 1,500 o bobl ifanc yn teithio o dros 80 o siroedd i gystadlu mewn disgyblaethau sgiliau technegol o beirianneg, gweithgynhyrchu a thechnoleg i sgiliau creadigol, digidol a lletygarwch o flaen cynulleidfa o 250,000. 

Bydd y DU yn cystadlu mewn dros 30 o sgiliau yn WorldSkills Shanghai 2026, gan gynnwys Celf Gêm Ddigidol 3D, Integreiddio Systemau Robotiaid ac Ynni Adnewyddadwy. 

Un o'r cystadleuwyr a alwyd i ymuno â'r rhaglen ddatblygu yw Madeleine Warburton, a enillodd fedal arian mewn Ynni Adnewyddadwy yn rowndiau terfynol Cenedlaethol y DU yn 2024. Doedd y ferch 19 oed sy'n astudio yng Ngholeg y Rhyl ddim yn gwybod llawer am gystadlaethau sgiliau ar y pryd, ond mae'n dweud y byddai'n annog unrhyw un i gystadlu:

"Roeddwn i eisiau ehangu fy ngwybodaeth yn y sector adnewyddadwy y tu allan i'r coleg a'r gwaith, i helpu i wella fy sgiliau ar gyfer pan fyddaf yn mynd ar safle, dysgu mwy am solar, cystadlu a chwrdd â phobl o'r un anian ac ehangu fy rhwydweithiau.

"Byddwn yn bendant yn annog unrhyw un i gystadlu. Does dim ots pa mor bell ar hyd y broses ydych chi, byddwch yn elwa ohoni. Mae'r profiad wedi bod yn gadarnhaol iawn hyd yn hyn ac wedi ehangu fy ngwybodaeth o'r diwydiant yn fawr. Rwyf wedi dysgu llawer iawn, ac wedi datblygu sgiliau trosglwyddadwy. Mae fy hyder yn fy maes wedi gwella'n fawr ac rydw i wedi cwrdd â ffrindiau oes drwy'r broses."

Dywedodd y Gweinidog Diwylliant a Sgiliau, Jack Sargeant:

"Mae gennym gymaint i edrych ymlaen ato yn y maes cystadlaethau sgiliau yng Nghymru. Rhwng Rowndiau Terfynol WorldSkills UK yn dod i Gymru ym mis Tachwedd a gweld y garfan gref hon yn ceisio cael eu dewis ar gyfer Shanghai, mae ein dyfodol economaidd mewn dwylo da. Gydag 20 o gystadleuwyr o Gymru yn cymryd rhan, mae Cymru yn profi unwaith eto y gall gwlad fechan gystadlu â’r gorau un yn y maes.

"Mae hon yn broses hir, ond rwy'n dymuno 'pob lwc' i bawb sy'n gweithio tuag at ddewis terfynol y garfan."