Gorllewin Cymru yn manteisio ar fuddsoddiad mewn ynni glân

West Wales powers up with clean energy investment

  • 2.75 miliwn i saith sefydliad ar draws Sir Benfro, Sir Gaerfyrddin a Cheredigion ar gyfer ynni gwyrdd drwy raglen Ynni Cymru Llywodraeth Cymru
  • Mae'r saith menter ymhlith 24 o brosiectau ledled Cymru a fydd yn rhannu £8.27 miliwn drwy drydydd rownd ariannu’r rhaglen
  • Mae'r buddiolwyr yn cynnwys neuaddau cymunedol, elusennau, busnesau a grwpiau ynni lleol, gan gynnwys Skanda Vale, sy'n gartref i anifeiliaid wedi'u hachub, megis yr eliffantod Asiaidd adnabyddus Valli a Bala.

Mae saith sefydliad ar draws Sir Benfro, Sir Gaerfyrddin a Cheredigion ar fin elwa ar £2.75 miliwn o gyllid Ynni Cymru. Bydd y buddsoddiad yn helpu grwpiau cymunedol, elusennau a mentrau ynni lleol i leihau costau ynni a rhyddhau mwy o adnoddau i gefnogi eu cymunedau.

Mae'r saith menter ymhlith 24 ledled Cymru fydd yn derbyn cyfran o £8.27 miliwn drwy drydedd rownd ariannu'r rhaglen.

Ymhlith y buddiolwyr mae Skanda Vale ger Llanpumsaint, elusen a noddfa anifeiliaid sydd eisoes wedi gweld manteision sylweddol yn sgil buddsoddi mewn ynni adnewyddadwy.

Yn gartref i anifeiliaid wedi'u hachub, gan gynnwys yr eliffantod Asiaidd adnabyddus Valli a Bala, mae'r elusen wedi derbyn £251,545 i osod system storio batris a mannau gwefru cerbydau trydan cyhoeddus. Bydd hynny'n ei helpu i wneud gwell defnydd o'r ynni adnewyddadwy y mae eisoes yn ei gynhyrchu.

Drwy gyllid blaenorol gan Ynni Cymru, gosodwyd tyrbin gwynt sy'n gweithio ochr yn ochr â'r paneli solar sydd eisoes ar y safle. Gyda'i gilydd, mae'r systemau wedi lleihau biliau trydan o tua £1,000 yr wythnos i bron ddim, gan arbed mwy na £40,000 y flwyddyn.

Fel elusen, mae Skanda Vale yn ailfuddsoddi'r arbedion mewn gwasanaethau am ddim i'r gymuned, gan gynnwys prydau bwyd, llety, encilion a'i phrosiect cymorth bwyd, Bwyd o Skanda. Yn ystod 2025, dosbarthodd y prosiect 98 tunnell o fwyd drwy sefydliadau partner. Mae tua 100,000 o bobl yn ymweld â'r safle bob blwyddyn, a bydd y cyllid diweddaraf yn helpu i sicrhau bod y gwasanaethau hyn yn gallu parhau hyd yn oed yn ystod toriadau pŵer neu dywydd garw.

Y saith prosiect yng ngorllewin Cymru sy'n derbyn cyllid yw:

  • Renewable Power Pembrokeshire, Doc Penfro - menter sy'n helpu cymunedau lleol i ddatblygu prosiectau ynni adnewyddadwy
  • Neuadd Goffa Clarbeston Road, Sir Benfro - neuadd gymunedol
  • Clynfyw, Sir Benfro - sefydliad sy'n darparu cartrefi a chymorth i oedolion ag anableddau dysgu
  • Mandala Yoga Ashram, Llanwrda, Sir Gaerfyrddin - canolfan lles ac encilion
  • Carmarthenshire Energy Ltd (Ynni Sir Gâr), Caerfyrddin - sefydliad sy'n datblygu prosiectau ynni adnewyddadwy mewn cymunedau lleol
  • The Community of the Many Names of God (Skanda Vale), Sir Gaerfyrddin - elusen a noddfa anifeiliaid
  • Ynni Bro Rhian Cyfyngedig, Ceredigion - menter sy'n helpu cymunedau lleol i gynhyrchu a defnyddio ynni adnewyddadwy.

Mae Ynni Cymru yn rhaglen gan Lywodraeth Cymru sy'n helpu cymunedau, busnesau a gwasanaethau cyhoeddus i gynhyrchu a defnyddio eu hynni glân eu hunain. Ei nod yw lleihau costau ynni a sicrhau bod mwy o'r budd yn aros yn lleol.

Ers ei sefydlu yn 2023, mae'r rhaglen wedi cefnogi mwy nag 80 o brosiectau ledled Cymru. Bydd y drydedd rownd hon o gyllid yn darparu £8.27 miliwn i 24 o sefydliadau, gan gynnwys saith yng ngorllewin Cymru, gan olygu bod cyfanswm buddsoddiad Ynni Cymru bellach yn fwy na £31 miliwn.

Dywedodd Collette Sanders o Big Bocs Bwyd Llandeilo:

“Rydym wedi elwa'n fawr ar y bwyd sych, gan gynnwys reis, te a chodlysiau, sydd wedi cael eu darparu gan Skanda Vale dros y blynyddoedd, ac rydym ni a'r bobl sy'n defnyddio ein gwasanaeth yn hynod ddiolchgar am hynny.

“Dros y flwyddyn ddiwethaf, mae'r rhoddion hynny wedi ein helpu i gefnogi mwy na 1,000 o ymweliadau â'n canolfan.

“Rwy'n gwybod y bydd y buddsoddiad hwn yn cryfhau'r rhwydwaith cymorth bwyd lleol ar adeg pan fo ei angen fwyaf ar ein cymunedau."

Dywedodd y Gweinidog Cabinet dros Fenter, Cysylltedd ac Ynni, Adam Price:

“Rwy'n falch iawn bod sefydliadau ar draws Sir Benfro, Sir Gaerfyrddin a Cheredigion yn elwa ar y rownd ddiweddaraf hon o gyllid Ynni Cymru.

“Mae'r prosiectau hyn yn dangos sut y gall ynni glân wneud gwahaniaeth ymarferol i bobl leol, boed hynny'n cefnogi neuaddau cymunedol, helpu elusennau i gynnal gwasanaethau hanfodol neu ryddhau mwy o adnoddau i'w buddsoddi'n ôl yn y cymunedau maent yn eu gwasanaethu.

“Mae Ynni Cymru yn gwireddu gweledigaeth Llywodraeth Cymru o sicrhau ynni glanach a rhatach, sy'n cael ei berchnogi a'i ddefnyddio gan bobl a chymunedau ledled Cymru.”