English icon English

Grant newydd gwerth £150,000 ar gyfer hyfforddiant seiber i wasanaethau cyhoeddus Cymru

New £150,000 cyber training grant for Welsh public services

Heddiw, mae'r Gweinidog Cyllid Rebecca Evans wedi cyhoeddi cyllid grant gwerth £150,000 i helpu i atgyfnerthu sgiliau seibergadernid ar draws y sector cyhoeddus.

Bydd y buddsoddiad newydd hwn yn ariannu hyd at 50 o leoedd ar gyfer hyfforddiant achrededig i weithwyr TG proffesiynol sydd â chyfrifoldeb am seiberddiogelwch ar draws y sector, gan gynnwys awdurdodau lleol, gwasanaethau tân, heddluoedd a byrddau iechyd. 

Gan fod y galw am wasanaethau TG wedi cynyddu ers dechrau'r pandemig, bydd y cyllid yn helpu i gyflwyno hyfforddiant cyson ar draws y sector cyhoeddus, gyda ffocws ar reoli gwasanaeth seiber diogel a chadarn.

Dywedodd y Gweinidog Cyllid, Rebecca Evans:

"Rydym wedi gweld cynnydd amlwg yn y defnydd o dechnoleg ddigidol yn ystod y pandemig. Mae mwy o bobl nag erioed yn cysylltu â'i gilydd ar-lein, felly mae'n bwysig iawn ein bod yn cymryd y mesurau cywir er mwyn sicrhau bod Cymru yn parhau i fod yn wlad sy'n seiberddiogel.

"Bydd y cyllid rydw i'n ei gyhoeddi heddiw yn helpu i roi mwy o sgiliau i weithwyr TG proffesiynol ar draws y sector cyhoeddus, i sicrhau eu bod yn y sefyllfa orau bosibl i warchod rhag bygythiadau seiber posibl."

Y cyllid hwn yw'r diweddaraf mewn cyfres o fesurau gwella sy'n cael eu cymryd i gadw Cymru yn seiberddiogel. Ym mis Mai, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru £248,000 yn ychwanegol i helpu awdurdodau lleol i atgyfnerthu eu seibergadernid mewn ymateb i argyfwng y coronafeirws.