Grant band eang yn darparu cysylltedd sy'n newid bywydau
Broadband grant delivers life-changing connectivity
Mae dyn byddar ac anabl o Bowys sy'n cael trafferth heb fynediad band eang a dim signal symudol yn ei gartref yn dweud bod ei gysylltedd digidol wedi cael ei drawsnewid diolch i gefnogaeth Llywodraeth Cymru.
Canfu Mark, sy'n byw mewn ardal wledig iawn ym Mhowys, fod mynediad at fand eang da yn dod yn fwyfwy pwysig ar gyfer anghenion cyfathrebu a diogelwch.
Creodd y diffyg cysylltedd rwystrau sylweddol i waith a bywyd pob dydd Mark. Profodd anawsterau mawr yn defnyddio Iaith Arwyddion Prydain gyda dehonglwyr yn ystod galwadau fideo ar gyfer gwaith, ac roedd mynediad at adloniant ar-lein fel ffrydio rhaglenni teledu a ffilmiau yn amhosibl.
Ar ôl clywed bod cymdogion yn ei gymuned wedi defnyddio cynllun grant Allwedd Band Eang Cymru (ABC) Llywodraeth Cymru yn llwyddiannus, ymchwiliodd Mark i'w opsiynau a phenderfynu ar ddatrysiad band eang lloeren.
Meddai:
“Rwyf wedi mynd o ddim rhyngrwyd i sicrhau cyflymderau lawrlwytho o dros 350Mbps.
Rwyf bellach yn gallu cyfathrebu â'r gwaith a ffrindiau drwy neges destun, e-bost a galwadau fideo gan ddefnyddio Iaith Arwyddion Prydain. Mae'r cysylltiad cyflymach yn golygu bod Iaith Arwyddion Prydain yn llawer mwy real a hwylus. Gallaf nawr hefyd ffrydio rhaglenni gyda chapsiynau caeedig ar fy nyfeisiau.
Heb y grant, ni fyddai band eang gen i, rhoddodd yr hyder i mi fynd ati gyda chysylltiad newydd. Gall y gost fisol uwch ar gyfer band eang lloeren fod yn broblem, ond i mi mae'r dibynadwyedd mor bwysig ar gyfer cadw cysylltiadau a chyfathrebu.”
Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio, Rebecca Evans:
"Mae cynllun Allwedd Band Eang Cymru mor hanfodol i gymunedau ledled Cymru.
"Nid yw cysylltedd band eang cyflym, dibynadwy bellach yn foethusrwydd - mae'n hanfodol ar gyfer gwaith, cyfathrebu a mynediad at wasanaethau. Rwy'n falch iawn fod Mark wedi gallu goresgyn y rhwystrau digidol a wynebodd a chael y cysylltedd sydd ei angen arno i gymryd rhan lawn mewn bywyd modern.
"Dyma'n union beth oedd bwriad y cynllun, sicrhau nad oes neb yng Nghymru yn cael ei adael ar ôl yn ein cymdeithas ddigidol."
I ddarganfod mwy am gynllun Allwedd Band Eang Cymru Llywodraeth Cymru a'r atebion sydd ar gael i chi ar gyfer cael band eang cyflymach ewch i llyw.cymru/band-eang-yng-Nghymru.